Dyfodol Cymunedau Gwledig Sir Gaerfyrddin

DYFODOL CYMUNEDAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN (pwyswch yma i lawrlwytho fersiwn pdf)

 

YSTYRIAETHAU CYFFREDINOL

 

  • Mae’n wir fod natur cymunedau cyfoes wedi newid, ond nid ydym yn derbyn nad oes gwerth mwyach yn y cysyniad o gymuned. Mae’r cysyniad o gymuned yn gwbl greiddiol i’n gwaith tu fewn i Gymdeithas yr Iaith gan nad oes gwerth na diben i iaith tu allan i fframwaith cymunedau. Ein cymuned(au) sy’n ffurfio i raddau helaeth ein hunaniaeth ac yn cyfoethogi bywydau unigolion. Dadleuwn fod y cysyniad o gymuned yn bwysicach nag erioed mewn byd â chyfundrefnau global. Ond yr hyn sy’n sicr yw fod natur y cymunedau yr ydym yn perthyn iddynt wedi datblygu a newid. Mae strwythur cymdeithasol o gymunedau gwledig Cymraeg yn seiliedig ar amaeth ac yn hunan-gynhaliol o ran gwasanaethau wedi ymddatod i raddau helaeth. Erbyn hyn y mae strwythur y cymunedau yr ydym yn perthyn iddynt wedi datblygu i gwmpasu hefyd cymunedau seiliedig ar fannau gwaith, ar oedran a diddordebau hamdden a hefyd gymunedau rhithiol. Byddwn erbyn hyn yn perthyn i nifer o wahanol fathau ar gymunedau, ac mae’n bwysig fod i’r Gymraeg ei lle yn y rhain i gyd. Fodd bynnag mae i’r gymuned diriogaethol leol bwysigrwydd gwaelodol tu fewn i strwythur amlochrog o hyd, ac yn enwedig felly o ran yr iaith Gymraeg a’i phwysigrwydd fel iaith gymunedol.

  • Mae cymunedau gwledig lleol dan bwysau mawr o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol-economaidd, a phwysau diwylliannol yn dilyn hyn. Methiant sicr fydd ceisio eu hamddiffyn trwy geisio amddiffyn y seilwaith sy’n brysur ymddatod – byddai hyn gyfystyr â cheisio cynnal argae trwy roi bysedd yn y tyllau cynyddol. Yn hytrach y mae angen dadansoddiad a strategaeth newydd. Bydd swyddogion yn hoff o “mapio”’r sefyllfa a gellid treulio amser maith yn cofnodi holl symptomau yr ymddatodiad cymdeithasol-economaidd o ran allfudiad ieuenctid, mewnfudo a chodi prisiau tai, diflaniad gwasanaethau a’r rhain oll yn bwydo ei gilydd. Y gwir yw fod hyn oll yn wybyddus heb “fapio” hirfaith.

  • Nodwn, wrth fynd heibio, fod yr un problemau’n wynebu cymunedau pentrefol ôl-ddiwydiannol y sir hefyd; yn wir gellid dadlau fod y newidiadau economaidd, ac felly cymdeithasol, yn fwy brys a difrifol yn y cymunedau hyn. Gellid dadlau felly fod angen strategaeth ar gyfer datblygu cymunedau pentrefol y sir yn hytrach na chyfyngu i gymunedau gwledig.

  • Mae angen strategaeth felly sy’n datblygu cymunedau pentrefol yn hytrach na cheisio eu cynnal neu eu hamddiffyn. Gymaint erbyn hyn yw’r pwysau ar gymunedau pentrefol fel na allant oroesi o sefyll yn eu hunfan a’u hamddiffyn. Rhaid eu datblygu a sicrhau iddynt swyddogaeth wrthrychol mewn trefn gymdeithasol-economaidd amlochrog newydd.

