Dechrau wythnos o ddathlu ar safle'r brotest gyntaf

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dathlu chwedeg mlynedd o ymgyrchu ac enillion eleni, a bydd y mudiad yn cynnal wythnos o ddathlu ar faes yr Eisteddfod, fydd yn dechrau â thaith gerdded a beicio o Bont Trefechan i faes yr Eisteddfod.

Pont Trefechan oedd safle protest gyntaf y mudiad yn 1963, pan eisteddodd myfyrwyr ar draws y bont a rhwystro'r ffordd fel rhan o brotest dros statws i'r Gymraeg.

Dywedodd Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:
"Mae pethau wedi newid tipyn dros y chwedeg mlynedd diwethaf mewn sawl ffordd a rhaid diolch i ymgyrchwyr am sicrhau fod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu. Mae'n bwysig i ni gydnabod cyfraniad pawb sydd wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd y Gymdeithas dros y blynyddoedd a dathlu'r llwyddiannau.
"Ond mae ffordd bell i fynd o hyd - mae’r mwyafrif o blant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg Gymraeg, does dim hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob sefyllfa ac mae'r Gymraeg dan fygythiad fel iaith gymunedol felly mae angen i ni ddal ati i ymgyrchu.”

Wrth edrych yn ôl a dathlu mae edrych i'r dyfodol yr un mor bwysig i'r mudiad. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi maniffesto newydd, Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i’r 21ain Ganrif, ddiwedd yr wythnos gyda'i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd Tamsin Davies:
“Mae cymaint allwn ni ddysgu o'r gorffennol, ond mae yr un mor bwysig i ni edrych i'r dyfodol. Felly hoffem wahodd pawb sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg a'n cymunedau i ddod i stondin Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod, i ymaelodi, i ymuno â'n hymgyrchoedd a sefyll dros y Gymraeg a'n cymunedau. Nid yw’r frwydr ar ben, ond gyda’n gilydd, mi allwn ei hennill."