Ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg ar eu hisaf erioed

Gwrthododd Comisiynydd newydd y Gymraeg ymchwilio i dros saith deg y cant o’r cwynion a dderbyniodd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yn ei fis cyntaf yn y swydd - y ganran uchaf ers i’r Safonau ddod i rym - yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law mudiad iaith. 

Mae’r ffigyrau’n dangos bod Aled Roberts, ers iddo gael ei benodi fel Comisiynydd y Gymraeg, wedi ymchwilio i’r ganran isaf o gwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg ers i’r Safonau ddod i rym. Mae’r ystadegau, a gafodd eu datgelu i Gymdeithas yr Iaith drwy gais rhyddid gwybodaeth, wedi peri i’r ymgyrchwyr rybuddio bod ‘pergyl y bydd y cyhoedd yn colli ffydd’ yn ei waith. 

Yn ôl y wybodaeth mae Cymdeithas yr Iaith wedi’i derbyn drwy gais rhyddid gwybodaeth, dim ond 26% o’r cwynion a dderbyniodd y penderfynodd Aled Roberts ymchwilio iddynt yn ystod ei fis cyntaf yn y swydd - ffigwr llawer is na’r un mis yn y tair blynedd ddiwethaf. Cynhaliodd y cyn-Gomisiynydd, Meri Huws, ymchwiliad i 75% o’r cwynion a dderbyniodd ym mis Ebrill 2018. Yn ei ddeufis cyntaf yn y swydd, gwrthododd y cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol ymchwilio i dros hanner y cwynion a dderbyniodd, sydd hefyd yn llawer uwch nag unrhyw gyfnod cyfatebol yn ystod cyfnod Meri Huws yn y swydd.

Mae gohebiaeth rhwng y Comisiynydd a Gweinidog y Gymraeg, sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, yn dangos bod y Comisiynydd wedi newid ei bolisi ar ymdrin â chwynion yn dilyn pwysau gan y Llywodraeth. 

Yn ymateb i’r newyddion, dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith:

“Y pryder rydyn ni’n ei glywed gan nifer o aelodau’r Gymdeithas yw nad ydyn nhw’n teimlo bod y system gwyno, ers i Mr Roberts gael ei benodi, yn blaenoriaethu buddiannau siaradwyr Cymraeg bob tro. Mae’r ystadegau yma’n dangos bod sail i’w pryderon. Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn mynd i wanhau ein hawliau iaith os yw’r patrwm yn parhau. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu aferion sefydliad. Felly, mae pergyl, drwy ymddwyn fel hyn, y bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu’r gyfraith. Mae ‘na bergyl hefyd y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â’u cwynion o ddifrif. 

“Mae’n warthus bod y Llywodraeth wedi dwyn pwysau ar y Comisiynydd i gymryd agwedd sy’n fwy ffafriol i gyrff a chwmnïau. Mae’n hollol annerbyniol hefyd bod swyddfa’r Comisiynydd wedi ildio a mabwysiadu polisi newydd ar ddelio â chwynion o ganlyniad - fe ddylen nhw fod yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Fel arall, pwy sy’n mynd i amddiffyn yr iaith a’i siaradwyr? 

Ychwanegodd:

“Wrth reswm, rydyn ni’n falch bod swydd y Comisiynydd wedi’i hachub - mae amddiffyn ein hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn hollbwysig. Mae’n rhaid i Aled Roberts barhau i ddangos gwerth y swydd fel rheoleiddiwr sy’n annibynnol ar y Llywodraeth, fel y gwnaeth ei ragflaenydd.

“Roedden ni wedi’n calonogi’n ddiweddar gan ei sylwadau am bwysigrwydd y diwydiant amaeth a phwysigrwydd cymunedau Cymraeg ynghyd â’i ffocws ar bwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ffyniant y Gymraeg. Ond mae angen iddo brofi hefyd ei fod yn cymryd ei waith fel rheoleiddiwr o ddifrif.”

Cliciwch yma ac yma i weld yr ohebiaeth rhwng y Gweinidog a'r Comisiynydd.

Cliciwch yma i weld yr ystadegau llawn.

Y stori yn y wasg:

Cymru Fyw

Nation Cymru

WalesOnline