  • Cynigiwn fel sail strategaeth newydd gysyniad y CYLCHOEDD CONSENTRIG i fedru deall natur ein cymunedau cyfoes. Y cylch cymunedol niwclear (yn y cyd-destun hwn) yw’r gymuned bentrefol. Yn nesaf bydd cylch o bentrefi, fel arfer gyda phrif bentre i’r cylch. Wedyn bydd cylch “tre farchnad”, yn aml yn cydfynd â dalgylch ysgol uwchradd. Wedyn bydd cylch sirol, yna cylch rhanbarthol, ac yna gylch Cymru. Cynigiwn ddwy enghraifft (1) Llanfihangel-ar-arth > Pencader a’r cylch > Llandysul a’r cylch > Caerfyrddin a’r sir > Dyfed > Cymru (2) Gwynfe > Llangadog a’r cylch > Llandeilo a’r cylch > Caerfyrddin a’r sir > Dyfed > Cymru. Y gamp fydd darganfod pa wasanaethau a pholisiau sy’n gweddu i ba gylch fel bod iddynt oll swyddogaeth ac, yn bwysicaf oll beth yw’r cysylltiad byw rhwng y cylchoedd e.e. sut y gellir ei gwneud yn ymarferol i bobl ifainc fyw yng nghylch 1, ond efallai gael mynediad at wasanaethau yng nghylchoedd 2 a 3, ac efallai hamdden a gwaith yng nghylch 4 – heb fod cylch 4 yn gweithredu fel magned yn tynnu popeth ato’i hun, yr hyn a fyddai’n achosi problemau dybryd ac yn anghynaladwy.

  • Bydd perthynas y cylchoedd â’i gilydd yr un mor bwysig â dadansoddiad o’r hyn y dylid ei gynllunio ar gyfer pob cylch. Ar hyn o bryd, mae’r berthynas yn unochrog iawn. Oherwydd y bwyslais ar ddenu nawdd ym maes Hamdden a’r Celfyddydau, a’r angen i ddangos faint o unigolion sy’n ymelwa ar ddatblygiadau wrth rannu cyllid, mae’r canolfannau trefol (Cylchoedd 3, 4, 5) yn denu mwyfwy o fuddsoddiadau a hynny ar draul y cymunedau pentrefol a chylchoedd (cylch 2) o bentrefi. Mae angen system decach sy’n adnabod beth sydd yn addas ar gyfer pob cylch.

  • Yn sicr bydd angen dulliau cwbl newydd o ddarparu gwasanaethau ac amcanion polisi e.e. trwy wasanaethau aml-safle a/neu symudol, trwy ddefnydd helaeth o TG, a threfn addysg a gwleidyddol sy’n hybu mentr. Bydd angen ymyrraeth sylweddol gan y sector cyhoeddus ond mewn dull o bartneriaeth fel y gall ychydig arian a chyngor gael effaith sylweddol.

  • Rhaid cydnabod hefyd na bydd un fformiwla manwl yn gweddu â phob sefyllfa ac ardal, ac felly bydd angen strategaethau hyblyg.

  • Rhaid fydd i gymunedau lleol deimlo perchnogaeth dros y strategaethau lleol. Dylai strategaeth y Cyngor Sir felly ffocysu ar ystyriaethau cyffredinol, weithredu cynllun(iau) peilot (a allent fod yr un ardal(oedd) ag sydd yn ffocws cyfredol i brosiect y Mentrau Iaith (ardal blaenoriaeth sydd wedi denu cyllid i gyflogi swyddog ychwanegol), a sefydlu fframwaith i Gynghorau neu Fforymau Bro lunio cynlluniau lleol.

 

CYMUNEDAU LLEOL YN PERCHNOGI CYNLLUNIAU CYMUNEDOL

 

  • Er mwyn i strategaeth weithio a bod o werth, mae’n rhaid fod fframwaith sirol i’r cynlluniau cymunedol a bod peirianwaith i ffurfio cynlluniau o’r fath.

  • Mae llawer o enghreifftiau’n dangos fod hyn yn bosibiliad real iawn gan fod yr awydd yn bodoli yn ein cymunedau e.e. cyfarfodydd gorlawn i drafod dyfodol tre Llandysul a’r ardal; e.e. ymgyrchoedd lleol pan fo bygythiad i wasanaeth lleol allweddol. Mae angen harneisio’r egni cymunedol hwn i gynllunio cadarnhaol rhag blaen, cyn i broblemau anorchfygol godi.

  • Mae cynseiliau o ran ffurfio a gweithredu cynlluniau cymunedol. Trown at enghreifftiau o Gynlluniau Gweithredu Lleol o ganlyniad i “localism” yn Lloegr. Dyma un enghraifft http://www.northcrawley-pc.gov.uk/Document/Default.aspx?DocumentUid=215B87F1-2037-4579-BFBB-59FCD40C3068 .

  • Dylai proses o’r fath fwydo i’r gwaith creu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer y sir. Gan fod y gwaith hwnnw eisoes wedi cychwyn, mae hyn felly yn fater brys iawn.

