Ymateb i gyhoeddiad y Llywodraeth ar dai

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i fynd i'r afael ag ail dai ond mae'r broblem yn ehangach na thai gwyliau.

Yn ôl Jeff Smith, Cadeirydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n dda gweld y llywodraeth yn gwrthsefyll pwysau'r rhai sydd ar eu hennill trwy reolaeth y farchnad tai ac yn cyflwyno pecyn o gamau i alluogi Awdurdodau Lleol i reoli nifer a lleoliadau ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardal - ond mae angen mynd i’r afael â phroblemau tai ehangach hefyd.”

Wrth gyfeirio at y mesurau newydd ychwnaegodd Jeff Smith
“Bydd gofyn am ganiatâd cynllunio i droi tŷ neu fflat preswyl yn ail gartref neu’n AirBnB yn gwneud gwahaniaeth pwysig iawn, o ystyried faint o denantiaid sy’n cael eu troi allan o’u cartrefi fel bod modd i landlordiaid eu troi yn llety gwyliau.
“Ynghlwm â’r pŵer i osod cap ar nifer yr ail dai, mae pwerau newydd sylweddol fan hyn i geisio atal mwy o gymunedau twristaidd rhag colli eu poblogaeth barhaol ac rydym yn galw ar gynghorau i ddefnyddio’r pwerau newydd i reoli’r sefyllfa.
"Er hynny mae'r broblem systemig yn y farchnad dai yn ehangach o lawer na mater ail gartrefi a llety gwyliau yn unig, ac yn effeithio ar gymunedau ar draws Gymru.
"Mae'r farchnad agored yn ffafrio pobl gyfoethog sy'n prynu tŷ yng Nghymru i ymddeol iddo, cymudwyr a’r rhai sydd mewn sefyllfa i elwa o batrymau gwaith newydd. Mae hyn lawn mor ddifrifol o ran amddifadu pobl ifanc, leol o dai yn eu cymuned.
"Mae'r broblem yr un mor ddifrifol yn y sector rhentu hefyd, mae rhenti afresymol yn amddifadu pobl o gartrefi ar rent yn eu cymunedau. Rhaid felly dal ar y cyfle i sicrhau fod fynd i'r afael â'r broblem yn iawn gyda Deddf Eiddo gynhwysfawr."

Gwyliwch glip o ymateb Jeff Smith

Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali fawr ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron ac mae disgwyl i gannoedd orymdeithio ar draws y maes at uned y Llywodraeth i fynnu bod y Llywodraeth yn cyflwyno Deddf Eiddo yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Mwy am y rali yma

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn:
1) Sicrhau'r hawl i gartre'n lleol
2) Cynllunio ar gyfer anghenion lleol
3) Grymuso cymunedau
4) Blaenoriaethu pobl leol
5) Rheoli sector rhentu
6) Sicrhau cartrefi cynaliadwy
7) Buddsoddi mewn cymunedau

Cyhoeddodd y Llywodraeth:

  • Y bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd yn cael eu cyflwyno – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
    Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu, lle mae ganddyn nhw dystiolaeth, gwneud newidiadau i’r system gynllunio a fydd yn gorfodi cael ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall.
    Fe fydd hefyd yn cyflwyno newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol i alluogi awdurdodau lleol i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
     
  • Y bydd cynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, gan ei gwneud yn ofynnol cael trwydded i weithredu llety gwyliau tymor byr.
     
  • Y bydd gwaith yn dechrau gydag awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol amrywio’r dreth trafodiadau tir yn lleol mewn ardaloedd â niferoedd mawr o ail gartrefi, fel eu bod yn gallu gofyn am gyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau i'w rhoi ar waith yn eu hardal leol.