Deddf Addysg Gymraeg i Bawb

[agor fel PDF]

Deddf Addysg Gymraeg i Bawb

 

Pam fod angen Deddf Addysg Gymraeg i Bawb?

Dydy’r system addysg bresennol ddim yn addas i gyrraedd miliwn o siaradwyr 

0.05% yw twf blynyddol addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant 7 mlwydd oed ers 2010

Byddai’n cymryd 1,560 o flynyddoedd i sicrhau bod pob plentyn 7 mlwydd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar sail y twf ers 2010. 

Mae 15% o blant Gwynedd yn colli eu gafael ar y Gymraeg wrth drosglwyddo o’u hysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Mae 11% o blant Cymru yn colli rhuglder yn y Gymraeg o achos diffyg dilyniant rhwng y sector gynradd ac uwchradd. 

Er bod 22.2% o blant 7 mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, dim ond 17% o ddisgyblion sy’n cael eu hasesu fel Cymraeg iaith gyntaf yn 16 mlwydd oed - cwymp o 25%. 

Er bod 17% o ddisgyblion yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg iaith gyntaf, dim ond 5.2% o weithgareddau addysg sy’n cael eu cynnal yn Gymraeg neu’n ddwyieithog mewn sefydliadau addysg bellach - cwymp o 70%

-34.3% yw’r gostyngiad yn y nifer sy’n hyfforddi i fod yn athrawon sy’n medru’r Gymraeg

-47% yw’r gostyngiad yn nifer y plant sy’n sefyll Cymraeg fel Safon Uwch

Er hynny, mae potensial mawr i wneud cynnydd cyflym

Mae gan 80% o’r myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon sgiliau Cymraeg

Mae 33% o athrawon yn medru’r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ei thargedau blaenorol:

  • 25% yn cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf oedd targed y Llywodraeth erbyn 2015, ond 22.2% oedd y ganran a gafwyd mewn gwirionedd, canran is nag yn 2014 a 2013

  • 30% yn cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf oedd targed y Llywodraeth erbyn 2020, ond dim ond 22.2% oedd y ganran yn 2018 

Targedau presennol strategaeth iaith y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr:

  • 70% o blant yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg erbyn 2050

  • 40% o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg penodedig erbyn 2050.

Mae angen i 77.5% o blant 7 mlwydd gael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 er mwyn cyrraedd y miliwn, yn ôl dadansoddiad ystadegol Cymdeithas yr Iaith

Pam fod angen Deddf? 

“Mae’r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ddiffygiol iawn, nid oes unrhyw beth ar hyn o bryd sy’n sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu, yn eu dwyn i gyfrif os nad ydynt yn gweithredu nac ychwaith yn rhoi hawliau penodol i rieni i herio’r drefn.” - Rhieni dros Addysg Gymraeg

Nid oes amheuaeth bod y gyfundrefn bresennol o gynllunio addysg Gymraeg, ac yn benodol Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, wedi methu. Mae targedau allweddol y strategaeth wedi’u methu, ac mae argyfwng o ran cynllunio a recriwtio’r gweithlu.

Hyd yn oed lle mae ychydig o dwf, mae gwaith cyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awgrymu, pe bai'r patrymau presennol yn parhau, y byddai angen aros dros fil o flynyddoedd cyn y byddai pob plentyn saith mlwydd oed yn cael ei addysg drwy'r Gymraeg. 

Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd adroddiad gan fwrdd o arbenigwyr, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ail-edrych ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Mae’r adroddiad yn datgan: "Mae’r Bwrdd o’r farn fod angen ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai’n diwygio ac yn disodli Deddf Rheoliadau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 ... er mwyn sicrhau gwell darpariaeth o ran cynllunio a darparu ar gyfer addysg Gymraeg a dysgu’r Gymraeg yn fwy effeithiol yn gyffredinol, bydd angen creu deddfwriaeth fwy pwrpasol ac effeithiol ... gan greu trefn a fydd yn fwy cynhwysol ac uchelgeisiol na’r un bresennol."

  

Mae dadansoddiad ystadegol y Gymdeithas yn dangos bod angen cynnydd o 2.5% bob blwyddyn o leiaf er mwyn cyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hynny’n newid sylweddol o’r twf ers y flwyddyn 2000 a’r twf llai fyth ers 2010.

Mae’n amlwg o’r ystadegau a’r profiad ar lawr gwlad nad yw’r datblygiadau a’r cynnydd mewn ewyllys da wedi cyflawni’r newid sydd ei angen. Ein nod yw cynnig atebion i hyn ar y tudalennau nesaf. Ni allwn ddibynnu ar ewyllys da nac ar unigolion. Mae angen deddfwriaeth i sicrhau cynnydd cyson a real er mwyn cyflawni addysg Gymraeg i bawb.