  • Mae dadl ddilys i’w chael p’un ai a ddylid creu cynlluniau cymunedol ar gyfer cylch 2 (cylch o bentrefi) neu gylch 3 (cylch tre farchnad/dalgylch ysgol uwchradd). Byddai cylch 2 yn rhoi mwy o fanylder lleol ac mae peirianwaith cynghorau bro mewn lle, ac yn fwy tebyg i fodel “localism” o Loegr. Ond byddai cylch 3 yn gallu rhoi mwy o bwyslais ar ryngweithiad allweddol y cylchoedd gyda’i gilydd (yn hytrach na’u gweld yn ynysoedd ar wahân) a gallai bwysleisio swyddogaeth ysgol uwchradd ac hefyd Golegau Addysg Bellach sy’n dod yn ganolog bwysig i ddisgyblion 16-18 oed ac i fyfyrwyr rhan amser hŷn.

 

FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER GWAHANOL GYLCHOEDD A’R CYSYLLTIADAU RHYNGDDYNT

Ystyriwn yn yr adran hon felly pa wasanaethau a pholisiau sydd fwyaf addas i’w darparu ar gyfer pa gylchoedd, a’r cysylltiadau rhwng y gwahanol gylchoedd er mwyn eu gwneud yn hyfyw. Mae’n amlwg mai canllawiau cyffredinol fydd yma gydag amrywiadau lleol sylweddol.

 

CYLCH 1 – Uned Bentrefol

  • Bydd y cylchoedd niwclear hyn yn amrywio’n sylweddol o ran maint a natur – o bentrefi eitha sylweddol gwledig neu ôl-ddiwydiannol i ardaloedd amaethyddol gwasgarog.

  • O ran sicrhau cartrefi, gweithrediad y farchnad dai yw’r brif broblem. Gyda phoblogaeth yn heneiddio daw tai gwag ar y farchnad – yn aml i etifeddion sy’n dewis byw mewn man arall neu sydd eisoes yn berchnogion ar dai. Daw eraill yn wag trwy ymfudo i geisio gwaith neu drwy fod perchennog yn symud i dref neu i stad newydd oherwydd diffyg gwasanaethau lleol. Mae’r farchnad agored yn ffafrio prynwyr o’r tu allan sydd â gallu pwrcasu mwy sylweddol. Er mwyn creu cyfle i sefydlogrwydd cymdeithasol a diwylliannol, mae angen ymyrryd â’r farchnad mewn nifer o ffyrdd (a) ehangu asiantaeth “Gosod Syml” y Cyngor Sir ar gyfer tenantiaid lleol (b) adnabod cymunedau lle bo angen defnyddio grymoedd cynllunio arbennig (a ddefnyddir mewn rhannau o Wynedd a Lloegr) i gyfyngu ar fan hysbysebu cychwynnol a phwy all berchnogi (c) lobio llywodraeth Cymru am rymoedd ychwanegol. Ond rhaid cydnabod na bydd teuluoedd ifainc am fyw mewn tai yn y pentrefi lleol oni bydd gwella ar y cysylltiadau â chylchoedd (2) a (3) fel y gellir cael mynediad rhwydd at wasanaethau a mannau gwaith.

  • O ran tai newydd yn y cymunedau hyn, y broblem yn aml yw’r gwrthwyneb i’r hyn sy’n digwydd mewn rhannau mwy poblog o’r sir lle bu adeiladu gormodedd o dai at anghenion lleol. Yn hytrach, bu cyfyngu gormodol ar bobl leol i adeiladu unedau newydd ar dir amaethyddol a thu allan i ffiniau arbennig pentref. Dylai fod llacio amodol ar y canllawiau gan ganiatau adeiladu ond sicrhau na ellir wedyn gwerthu ar y farchnad agored o fewn cyfnod arbennig. O lacio’r rheoliadau, bydd angen tynnu sylw Cynghorau Cymuned at y sefyllfa newydd fel bod pobl leol yn manteisio.

  • O ran tai cymdeithasol newydd, dylid adeiladu’r stoc yn raddol trwy ymyrraeth â’r farchnad dai yn bennaf yn hytrach nag adeiladu o’r newydd fel sylfaen. Ni ddylai unrhyw dai newydd, yn gyffredinol, fod wedi eu hanelu at yr henoed oherwydd dirywiad yn y gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned.

