Gair o'r Gadair Esmwyth

 

Bydda i'n ymddiswyddo fel Cadeirydd y Gymdeithas yn y Senedd ddydd Sadwrn er mwyn cymryd swydd gyffrous iawn ym mis Ionawr – swyddog Maes Dyfed i Gymdeithas yr Iaith.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra bues i'n Gadeirydd mae'r Gymdeithas wedi bod yn rhan o gyflawni sawl peth arwyddocaol iawn – Pasiwyd mesur yr iaith Gymraeg llynedd, lansiwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn swyddogol, lansiwyd gwefan newydd Cymdeithas yr Iaith yn ddiweddar ac mae dathliadau'r hanner canmlwyddiant yn dal i fynd rhagddynt.

Er i fi gyfrannu atyn nhw alla' i ddim eu hawlio fel buddugoliaethau personol. Mae'n nhw i gyd yn bethau mae nifer helaeth o bobl wedi bod yn gweithio arnynt – yn grwpiau ymgyrch ac fel celloedd a rhanbarthau ar draws Cymru.

Pobl sydd wedi gwneud y Gymdeithas i fi erioed – y bobl sydd wedi fy ysbrydoli i ymuno a dod yn fwyfwy rhan o waith y Gymeithas a phob un fu'n rhoi arweiniad ac yn rhannu o'u profiadau dros y blynyddoedd. Yn fwy na hynny mae'r holl bobl wnaeth droi allan i rali, i brotest, pawb darodd air ar bapur fel rhan o un o'n hymgyrchoedd, a phawb sydd wedi cefnogi'r Gymdeithas - ym mha bynnag ffordd. Ni sydd yn cadw ysbryd a momentwm ymgyrch a sicrhau canlyniadau.
 
Un o nifer o uchafbwyntiau i fi, heb os, yw Gwyl 50. Roedd gweld cymaint o bobl yn joio, yn creu awyrgylch o ddathlu, y brwdfrydedd gros ganu Cymraeg, pobl yn mynd i hwyliau. Y cyfan yn fy atgoffa fod angen dathlu cyfraniad pob un ohonom sydd wedi chwarae rhan, ym mha bynnag ffordd, dros y 50 mlynedd a mwy bellach. Roedd yn mynd yn bellach na dwy noson o gerddoriaeth wych (er mai ar raglen S4C gwelais i'r holl gerddoriaeth!) Roedd pobl yn dod aton ni fel swyddogion gwirfoddol i drafod pob mathau o bethau – o'u hatgofion am weithredu, i dynnu sylw at ryw ddiffyg roedd awydd arnynt i wneud rhywbeth amdano, ac i ymaelodi er mwyn bod yn rhan o'r Gymdeithas. Bu sawl un wrth gwrs i holi pryd roedd Gruff Rhys yn chwarae ei set hefyd.

Bydd llawer o sylw yn cael ei roi i ganlyniadau'r Cyfrifiad, gennym ni a gan nifer o gyrff a sefydliadau yn ogystal ag ar lawr gwlad. Mae'r Gymdeithas yn awyddus iawn i fod yn rhan o'r trafodaethau yma i gyd, ac yn enwedig y trafodaethau fydd yn digwydd ar lawr gwlad gan rannu pryderon a syniadau. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn teimlo y gallan nhw ddod aton ni felly.

Beth bynnag fydd canlyniadau'r Cyfrifad yn dangos o ran niferoedd y siradwyr Cymraeg yn dy ardal di does dim dwywaith fod yna heriau yn wynebu'r Gymraeg. Mae'r Gymdeithas yn awyddus iawn i wynebu'r heriau hynny a chydweithio gyda chymunedau er mwyn sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
Byddwn ni'n gwneud hynny yn rhannol drwy gyfres o ddigwyddiadau fydd yn adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws Cymru. Byddan nhw'n dechrau gyda Rali'r Cyfrif yng Nghaernarfon ar y 15ed o Ragfyr a Rali'r Dathlu'r Cynydd ym Merthyr ar Ionawr y 5ed.

Un o'n galwadau fydd ar i gymunedau gael eu grymuso i weithio drostynt eu hunain. Dydy'r Llywodraeth ganolog na lleol ddim wedi ymgymryd a'r her sydd yn wynebu'n cymunedau hyd yn hyn ac felly mae'n bryd i ni wneud ein hunain. Dim ond y dechreuad fydd y digwyddiadau hyn a bydd cyfraniad pob un a phob cymuned yn werthfawr.

Gan edrych ymlaen i barhau tuag at y chwyldro!