Bydda i'n ymddiswyddo fel Cadeirydd y Gymdeithas yn y Senedd ddydd Sadwrn er mwyn cymryd swydd gyffrous iawn ym mis Ionawr – swyddog Maes Dyfed i Gymdeithas yr Iaith.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra bues i'n Gadeirydd mae'r Gymdeithas wedi bod yn rhan o gyflawni sawl peth arwyddocaol iawn – Pasiwyd mesur yr iaith Gymraeg llynedd, lansiwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn swyddogol, lansiwyd gwefan newydd Cymdeithas yr Iaith yn ddiweddar ac mae dathliadau'r hanner canmlwyddiant yn dal i fynd rhagddynt.
Er i fi gyfrannu atyn nhw alla' i ddim eu hawlio fel buddugoliaethau personol. Mae'n nhw i gyd yn bethau mae nifer helaeth o bobl wedi bod yn gweithio arnynt – yn grwpiau ymgyrch ac fel celloedd a rhanbarthau ar draws Cymru.
Bydd llawer o sylw yn cael ei roi i ganlyniadau'r Cyfrifiad, gennym ni a gan nifer o gyrff a sefydliadau yn ogystal ag ar lawr gwlad. Mae'r Gymdeithas yn awyddus iawn i fod yn rhan o'r trafodaethau yma i gyd, ac yn enwedig y trafodaethau fydd yn digwydd ar lawr gwlad gan rannu pryderon a syniadau. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn teimlo y gallan nhw ddod aton ni felly.
Beth bynnag fydd canlyniadau'r Cyfrifad yn dangos o ran niferoedd y siradwyr Cymraeg yn dy ardal di does dim dwywaith fod yna heriau yn wynebu'r Gymraeg. Mae'r Gymdeithas yn awyddus iawn i wynebu'r heriau hynny a chydweithio gyda chymunedau er mwyn sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
Byddwn ni'n gwneud hynny yn rhannol drwy gyfres o ddigwyddiadau fydd yn adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws Cymru. Byddan nhw'n dechrau gyda Rali'r Cyfrif yng Nghaernarfon ar y 15ed o Ragfyr a Rali'r Dathlu'r Cynydd ym Merthyr ar Ionawr y 5ed.
Un o'n galwadau fydd ar i gymunedau gael eu grymuso i weithio drostynt eu hunain. Dydy'r Llywodraeth ganolog na lleol ddim wedi ymgymryd a'r her sydd yn wynebu'n cymunedau hyd yn hyn ac felly mae'n bryd i ni wneud ein hunain. Dim ond y dechreuad fydd y digwyddiadau hyn a bydd cyfraniad pob un a phob cymuned yn werthfawr.
Gan edrych ymlaen i barhau tuag at y chwyldro!