  • Yr oedran darged ar gyfer aros a phrynu tai yn y cylchoedd hyn ddylai fod teuluoedd o oedran gweithio er mwyn sicrhau cymunedau cynaladwy. Rhaid derbyn y bydd mwyafrif pobl ifainc sydd yn ymadael ag ysgol a choleg am fyw mewn trefi (cylch 3) yn nes at gyfleusterau cymdeithasol a hamdden, cyfleoedd gwaith (ar gyflog cychwynnol) ac argaeledd mwy o fflatiau i’w rhentu’n breifat. Ond dylai fod ymdrech i’w denu’n ôl at gymunedau pentrefol cylch (1) pan fyddant yn ystyried prynu/rhentu i ymgartrefu. Eto rhaid fydd gwella’r cysylltiadau gyda chylchoedd (2) a (3) er mwyn hwyluso hyn.

  • Dylai fod strategaeth o hybu cyfleoedd gwaith tu fewn i’r cymunedau pentrefol niwclear cylch (1). At ei gilydd, bydd polisiau amaethyddol tu allan i gylch cyfrifoldeb y Cyngor Sir er y gellid lobio. O ran cyflogaeth mewn gwasanaethau lleol, ac o ran potensial datblygu mentrgarwch arlein o gartref, dylid datblygu polisi a gwybodaeth i ysgolion uwchradd o ran cyngor gyrfaoedd a phwyntio disgyblion at gyrsiau addas.

  • Rhaid ymateb hefyd i her sut i gynnal gwasanaethau mewn cymunedau cylch (1) mewn dulliau creadigol newydd gan fod yr hen drefn o gymunedau hunan-gynhaliol yn ymddatod. Bydd angen cyfuniad o wasanaethau aml-safle, gwasanaethau ar y cyd, gwasanaethau symudol a hwyluso teithio tuag at fannau lle darperir gwasnaethau. Er enghraifft, gall ysgol fod yn aml-safle neu gall ysgol bro gynnal rhai sesiynau mewn rhai canolfannau pentrefol; neu gellid sicrhau fod disgyblion yn teithio gyda’i gilydd yn yr un cerbyd (yn ymadael efallai o’r ganolfan bentrefol) at yr ysgol bro. Lle bydd gwirfoddolwyr i drefnu a staffio siop (neu adnodd arall) gymunedol, gall grant cymedrol ar gyfer rhent neu gefnogaeth weinyddol fynd yn bell iawn o ran bod yn gost-effeithlon – gan fod gofod cymunedol o’r fath yn gallu bod yn gyfrwng i hysbysebu popeth sy’n digwydd yn y gymuned ac yn hybu cydweithio yn y gymuned. Bydd y dull mwyaf addas o ddarparu gwasanaethu yn amrywio o gymuned i gymuned a dylai canllawiau strategol fod yn hyblyg. Mae datblygiad siopau symudol a gwasanaethau symudol gan siopau mawr yn her i siopau cymunedol ar y naioll law, ond yn darparu cyfle ychwanegol i bobl fyw yn y cymunedau pentrefol ar y llaw arall.

  • Yn ddelfrydol, dylid anelu at gael un adnodd dan do aml-bwrpas ac un adnodd awyr agored at ddefnydd pob cymuned. Os bydd pwyllgor o wirfoddolwyr i drefnu, bydd grant bach at bwrcasu/adnewyddu a chefnogaeth weinyddol yn mynd yn bell, a gellid lobio llywodraeth ganolog am sefydlu cronfa Adnoddau Cymunedol o’r fath. Bydd yr angen yn amrywio o gymuned i gymuned, ond gall adnodd dan do gael ei ddefnyddio fel ysgol (neu uned o ysgol), ar gyfer addysg oedolion, ar gyfer clybiau a digwyddiadau cymunedol, ac ar gyfer oedfaon fel y bydd capeli’n cau. Mewn rhai amgylchiadau lleol, gall siop gymunedol fod yn addas neu adnodd twristaidd. Mae adnodd awyr agored fel cae chwarae bron yr un mor bwysig.

  • O ran trefnu, hwyluso a chefnogi datblygiadau cymunedol o’r fath, gellid ychwangu at gyfrifoldeb y Mentrau Iaith yn y sir, ac mae cynsail yma yn y nod gwreiddiol a roddwyd i Fentr Cwm Gwendraeth. Y nod newydd, yn unol â nod Fforwm Iaith Sir Gâr o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir, fyddai trefnu datblygu cymunedol ym mhentrefi cylch (1), a hynny’n naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg fel norm. Byddai hyn yn cydweddu’n well o lawer â’r strategaeth na chanolbwyntio ar drefnu digwyddiadau Cymraeg ar wahân ar batrwm trefi mwy seisnigedig y wlad. Byddai newid o’r fath yn chwyddo cyllid y Mentrau trwyu sianelu atynt peth o gyllid datblygu cymunedol ac economaidd yn hytrach na dibynnu ar gyllideb i hybu’r Gymraeg fel y cyfryw.

