"Tro olaf i bwyllgor yn San Steffan ymgynghori ar ddarlledu yng Nghymru"

Wrth gyflwyno ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl mai dyma'r tro olaf i bwyllgor yn San Steffan ymgynghori ar ddarlledu yng Nghymru.

Dywedodd Mirain Angharad, is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Dechreuodd yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg yn y 1970'au â galwad am 'Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru' fyddai ag awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru. Er i S4C gael ei sefydlu yn 1982 dydy'r alwad honno ddim wedi ei gwireddu o hyd - San Steffan sydd yn rheoli darlledu yma yng Nghymru o hyd, ac yn trefnu ei gyllido gyda'n trethi ni.
"Ond yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru mae Llywodraeth Cymru yn datgan cefnogaeth i ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru, ac mae gwaith i baratoi'r ffordd ar gyfer hynny wedi dechrau. Felly gobeithio mai mater o amser yw hi nes i ni allu penderfynu ar ddyfodol darlledu ein gwlad ni ein hunain"

Mae ymgynghoriad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn gofyn am farn ar gynaliadwyedd modelau cyllido darlledu gwasanaeth cyhoeddus Cymru, am effaith twf llwyfannau ffrydio byd-eang ac arferion gwylio a'r hyn y gellid ei wneud i sicrhau dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Yn ei ymateb mae Cymdeithas yr Iaith yn nodi pryder bod modelau tanysgrifio yn cael eu gweld fel y ffordd ymlaen a bod cwmnïau mawrion yn cael eu dyrchafu a'u hystyried yn rhywbeth i ddarlledu cyhoeddus ei efelychu.

Ychwanegodd Mirain Angharad:
"Mae'n amlwg na fyddai model tebyg i Netflix neu Amazon yn gweithio i ddarlledu yng Nghymru, elw sydd bwysicaf i gwmnïau fel hyn, nid dyna rydyn ni eisiau ar gyfer S4C.
"Does dim dwywaith er hynny bod darlledu wedi newid yn llwyr, ar raddfa sydyn dros y blynyddoedd diweddar, a'i bod hi'n hen bryd ail-ystyried sut i gyllido a datblygu darlledu yng Nghymru. Does dim diddordeb gan San Steffan - ddeugain mlynedd ers sefydlu S4C dim ond un sianel deledu Gymraeg sydd gyda ni, mae hi wedi wynebu dros ddegawd o doriadau a bellach yn cael ei chyllido'n llwyr trwy'r BBC; a phrin yw'r ymdrechion i annog cynnwys a phrofiadau Cymraeg ar-lein.
"Mae'r ateb yn amlwg - datganolwch rymoedd a chyllid digonol ar gyfer darlledu Cymru i Gymru."