Beth fyddai cynnwys Deddf Addysg Gymraeg i Bawb?

“Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddiaeth, yn fewnol ac yn allanol." 

Erthygl 20, Deddf Addysg Catalwnia

Dyma’r prif gynigion y bydden ni am eu cynnwys mewn Deddf (nid yw’r rhestr yn ymgais i gynnwys pob un cynnig):

  • Sefydlu nod hirdymor yn y ddeddfwriaeth i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, fel y gwneir yng Nghatalwnia, yn hytrach na ‘mesur y galw’.

  • Er mwyn gweddnewid y system o fewn ychydig ddegawdau i system debyg i un Catalwnia, disodli’r gyfundrefn bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a lunir gan awdurdodau lleol, cyfundrefn sydd wedi methu, gyda system sy’n gosod targedau clir, di-droi'n-ôl ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y nod hirdymor erbyn dyddiad(au) pendant.
     

  • Gosod targedau bob pum mlynedd, a thargedau hirdymor bob deng mlynedd, gyda cherrig milltir cadarn a mesuradwy ynghyd â’r deilliannau disgwyliedig tuag at nod deddfwriaethol mwy hirdymor, a hynny drwy ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Bydd targedau lleol yn cael eu sefydlu ar sail yr angen i gyrraedd y targedau cenedlaethol.
     

  • Sefydlu cyfundrefn sydd â chymhellion ariannol clir – refeniw a chyfalaf – a fformiwla glir er mwyn sicrhau bod y targedau hynny’n cael eu cyflawni drwy awdurdodau lleol. Dylai’r cymhellion ariannol clir hynny fod o fewn cyllidebau prif-ffrwd yn hytrach nag fel bonws.
     

  • Nodi’r dyletswyddau ar gynghorau i esbonio manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn eu holl waith ac i esbonio’r rhesymau dros gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i bawb wrth fynd drwy'r broses o symud at system fel un Catalwnia.
     

  • Gosod targedau o ran cynyddu nifer a chanran y pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sy’n addysgu’n bennaf drwy’r Saesneg ar hyn o bryd, yn unol ag argymhelliad adroddiad yr Athro Sioned Davies.
     

  • Ystyried rhoi pwerau a chyfrifoldeb ymchwilio naill ai i Estyn neu i Gomisiynydd y Gymraeg i fonitro cynnydd ar y targedau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.
     

  • Sefydlu hawl i drafnidiaeth yn rhad ac am ddim i ysgolion a meithrinfeydd Cymraeg.
     

  • Gosod dyletswydd gyfreithiol ar weinidogion a chynghorau sir i ddilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru i ddiogelu a chryfhau ysgolion bach a gwledig, gan gynnwys proses apelio glir ac amserol.
     

  • Gosod rheol i sicrhau na fydd yr un ysgol na sefydliad addysg newydd yn agor gyda chanran is o’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na’r sefydliadau addysg yn yr ardal leol, na llai na 50% o’r addysg drwy’r Gymraeg.

  • Gosod     dyddiad targed statudol ar gyfer darparu addysg blynyddoedd cynnar a chyfnod sylfaen yn Gymraeg yn unig ar draws Cymru gyfan.

  • Sefydlu ac ehangu canolfannau trochi ym mhob sir, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr un patrwm â’r gyfundrefn yng Ngwynedd, drwy wneud y canolfannau yn rhan o ddarpariaeth statudol i gynghorau lleol yn eu hardal 

  • Sefydlu targedau statudol o ran nifer y bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd er mwyn sicrhau cynnydd yn y ganran fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Sefydlu’r hawl i addysg cyn-ysgol leol yn Gymraeg a gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth gofal ac addysg cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg yn y sir i baratoi plant ar gyfer addysg statudol Gymraeg

  • Sefydlu’r hawl i astudio drwy’r Gymraeg mewn addysg ôl-16, gan gynnwys y brifysgol, mewn prentisiaeth ac yn y chweched dosbarth neu yn y coleg. 

  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chonsortia addysg i gynllunio’n strategol a darparu rhaglenni dysgu proffesiynol fydd yn cynyddu’r nifer o weithwyr addysg sy’n gwella eu sgiliau Cymraeg. Dylai hyn gynnwys gydnabyddiaeth o hawl gweithwyr addysg i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl yn y gwaith.

  • Rhoi cyfrifoldeb statudol i’r Coleg Cymraeg dros hyfforddiant cychwynnol athrawon a chynllunio’r gweithlu addysg;

Beth sy’n bod ar y system bresennol? 

Mae angen Deddf Addysg Gymraeg i Bawb er mwyn cyrraedd y miliwn.