  • Mae angen trafodaeth lawn gyda Chlybiau Ffermwyr Ifainc a chyda’r Undebau Amaethyddol o ran pa bolisiau y gellir eu datblygu ar lefelau lleol a chenedlaethol i geisio hybu sector amaeth mewn modd a fydd yn cynnal bywoliaeth ffermwyr ifainc y dyfodol yn y cymunedau lleol hyn, yn enwedig yn wyneb ansicrwydd Brexit.

CYLCH 2 – CYLCH O BENTREFI A PHRIF BENTREF

  • Bydd ysgol gynradd bro, neu ysgol gynradd aml-safle, neu ffederasiwn o ysgolion mewn cylch o’r fath. Dylid gofyn i bob bwrdd llywodraethol adrodd yn flynyddol ar sut y bydd yr ysgol(ion) yn gwasanaethu’r cymunedau unigol (cylch 1). Gall fod yr ysgol ei hun yn aml-safle neu’n ffederasiwn, neu fod yr ysgol yn defnyddio adnoddau dan-dô ac awyr agored y pentrefi unigol. Gall fod cyfuno neuadd ysgol neu gae chwarae ysgol gydag adnoddau cymunedol. Gellir cyflwyno astudiaethau bro (yn seiliedig ar y cymunedau lleol) yn rhan o’r cwricwlwm gan ddefnyddio arbeinigedd aelodau o’r cymunedau unigol. Bydd yr union gynlluniau yn amrywio gylch i gylch.

  • Dylai fod gwefan ar gyfer pob cylch (2) yn rhoi gwybodaeth sylfaenol, yn rhestru’r holl gyrsiau a gweithgareddau sydd ar gael yn lleol,, yr holl ddigwyddiadau, yr holl wasanaethau sydd ar gael yn y cylch yn cynnwys crefftwyr unigol gan hybysu ysgol uwchradd o ddiffygion yn y gweithlu er mwyn cynghori disgyblion ar yrfaoedd. Gellir datblygu swyddogaeth papurau bro – yn enwedig fersiynau digidol fel “Clonc360” – hefyd i gyfleu gwybodaeth o’r fath.

  • Ar ben y wybodaeth, dylid hwyluso teithio rhwng pentrefi’r cylch a thuag at y prif bentre er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau oll. Os trefnir fod cerbydau i gludo disgyblion at yr ysgol(ion), gellid agor y rhain i’r cyhoedd. Dylid hefyd dysgu gwersi o brosiect Dolen Teifi i weld sut y gellid ei estyn trwy gymunedau gwledig y sir.

  • Yn ogystal ag ymyrraeth â’r farchnad dai, dylid cynllunio stadau bychain o dai yn y sector cyhoeddus a/neu preifat wedi eu targedu i gyfarfod â gofynion y cylch. Bydd angen cynlluniau cymunedol i sefydlu’r union anghenion. Gellid adeiladu rhai unedau cartrefi i bobl ifainc mewn rhai o gymuunedau’r prif bentrefi.

  • Bydd angen sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol rhwng y prif bentrefi hyn â’r trefi marchnad (cylch 3) a’r ganolfan sirol (cylch 4) – a hynny yn ystod y dydd a chyda’r hwyr er mwyn rhoi mynedfa at waith ac at gyfleusterau hamdden i bobl ifainc sy’n ymgartrefu ym mhentrefi mwy (cylch 2)

  • Ar lefel Cylch 2, mae angen ystyriaeth fanwl – mewn cydweithrediad â Chynghorau Cymuned a thrwy drefnu cyfarfodydd cyhoeddus – o ba fath o dai y mae eu hangen yn y prif bentref ac yn y pentrefi cylchynnol. O ran tai cymdeithasol, mae angen datblygu’r gwaith da a waned gan yr Adran Dai o ran ceisio mesur galw ym mhob man, a bydd y sefyllfa’n gwahaniaethu am resymau hanesyddol e.e. ym mhentre Pencader, adeiladwyd dros genhedlaeth yn ôl stad o dai cyngor llawer rhy fawr at anghenion lleol a’r canlyniad fu gorfod symud llawer o denantiaid yma o ardaloedd eraill, ond mewn ardaloedd eraill y mae prinder tai cymdeithasol. Mae angen i’r gweithgor wneud argymhellion ynghylch y system bresennol lle gellir cyfnewid tai cymdeithasol rhwng gwahanol ardaloedd – tu allan i’r sir a hyd yn oed tu allan i Gymru. Mewn mannau eraill, adeiladwyd y math anghywir o dai cymdeithasol e.e. stryd o dai henoed yn Llanfihangel-ar-arth ar yr union adeg pryd yr oedd gwasanaethau’n diflannu. O ganlyniad gorfodwyd y Cyngor i geisio tenantiaid o fath gwahanol.

