3 safle i S4C?

Mewn ymateb i'r newyddion bod S4C yn ystyried lleoli’r sianel ar dri phrif safle ar draws Cymru yn lle un prif safle yng Nghaerdydd, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae'n newyddion da iawn bod yr awdurdod yn edrych ar hyn o ddifrif. Ers nifer o
flynyddoedd, rydyn ni wedi bod yn galw am S4C 'newydd', ac un o'n prif alwadau
ydy dosbarthu buddsoddiad y sianel yn well ar draws y wlad. Byddai hyn yn gallu
creu swyddi mewn ardaloedd lle mae gweld cryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Credwn ei fod yn bwysig iddynt ddilyn y trywydd hynny, nid yn unig o ran swyddi
mewnol S4C, ond yn ei pholisi comisiynu hefyd, fel bod cyflenwyr bach a
chymunedau ledled y wlad yn elwa o'r buddsoddiad. Rydym yn galw hefyd am
ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru, fel nad yw cynlluniau i’r BBC
gymeryd rheolaeth a chyflwyno mwy byth o doriadau i’r cwtogiad sydd eisoes wedi
ei gynllunio, yn cael digwydd.”