Mae miloedd wedi dod i ralïau "Nid yw Cymru ar Werth" Iaith ar argae Tryweryn, o flaen y Senedd ac ar Bont Trefechan wrth i bobl ifanc gael eu gorfodi o'u cymunedau oherwydd ddiffyg tai i'w prynu na'u rhentu am bris rhesymol.
Cafwyd llwyddiant wrth i'r Llywodraeth gyflwyno grymoedd newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau. Rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio'r grymoedd yn llawn, gan y bydd y Torïaid a'r cyfoethog yn gwrthwynebu'n ffyrnig.
Mae'r sylw'n troi felly at Ynys Môn a'r rali nesaf yn Llangefni, lle byddwn yn galw ar gynghorau lleol fel Môn, Gwynedd a Chonwy i weithredu.
Dewch i alw arnyn nhw i ddefnyddio'r grymoedd yn llawn.
Ymunwch â'r frwydr dros Ddeddf Eiddo gyflawn i sicrhau fod tai'n cael eu trin fel cartrefi i bobl leol, nid fel buddsoddiadau ariannol.
Bydd diweddariadau i'w gweld yma