Neges Flwyddyn Newydd - Robin Farrar

Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Dim ond gair i ddymuno blwyddyn newydd dda i holl gefnogwyr Cymdeithas yr
Iaith – ac i alw am flwyddyn o weithredu dros y Gymraeg yn 2013. Blwyddyn o
weithredu, oherwydd bod canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos yr hyn oedd nifer
yn amau eisoes, sef bod argyfwng yn sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol
fyw yng Nghymru. Ond er bod y sefyllfa yn un argyfynys, dwi ddim yn credu y
dylai neb anobeithio. Yr hyn sydd angen i ni wneud yw dangos ein bod
“eisiau byw yn Gymraeg,” a gweithredu er mwyn sicrhau hynny.

Felly beth gallwn ni wneud yn 2013 er mwyn dechrau'r chwyldro yma?

Un peth yw cyfrannu at Faniffesto Byw Cymdeithas yr Iaith – oherwydd bod
syniadau'r Llywodraeth wedi methu â sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Iaith,
mae'n rhaid i ni ddod â'n syniadau ni at eu gilydd. Felly cysylltwch â ni
er mwyn cyfrannu at y maniffesto, neu ewch i cymdeithas.org/maniffestobyw.

Mae'r Gymdeithas yn cynnal cyfres o ralïau, er mwyn dangos bod pobl “eisiau
byw yn Gymraeg” ymhob rhan o Gymru a bod angen gweithredu ymhob rhan o
Gymru. Felly dewch i:

Rali'r Cyfrif, dydd Sadwrn 5ed Ionawr ym Merthyr Tudful

Rali'r Cyfrif, dydd Sadwrn 19eg Ionawr yng Nghaerfyrddin

Rali'r Cyfrif, dydd Sadwrn 26ain Ionawr yn y Bala

Rali'r Cyfrif, dydd Sadwrn 2il Chwefror yn Aberystwyth

Bydd rhai ohonoch yn sylweddoli bod y rali yn Aberystwyth yn cael ei gynnal
ar 50 mlwyddiant protest tor-cyfraith cyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont
Trefechan ym 1962. Dwi'n gobeithio bydd y rali yn cyfle nid yn unig i ni
ddathlu llwyddiannau'r gorffennol, ond hefyd i ni ddangos nad yw'r frwydr
ar ben, a bod angen i genhedlaeth newydd ymuno yn yr ymgyrch a'r frwydr
dros y Gymraeg.

Rhywbeth gallwch chi annog unrhyw un i'w wneud yw ymaelodi â chymdeithas yr
iaith, neu dynnu'ch llun efo poster yn dweud “dwi eisiau byw yn Gymraeg”
a'i rannu ar y we.

Cofiwch hefyd bod modd i'ch cymuned neu'ch grŵp cymunedol chi ymuno â'r
Gynghrair Cymunedau Cymraeg – ewch i cymunedau.org am fwy o fanylion.

Blwyddyn newydd dda i chi i gyd felly – edrychaf ymlaen i'ch gweld yn
nigwyddiadau ac ymgyrchoedd y Gymdeithas dros y flwyddyn i ddod."