  • O ran tai preifat, bydd cynaladwyedd y cylchoedd hyn o bentrefi yn bwnc o bwys wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd. Ein hargymhelliad ni yw y dylai’r Adran Gynllunio fod yn fwy rhagweithiol y tro hwn. Yn hytrach na gosod yn unig niferoedd a lleoliadau tai a ganiateir a chyfrannau tai fforddiadwy, dylai’r Adran (mewn cydweithrediad â chynghorau cymuned a’r cyhoedd) roi arweiniad ynghylch y math o dai y mae eu hangen yn lleol. Byddai swyddogaeth y Cyngor Sir yn ymylu ar fod yn rôl COMISIYNYDD tai yn y sector preifat. Gall hyn fod yn fanteisiol hefyd i ddatblygwyr o arbed llawer o arian ac amser ar geisiadau cynllunio aflwyddiannus.

  • Yng nghylchoedd 1,2 a 3 cymeradwywn yn fawr fentr yr Adran Dai yn sefydlu asiantaeth gosod tai gan berchnogion preifat (sydd o bosibl wedi etifeddu eiddo tu hwnt i’w hanghenion). Collwyd llawer o stoc tai i bobl leol trwy weithgarwch asiantaethau gosod preifat nad sy’n gosod cynllunio ar gyfer y gymuned leol yn brif nod. Dylid argymell fod Llywodraeth Cymru hefyd (yn gyffredinol neu mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol/cymunedol) yn deddfu i orfodi hysbysebu gwerthu neu rentu eiddo yn lleol yn gyntaf. Byddai hyn yn rhoi cymelliant ychwanegol i berchnogion ddefnyddio asiantaeth y Cyngor Sir.

 

CYLCH 3 – TREFI MARCHNAD A’R ARDAL

  • Fel arfer yn cyd-ddigwydd â dalgylch ysgol uwchradd. Bydd angen gosod ar lywodraethwyr ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach a swyddogion addysg gyfrifoldeb cynllunio’n flynyddol sut y gellir defnyddio adnoddau’r ysgol ar gyfer y cymunedau lleol, dysgu disgyblion am y cymunedau lleol, creu a dosbarthu gwybodaeth i gryfhau’r cymunedau yn y cylch, a rhoi proifiad ymarferol i ddisgyblion o ran trafod a chynllunio’n lleol e.e. ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus lleol. Gellid ffurfio Pwyllgorau “Pontio” cymunedol i wneud argymhellion e.e.gallai fod llawer mwy o ddefnyddo adeiladau a chyfleusterau ysgol newydd fel Bro Deifi gyda’r hwyr, dros benwythnosau ac yn y gwyliau. Rhaid ystyried perthynas yr ysgolion uwchradd â’r Adran Hamdden a Gweithgareddau Ieuenctid.

  • Mae angen strategaeth ar gyfer adeiladu ystod ehangach o wasanaethau yn y trefi hyn - fel bod gan bobl ifainc alternatif hyfyw i symud i fyw yn y brif dref sirol. Gall fod lle i ganolfan integredig Gwybodaeth Gyhoeddus ym mhob tre farchnad - efallai'n cyfuno swyddfa wybodaeth gan y Cyngor, Cyngor ar Bopeth, llyfrgell a chanolfan TG, desg ran amser i'r heddlu ac asiantaethau eraill, ac o bosibl swyddfeydd i'w llogi. Mae digon o adeiladau gwag bellach i'w defnyddio at ddibenion o'r fath. Mewn rhai sefyllfaoedd, byddai stafelloedd cyfarfod a digwyddiadau'n berthnasol. Dylid cyflawni popeth mewn perthynas â chymunedau lleol a deimlent berchnogaeth ar brosiect o’r fath. Trwy gydweithio â gwirfoddolwyr, gall hwb o arian cyhoeddus fynd yn bellach.

