Y Cofnod: Amser i'r Comisiwn wrando

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu adroddiad gan ACau sydd wedi argymell y dylid gwarantu mewn statud darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad

Y llynedd, dyfarnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg bod y Comisiwn wedi bod yn torri ei gynllun iaith statudol trwy beidio â darparu'r ddogfen yn Gymraeg, sefyllfa a arweiniodd at dros 1,500 o bobl yn llofnodi deiseb.

Mae ACau wrthi'n ystyried Bil – Y Bil Ieithoedd Swyddogol - a fyddai'n newid eu polisi iaith. Dywed adroddiad y Pwyllgor Craffu:

Rydym wedi ystyried yn ofalus iawn y dystiolaeth gan y tystion a’r Comisiynydd ynghylch a ddylid rhoi’r ddyletswydd i ddarparu Cofnod cwbl ddwyieithog (o’r Cyfarfod Llawn) ar wyneb y Bil. Rydym wedi ein hargyhoeddi ei bod yn briodol gwneud hynny. Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, rydym wedi ystyried y dystiolaeth helaeth o blaid y dull gweithredu hwn ... rydym [hefyd] yn cytuno gyda’r rhai sydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd symbolaidd Cofnod y Trafodion i’r iaith Gymraeg, yn enwedig o ystyried ei statws yn Gofnod swyddogol prif sefydliad democrataidd Cymru.”

“Os mai bwriad Comisiwn presennol y Cynulliad yw y dylid cyhoeddi Cofnod y Trafodion yn ddwyieithog bob amser, ni welwn reswm rhesymegol pam na ddylai’r ymrwymiad ymddangos ar wyneb y Bil. Credwn fod y dull gweithredu hwn yn fwy eglur ac yn fwy sicr na phe bai ymrwymiad yn ymddangos yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar aelodau Comisiwn y Cynulliad i wrando ar farn y pwyllgor a newid y ddeddfwriaeth arfaethedig. Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau'r mudiad:

"Rydyn ni'n croesawu'r yr elfen hon yn yr adroddiad. Ni allai'r pwyllgor fod ddim cliriach - mae'n hanfodol fod y Bil yn gwarantu bod Cofnod swyddogol o drafodaethau'r Cynulliad ar gael yn gwbl Gymraeg. Dyna beth ddywedodd Bwrdd yr Iaith, pob person a gyflwynodd tystiolaeth lafar i'r pwyllgor, rhan helaeth o'r dystiolaeth ysgrifenedig a dros fil pum cant o lofnodwyr ein deiseb. Y cwestiwn nawr ydy a fydd Rhodri Glyn Thomas AC, a'i gyd-gomisiynwyr, yn derbyn barn glir y bobl neu beidio? Does dim ffordd ganol iddyn nhw - naill ai eu bod nhw'n rhoi'r sicrwydd diamheuol mewn statud neu ddim."