
Wrth ymateb i’r newyddion fod banc Barclays i gau eu cangen yn Llandysul, gan adael y dref heb fanc, mae Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc Cymru. Dywedodd Sioned Elin:
“Dyma fanc olaf Llandysul yn cyhoeddi ei fod yn cau ei ddrysau, a bydd y swyddfa bost ynghanol y dref yn cau gan symud i archfarchnad tu fas i Landysul cyn hir. Bydd llai fyth yn mynd i Landysul, a heb fanc bydd hi’n anoddach i siopau a busnesau eraill y dref aros ar agor. Bydd hi’n anoddach i bobl ifanc yr ardal fyw yma, a phwy sydd eisiau byw mewn ardal ble mae’n rhaid teithio’n bell er mwyn gwneud pethau elfennol? Gyda Llandysul ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion bydd hon fod yn ergyd i bobl yn y ddwy sir.
“Mae Dyffryn Teifi wedi ei benodi yn un o Ardaloedd Twf Lleol y Llywodraeth ers sawl blwyddyn, ond beth mewn difrif ddaeth o hynny? Gyda mwy o fanciau ar draws Cymru yn cau a swyddfeydd post yn cael eu symud, pam na ellid trafod a symud i sefydlu banc a gwasanaeth post Cymru? Mae’n dod yn fwy amlwg nad yw gwasanaethu’n cymunedau o wir ddiddordeb i’r banciau rhyngwladol, felly mae angen gwasanaeth post a bancio sy'n gweithredu er lles y Gymru wledig. Beth am i Lywodraeth Cymru weithredu dros ein cymunedau?”
Y stori yn y wasg:
Bank Closure Sparks Call for Government Action - Tivy Side, 8fed o Awst