Cadwa dy ddyddiadur yn glir ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol / Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn Hydref 30.Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn y bore (10am - 12pm) a'r Rali yn y prynhawn (2pm - 4pm).'Tynged yr Iaith 2' fydd thema y Rali Flynyddol eleni ac fe fydd yr actorion Ryland Teifi a Siôn Ifan yn cymryd rhan (mae'n si?r dy fod wedi eu gweld nhw ar y gyfres ar Pen Talar). Mae Siôn Ifan yn or-?yr i Saunders Lewis, y g?r draddododd Tynged yr Iaith yn ôl yn 1962 ac fe fwriada ddarllen darlith ei hen Daid yn y Rali. Hon yw'r ddarlith roddodd gychwyn i'r Gymdeithas.Ond yn y rali hon fe gei hefyd fersiwn newydd o'r ddarlith, un fydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. A'r gobaith yw y bydd y ddarlith newydd hon yn her i ni wynebu'r bygythiadau sydd o'n blaenau heddiw. Tyrd draw i wrando ac i gymryd rhan.Mae croeso i ti anfon dy gynigion ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol erbyn Hydref 1. Erbyn y dyddiad hwnnw mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn enwebiadau ar gyfer aelodaeth Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2010/2011. Gwybodaeth llawn yma: http://cymdeithas.org/senedd/Gobeithio dy weld di yno.Menna MachrethCadeirydd Cymdeithas yr Iaith