Mae grwp newydd sy’n lobïo dros gymunedau Cymraeg wedi derbyn hwb ariannol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyhoeddwyd heddiw.
Mae Menna Machreth, yn wreiddiol o Landdarog, Sir Gaerfyrddin, sydd yn byw yng Nghaernarfon, wedi ei phenodi i swydd, a gyllidir gan y Gymdeithas, er mwyn cydlynu a datblygu’r gynghrair. Mae nifer o gymunedau eisoes wedi ymuno â Chynghrair Cymunedau Cymraeg sydd am lobio dros ddyfodol cymunedau Cymraeg ar lefel leol a chenedlaethol, yn debyg i fudiad UEMA yng ngwlad y Basg.
Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg, ac mae disgwyl y bydd canlyniadau’r cyfrifiad nesaf - a ddisgwylir yn ystod yr wythnosau nesaf - yn dangos dirywiad difrifol pellach.
Dywedodd Menna Machreth, cydlynydd newydd y Gynghrair:
"Mae sefydlu’r Gynghrair o Gymunedau Cymraeg yn llenwi bwlch yn y drafodaeth am ddyfodol cymunedau iaith Gymraeg a dyma pam fod nifer o gymunedau wedi ymuno’n barod. Nid yw’r Gynghrair yn gyfyngedig i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae potensial gan bob cymuned yng Nghymru i fod yn gymuned lle caiff y Gymraeg ei defnyddio fel iaith fyw. Bydd cyrraedd y nod honno yn stori unigryw ym mhob cymuned. Pwrpas Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw bod yn fforwm i gymunedau gydweithio a rhannu arferion da er mwyn grymuso eu hunain, a thrwy hynny, adfywio’r Gymraeg hefyd. Cyhoeddwn y bydd chwyldroi sefyllfa’r Gymraeg yn digwydd o’r gwaelod i fyny ac wrth fentro ac arloesi.
Cais y Gynghrair annog cymunedau i lunio camau ymarferol ar sail y dyhead o weld y Gymraeg yn cael ei chynnal fel iaith fyw yn ein cymunedau. Mae’r sawl sydd wedi ymaelodi wedi ymrwymo i set o egwyddorion heriol yn ymwneud â dyfodol y Gymraeg - o faterion yn ymwneud â’r drefn gynllunio i annog pobl i ddysgu’r iaith i’r alwad i awdurdodau lleol i weithredu drwy’r Gymraeg. Trwy gydweithio, credwn y gall cymunedau fynd i’r afael â materion economaidd, diwylliannol a chymunedol a fydd yn cael effaith enfawr ar dynged y Gymraeg yn ein cymunedau.”
Dywedodd Craig ab Iago, Cadeirydd dros dro'r Gynghrair:
“Rydyn ni’n falch iawn o’r gefnogaeth gan y Gymdeithas i’r Gynghrair. Braf iawn yw gweld bod y mudiad yn buddsoddi mewn menter efo cymaint o botensial i wneud cyfraniad mor gadarnhaol i’n cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae angen i ragor o fudiadau ddilyn yr un trywydd.”
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Rwy’n falch ein bod ni, fel mudiad, yn gallu defnyddio’r adnoddau sydd gennym i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ar lawr gwlad gan i ni ddweud llynedd, wrth edrych tuag at ein hanner canmlwyddiant, mai ein cymunedau fyddai ein blaenoriaeth o hyn allan. Rydym yn ddiolchgar am haelioni ein cefnogwyr.”
Cynhelir cyfarfod cyffredinol cyntaf y Gynghrair Cymunedau Cymraeg ar Ionawr 12fed 2013.
Bywgraffiad Menna Machreth
"Ganwyd Menna yng Nghaerfyrddin, fe’i magwyd yn Llanddarog, a mynychodd Ysgol Maes-yr-Yrfa. Graddiodd yn haf 2006 o Aberystwyth yn y Gymraeg a bu’n weithgar iawn gyda phrif ymgyrch Undeb Myfyrwyr Cymraeg y brifysgol. Cafodd ei ethol yn 2006 i swydd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, pan fu’n gyfrifol am arwain ymgyrch y myfyrwyr am Goleg Ffederal Cymraeg, a chydlynu holl weithgarwch yr undeb. Y mae newydd gyflwyno traethawd PhD dan y teitl: ‘Wyneb yn Wyneb: Hunaniaethau Cymraeg a Chymreig yn Erbyn Cefndir Refferenda 1979 a 1997’.
Mae Menna wedi teithio’n helaeth: bu’n siaradwr gwadd yng Nghyngres Lausanne yn Cape Town yn 2010; derbyniodd hyfforddiant ynghlych beirniadu’r celfyddydau yn Washington DC; y mae hefyd wedi ymweld â nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop ac y mae’n edrych ymlaen at ymweld â Nicaragua y flwyddyn nesaf fel rhan o ddirprwyaeth mudiad Cymru Nicaragua."