Eisteddfod yr Urdd 2019 - Caerdydd a'r Fro

 
 
Rhwng y 27ain Mai a'r 1af o Fehefin fe fydd Uned Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd!
 

Gigs Tafod - Clwb Ifor Bach

Cyflwyna Gigs Tafod 2 gig yn ystod yr wythnos, yng Nghlwb Ifor Bach. Mae'r gigs arbennig hyn wedi cael eu trefnu gan griw o bobl ifanc lleol, er mwyn ychwanegu at naws yr wythnos. Mae tocynnau ar gael trwy ddilyn y dolenni isod ac bydd y tocynnau sy'n weddill, ar gael ar ein stondin yn ystod yr wythnos.

Drysau am 19:00 ar y 2 noson. 16+ 

Nos Iau 30 Mai

CANDELAS - ELIS DERBY - LEWYS

 

Digwyddiadau ar y maes

 

PRENTISIAETHAU CYFRWNG CYMRAEG: BLE MAE'R CYFLEOEDD?

Dydd Iau, Mai 30, 2PM

Ystafell Siapan, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

Siaradwyr: Toni Schiavone, Branwen Cennard ac eraill

Rydym yn cynnal y drafodaeth hon gan fod diffyg difrifol o brentisiaethau cyfrwng y Gymraeg gyda ffigyrau yn dangos taw dim ond 0.3% o brentisiaethau sy'n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithiwn drafod y  rhesymau dros y diffyg yma a pha gamau sydd angen eu cymryd i wella'r sefyllfa. Gobeithiwn glywed gan bobl ifanc sydd wedi elwa o brentisiaethau Cymraeg, ynghyd â chynrychiolwyr o'r byd busnes sy'n eiddgar i ddarparu cyfleoedd i weithio a datblygu sgiliau yn y Gymraeg.
 
 
 

ENW UNIAITH GYMRAEG I'N SENEDD NI

Dydd Gwener, Mai 31, 2PM

Grisiau'r Senedd, Bae Caerdydd

Siaradwyr: Gwion Rhisiart (Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru) ac eraill

Er gwaetha’r cyhoeddiad y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn newid ei enw i un uniaith Gymraeg, sef ‘Senedd’, mae’r Llywydd wedi gwneud tro pedol a chyflwyno Bil a fydd yn cynnwys yr enw ‘Welsh Parliament’ hefyd. 

Mae mabwysiadu enw a brand uniaith Gymraeg yn gyfle i atgyfnerthu’r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir. 
 
Dewch i gefnogi ein galwad am enw uniaith Gymraeg i’n Senedd.
 
 

Eisiau Gwirfoddoli?

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i wirfoddoli yn yr Eisteddfod ei hunan, cysylltwch â de@cymdeithas.cymru neu ffoniwch 02920486469 os gallwch chi gyfrannu.