Hysbyseb Swydd - Arweinydd Uned Cyswllt i'r Cynulliad

 

Dathlu 50 fach.jpgArweinydd Uned Cyswllt i'r Cynulliad (10 awr yr wythnos i ddechrau)

Bydd yn cydlynu gwaith yr uned, yn atebol i'r Swyddog Cyfathrebu a Lobio ac yn cydweithio yn agos â swyddogion a gwirfoddolwyr eraill y mudiad i sefydlu Uned Gyswllt â'r Cynulliad er mwyn ffurfio, dylanwadu a phwyso am bolisïau a deddfau mewn meysydd sydd yn gyfrifoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn ymwneud yn benodol â'r iaith Gymraeg, addysg, gwasanaethau digidol a chymunedau Cymru.

Anfonwch eich llythyr cais erbyn Dydd Gwener Mehefin 29

Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Aberystwyth SY23 2AZ neu trwy e-bost post@cymdeithas.org