Ymgyrchwyr iaith 'wedi eu cau allan' o'r broses ddeddfu, ofna'r Gymdeithas

Methodd y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan gwrdd ag unrhyw fudiad gwirfoddol yn ystod y broses o drosglwyddo pwerau iaith i'r Cynulliad, er ei fod yn ddigon bodlon cwrdd â busnesau mawrion, mae dogfennau a ryddhawyd o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth wedi dangos.Yn ôl y wybodaeth a ddatguddiwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn ystod y trafodaethau ar y gorchymyn, mewn cyfres o 10 cyfarfod, cyfarfu'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan â sawl busnes mawr, ond dim un mudiad Cymraeg gwirfoddol yn cynrychioli siaradwyr neu ddefnyddwyr yr iaith. Mewn un cyfarfod yn Nhachwedd 2008, cyfarfu Rhodri Morgan ag 11 cwmni a chorff cynrychioladol gan gynnwys Tesco, BT, y CBI a Nwy Prydain yn ogystal â Bwrdd yr Iaith.

Gwrthododd y cyn-Brif Weinidog gwrdd â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod y trafodaethau ar y gorchymyn; cytunodd Peter Hain, yr Ysgrifennydd Gwladol i gyfarfod ond yn hwyr iawn yn y broses ychydig dyddiau yn unig cyn cyhoeddi'r GCD terfynol.Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth:"Rydym ni credu y dylai'r llywodraeth gynnig gwrandawiad teg i fudiadau sydd wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau ieithyddol i bobl Cymru. O'r wybodaeth a dderbyniwyd, roedd busnesau yn cael cwrdd â'r prif weinidog, y prif berson oedd yn gyfrifol am daro bargen gyda San Steffan ar y gorchymyn, ond dim un mudiad ymgyrchu oedd eisiau pwerau eang wedi eu datganoli dros yr iaith."Er i'r Prif Weinidog gwrdd â Bwrdd yr Iaith, ni allen nhw fod yn wrthrychol oherwydd bod dyfodol y bwrdd yn rhan ganolog o'r ddeddf. Er bod y Gweinidog Treftadaeth wedi cyfarfod yn gyson â ni, mae'n debyg fod y trafodaethau rhwng y Llywodraethau yng Nghymru a Llundain yn cael eu dominyddu gan ddiddordebau'r sector preifat nid hawliau pobl Cymru i gael grym llawn dros yr iaith Gymraeg. Ry'n ni'n edrych am gadarnhad y byddwch chi a gweinidogion eraill yn cynnig gwrandawiad teg i fudiadau Cymraeg yn ystod y broses o lunio'r mesur."