Western Mail: gofyn am ymddiheuriad dros y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol am y darn golygyddol yn y papur heddiw.

Mae'r mudiad pwyso hefyd yn sefydlu deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw ar i bobl gefnogi argymhellion pwyllgor y Cynulliad dros sicrhau bod dogfennau swyddogol ar gael yn ddwyieithog.

Fe dorrodd Comisiwn y Cynulliad ei bolisi iaith am 17 mis ar ol diddymu Cofnod cwbl gymraeg o drafodion y Cynulliad, a dros y 3 mlynedd diwethaf, mae buddsoddiad yng ngwasanaethau Cymraeg gan y Comisiwn wedi ei dorri mewn termau real o dros 14%.

Dywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Y bore yma, rwy'n ysgrifennu at olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol gan y papur am gymryd safbwynt rhagfarnllyd tuag at y Gymraeg. Hoffwn bwysleisio ein bod yn cefnogi hawl y papur i adrodd y newyddion am y Bil Ieithoedd Swyddogol - credwn yn gryf yn rhyddid y wasg. Fodd bynnag, mae'r lein olygyddol a ymddangosodd yn y papur heddiw wedi croesi llinell, llinell na fyddai neb yn ei derbyn mewn maes cydraddoldeb arall. Mae gan y papur ohebwyr o'r safon uchaf, ond mae'r Golygydd wedi gwneud camgymeriad golygyddol enfawr. Rydym yn ffyddiog y bydd y papur yn gwneud ymddiheuriad i adfer ei hygrededd yng ngolwg pobl Cymru sydd, boed yn Gymry Cymraeg neu'n ddi-Gymraeg, yn gefnogol iawn o'r buddsoddiad yn y Gymraeg."

"Hoffwn ddiolch i'r Aelodau Cynulliad o bob plaid sydd wedi adlewyrchu'r dystiolaeth a ddaeth o'u blaenau yn ystod y trafodaethau am y Bil yn y cyfarfodydd pwyllgor. Rydym yn galw ar i bobl lofnodi'r ddeiseb rydyn ni'n sefydlu ar wefan y Cynulliad yn cefnogi argymhellion y pwyllgor. Os ydym am weld Cymru ddwyieithog mae'n rhaid gwneud y Gymraeg yn ganolog a rhan naturiol o fywyd bob dydd, nid ei hystyried fel rhywbeth ymylol neu foethusrwydd nad yw'n angenrheidiol. Mae argymhellion y pwyllgor yn gwneud hynny a byddent yn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg yn ein corff democrataidd, yn anffodus ar hyn o bryd mae Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler yn gwrthod eu derbyn ar hyn o bryd."

"Peth arall sy'n destun pryder yw'r hyn sydd tu ôl i'r stori hon yw bod Aelod Cynulliad - neu aelod o staff y Cynulliad - yn amlwg wedi briffio'r wasg yn anhysbys am y mater, gan friffio yn erbyn pwyllgor sydd wedi gwrando ar gyfres o dystion a datgan eu barn yn agored. Os mai aelodau Comisiwn y Cynulliad sy'n ymostwng mor isel a hyn er mwyn osgoi cyfrifoldeb moesol y Cynulliad tuag at ein hiaith genedlaethol, credwn ei bod yn bryd i rai ailystyried eu sefyllfa".