  • Gan na all y farchnad agored greu rhwydweithiau o'r fath yn llwyddiannus, bydd angen ymyrraeth o ran polisiau cyhoeddus o du Cyngor Sir ac o du llywodraeth ganolog e.e. dulliau dyfeisgar o annog mentrau masnachol i rannu adnoddau. Buddiol hefyd fyddai i Lywodraeth Ganolog sefydlu Banc neu Fentr Wledig i Gymru. Does dim lle yn y farchnad agored yn y trefi marchnad i nifer o wasanaethau fel canghennau banc yn cystadlu gyda'i gilydd, ac mae gwasanaethau fel Swyddfa'r Post yn dirywio hefyd. Ond gall fod lle a masnach ym mhob tre farchnad i UN cyfleustra ariannol masnachol yn cyflawni swyddogaethau bancio, gwasanaethau post, cynghori ariannol etc. Byddai angen mentr gan lywodraeth ganolog i hybu datblygiad radical o'r fath.

  • Gallai Awdurdod Lleol hybu datblygu/cyfuno i greu Canolfannau Iechyd/Gwasanaethau Cymdeithasol integredig ym mhob tre farchnad fel na bo angen at deithio gormodol gan bobl bregus.

  • Bydd angen cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i alluogi trigolion pentrefi Cylchoedd 1 a 2 i fedru manteisio ar y gwasanaethau yn y trefi marchnad a chyswllt cyson â'r brif dref sirol

  • Y Gymraeg fydd prif iaith weinyddol y mwyafrif o'r cylchoedd hyn.

  • Bydd yr union atebion yn amrywio rhwng pob tre farchnad ac ardal gylchynnol. Er mwyn hybu hyn a pherchnogaeth gyhoeddus ar y strategaethau, dylid trefnu Fforwm Ardal ar gyfer ardaloedd Castell Newydd Emlyn, Llandysul, Llanbedr, Llanymddyfri, Llandeilo, Rhydaman, Cross Hands, San Clêr, Hendy Gwyn - ac ystyried sut y bydd cylch gwledig Caerfyrddin ac ardal ôl-ddiwydiannol fel y Gwendraeth gydweddu â hyn. I gychwyn dylid trefnu fforymau a seminarau cyhoeddus agored ac yna sefydlyu fforymau cynrychioladol chwarterol, gan sicrhau fod cynghorau cymuned Cylch 2, cymdeithasau gwirfoddol, gwasanaethau cyhoeddus a masnachol ac addysgol yn bwydo i mewn i fforwm efallai ddwywaith y flwyddyn. Pwysleisiwn mai fforymau ardal fyddai’r rhain, nid ar gyfer y trefi marchnad yn unig. Byddid yn ystyried y berthynas rhang y dre farchnad a’r cylchoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag anghenion y trefi eu hunain.

  • Dylai fod canolfan ym mhob ardal Cylch 3 i gymhathu newydd-ddyfodiaid, yn enwedig o ran dysgu’r Gymraeg, a gallen nhw fod yn rhan o ganolfannau gwasanaethau integredig.

CYLCH 4 - TRE SIROL CAERFYRDDIN

  • Bodolaeth y Cyngor Sir ei hun yw'r ffactor pwysicaf yma. Trwy bolisiau pwrcasu penodol, gallai'r Cyngor Sir hybu'r economi lleol. Gallai hefyd agor nifer o'i wasanaethau i'r cyhoedd yn yr adeiladau.

  • Er mwyn sicrhau fod trefi ac ardaloedd Cylch 3 a 2 yn hyfyw, dylai'r Cyngor Sir ddirprwyo lawr cymaint o gyfrifoldebau ag sy'n briodol.

  • O'r ochr arall, dylid ystyried yn ofalus pa wasanaethau y gellir eu cyflawni orau ar lefel sirol (e.e. hybu twwristiaeth) a pha wasanaethau y dylid eu darparu ar lefel rhanbarthol (e.e. trafnidiaeth ryng-sirol) yn hytrach na bod tuedd anochel tuag at ganoli pob gwasanaeth

  • Tu fewn i'r sir, bydd angen ystyried pa wasanaethau y dylid eu lleoli yn y brif dref arall - Llanelli - ond mae hyn tu allan i ystod y nodion hyn.

