Dim mwy o Gymraeg ail iaith – un cymhwyster Cymraeg i bawb

Mae Cymwysterau Cymru – corff anetholedig – yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddyfodol cymwysterau TGAU yng Nghymru i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd. Er gwaethaf ymrwymiad y Llywodraeth i gael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg i bob disgybl fel bod pawb yn gallu dysgu Cymraeg, mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu cadw cymhwyster Cymraeg ail-iaith eilradd a'i ail-frandio. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn fodlon ystyried yr opsiwn o greu un cymhwyster i bob disgybl, er gwaethaf y dystiolaeth gryf dros wneud hynny.

Cliciwch yma i fynegi'ch gwrthwynebiad i'w cynlluniau a'ch cefnogaeth dros addysg Gymraeg i bawb (dyddiad cau: Dydd Gwener, 16 Ebrill).

Darllenwch ymateb Cymdeithas yr Iaith isod:

 
AtodiadMaint
CYIG - Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru (pdf).pdf116.34 KB