Dysgu Cymraeg mewn 6 mis

Mae'n gallu bod yn gur pen gwybod sut i annog mewnfudwyr (neu'r Cymry di-Gymraeg) i ddysgu'r Gymraeg.

Dach chi'n awgrymu dosbarth nos, ac maen nhw'n rhy brysur i'w fynychu - neu yn gweithio shifftiau ac yn methu gwneud y noson honno - neu yn waeth byth, maen nhw'n cychwyn, ac wedyn mae'r dosbarth yn dod i ben oherwydd diffyg niferoedd.
Neu dach chi'n awgrymu gwersi ar y We iddyn nhw, ond maen nhw'n drysu o ran sut i gael mynediad at y gwersi, neu sut i'w defnyddio nhw, ac yn y pen draw yn teimlo'n rhy unig ac ansicr i barhau.

Opsiwn newydd

Rwan mae modd cyfuno'r gorau o'r ddau fyd dysgu. Mae SaySomethinginWelsh, y darparwr gwersi arlein poblogaidd, wedi creu fframwaith arbennig i helpu dysgwyr ddod yn siaradwyr hyderus - eu cwrs '6 Month Welsh Speaker'. Mae wedi seilio ar eu cyrsiau preswyl dwys 'Brain Shock', sydd yn creu hyder real mewn dim ond 5 neu 10 diwrnod (ond yn costio £1000 i £2000).

Mae eu cwrs 6 mis yn galluogi dysgwyr sydd yn fodlon ymrwymo 2 i 4 awr yr wythnos i efelychu canlyniadau y cyrsiau dwys. Maent yn cael ei arwain trwy'r broses gyda ebyst wythnosol, lle trafod penodol, a galwadau fideo grwp wythnosol - ac os nad ydyn nhw'n llwyddo i ddod yn siaradwyr hyderus erbyn diwedd y 6 mis, maen nhw'n cael ad-daliad llawn o ffi'r cwrs.

Dysgu a chefnogi gwaith y Gymdeithas

Mae'r cwrs yn costio £200 ac mae'r Gymdeithas yn derbyn cyfraniad £100 tuag at ein gwaith ymgyrchu ar gyfer pawb sy'n ymuno trwy'r dudalen yma.