  • Dylai'r Cyngor Sir weithio'n agos gyda'r Cyngor Tref i sicrhau fod ystod cyflawn o wasanaethau yn y dref fel na bo raid ymadael â'r sir o reidrwydd am wasanaethau sylfaenol, a siocrhau fod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio ar ymyl tref i sicrhau fod trigolion yr ardaloedd gwledig yn gallu manteisio ar y cyfleusterau yn y brif dref tra'n dal i fyw yn yr ardaloedd gwledig. Dylid ceisio grymoedd i sicrhau fod modurwyr o'r ardaloedd gwledig yn gallu defnyddio meysydd parcio archfarchnadoedd a stadau masnachol ar gyrion y dref gyda gwasanaeth bws trefol i'w cludo i ganol y dref. Fel hyn y bydd cystadleuaeth decach rhwng y cwmniau mawr ar gyrion y dref a nifer o siopau llai yn y dref.

CYLCH 5 - CYNLLUNIO RHANBARTHOL

  • Nid ein lle ni mewn nodion ar gymunedau gwledig yw ceisio manylu ar bolisi datblygu rhanbarthol ac ymgyfyngwn felly i gydnabod nifer o'r ystyriaethau cyffredinol

  • Penderfyniad go sylfaenol yw ystyried beth yw hyd a lled y rhanbarth naturiol y mae Sir Gaerfyrddin yn rhan ohono. Mae dau bosibiliad amlwg (1) "De-Orllewin"/Dinas-Ranbarth Abertawe. Mae'n amlwg fod potensial datblygu economaidd mewn cyd-destun felly, ond hefyd potensial sugno popeth i'r dwyrain fel magned. Cyfraniad sir fel Caerfyrddin fyddai sicrhau fod unrhyw drefniant rhanbarthol fel hyn yn gweithredu'n bennaf fel fforwm yn hytrach na bod micro-gynllunio o'r canol. O ran cynllunio uniongyrchol, dylid cyfyngu i faterion sydd yn wir draws-ffiniol o ran siroedd - fel trafnidiaeth, a phrif ddatblygiadau masnachol. Rhaid bod yn ymwybodol y bydd yn anos ar lefel rhanbarthol fel hyn i wneud y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth

  • Y posibiliad arall yw (2) gweld pa ddatblygiadau "rhanbarthol" y dylid eu trefnu ar raddfa Dyfed, ac mae pwysau diweddar gan y llywodraeth ganolog i’r cyfeiriad hwn. Fan leiaf, bydd angen trefniadaeth i hybu datblygiadau traws-ffiniol mewn ardaloedd fel Dyffryn Teifi a HendyGwyn e.e. mae trigolion ardal Castell Newydd Emlyn yn cael eu cyfeirio at Ganolfan Ailgylchu Sir Gâr yn Nantycaws yn lle mynd at y ganolfan lawer yn nes ger Aberteifi, a hyn yn peri gwaredu anghyfreithlon. Ac mae llu o enghreifftiau lle byddai ardal fel Dyffryn Teifi yn rhannu gwasanaethau. Gallai twristiaeth hefyd fod yn faes at drefnu ledled Dyfed. Gellid ystyried wrth gwrs dau ranbarth gwahanol yn gogyffwrdd at wahanol ddibenion.

 

CYLCH 6 - CYMRU

  • Unwaith eto, nid ein lle ni yw manylu yma ar yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei gyflawni ym mhob maes - dim ond cydnabod fod llawer o feysydd y gellir naill ai eu trefnu orau yn ganolog neu osod yn ganolog ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol. Enghraifft ddiweddar o hyn yw'r canllawiau drafft newydd a fydd yn sefydlu rhagdyb o blaid datblygu ysgolion gwledig. Yn ogystal â deddfu a chyhoeddi rheoliadau statudol mae llywodraeth ganolog wrth gwrs yn dylanwadu'n drwm trwy ei dosbarthiad o gyllid i gadarnhau ei strategaethau. Ym maes datblygu gwledig, cyfeiriwn sylw yn arbennig at yr angen am strategaeth datblygu amaeth a chymunedau amaethyddol yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd yn briodol felly i weithgor materion gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin wneud nifer o argymhellion perthynol i swyddogaethau llywodraeth ganolog - yn dilyn y cynsail a grewyd gan weithgor y Cyfrifiad a greodd y strategaeth iaith.

  • Gall hyn fod yn amserol iawn o ystyried ystyriaeth gyfredol llywodraeth ganolog o bosibiliad creu “Bargen Wledig” fel na welir yr holl Gymru wledig yn drefedigaethau o’r Rhanbarthau Dinesig.

 

RHANBARTH CAERFYRDDIN, CYMDEITHAS YR IAITH – Mawrth 2018