Ar hyn o bryd, mae pobl gyffredin ar draws Cymru yn gorfod brwydro dros sefydlu, amddiffyn a chael mynediad at ysgolion cyfrwng Cymraeg.Nid yw’n iawn bod angen brwydro i sicrhau hawl sylfaenol plentyn i fod yn rhugl eu Cymraeg. 

Y darlun o gwmpas y wlad

Yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Torfaen, Casnewydd ac ardaloedd eraill, mae datblygwyr tai enfawr, megis cwmnȋau Bellway, Redrow, Persimmon a Taylor Wimpey, yn gwneud addysg cyfrwng Saesneg yn norm ar gyfer datblygiadau tai newydd.  

Yn sir Pen-y-bont, does dim un ysgol gynradd Gymraeg wedi agor ers 30 mlynedd

Ym Mlaenau Gwent, dim ond un ysgol gynradd Gymraeg sydd yn yr awdurdod cyfan, sy’n golygu bod llai na 5% o blant y sir yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, ac oherwydd lleoliad anghyfleus yr ysgol y tu allan i ardaloedd poblog, mae niferoedd yn disgyn.

Ym Mhowys, sir ddaearyddol fwya’r wlad, does dim un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, ac mae plant yn gorfod teithio degau o filltiroedd i siroedd eraill. 

Yn nhref Caerfyrddin, dim ond un ysgol gynradd Gymraeg benodedig sydd yn y dref, allan o gyfanswm o 7 ysgol. 

Dim ond un ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi agor yng Nghaerdydd yn y pum mlynedd diwethaf, a hynny yn dilyn brwydr hir ac anodd, sef Ysgol Gynradd Hamadryad. Mae'r ysgol yn dal heb gael dalgylch swyddogol, sy'n golygu bod rhieni Butetown sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg yn cael eu cyfeirio i ysgol orlawn ar ochr arall y ddinas, yn hytrach na'r ysgol Gymraeg newydd leol.

Rhwng 2012 a 2017, roedd cwymp yng nghanrannau’r disgyblion 7 oed sy’n cael addysg Gymraeg mewn naw sir, sef: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Blaenau Gwent. Dyma ran o’r rheswm does prin ddim cynnydd wedi digwydd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf ar lefel genedlaethol. 

Drwy osod nod statudol o wneud y Gymraeg yn gyfrwng addysg ein gwlad dros amser, a gosod targedau lleol di-droi’n-ôl gyda chymelliannau ariannol, gallai Deddf Addysg Gymraeg i Bawb drawsnewid y darlun yma ymhob rhan o Gymru. 

Sut fyddai Deddf Addysg Gymraeg i bawb yn newid y sefyllfa?

Addysg Gymraeg cyn-ysgol 

Mae pob sir yn cynnal awdit Digonolrwydd Gofal Plant bob tair blynedd, ac mae'r rhain yn dangos bod bwlch sylweddol rhwng yr angen am ofal plant cyfrwng Cymraeg a’r ddarpariaeth ar lawr gwlad. Mae bron i 90% o blant sy’n mynychu meithrinfeydd a chylchoedd meithrin y Mudiad Meithrin yn parhau gydag addysg cyfrwng Cymraeg wedi hynny. Felly, mae darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn amlwg yn bwysig iawn o ran sicrhau dilyniant disgyblion i ysgolion cyfrwng Cymraeg. 

Serch hynny, mae darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn annigonol hyd yn oed mewn ardaloedd gyda chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg, gan adael sawl teulu yn methu cael y rhyddid i ddewis gofal ac addysg gynnar Gymraeg i'w plant.   

Mae gwasanaethau blynyddoedd cynnar Cymraeg yn hollbwysig fel y cam cyntaf i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050. Er gwaethaf hyn, nid oes modd gosod unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol i orfodi cynnydd mewn gofal plant Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar drwy gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Dim ond 2% o ofalwyr plant Conwy sy’n ofalwyr cyfrwng Cymraeg, gyda 13% arall yn darparu ‘Cymraeg a Saesneg’, tra bod 45.5% o ddisgyblion ysgol yn cael canran sylweddol o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. O ran gofal dydd yng Nghonwy, dim ond 3% sydd drwy gyfrwng y Gymraeg a 26% yn Gymraeg a Saesneg. Noda asesiad y sir bod prinder gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Yn Nhorfaen, does dim gofalwyr plant cyfrwng Cymraeg na dwyieithog yn y sir. Does dim gwasanaethau wedi’u cofrestru o dan y categori cyfrwng Cymraeg, ond mae 100 lle ‘dwyieithog’ yn yr ardal allan o 1786 lleoliad, sef llai na 6%.

Nid Conwy a Thorfaen yw'r unig enghreifftiau lle mae prinder llefydd gofal plant Cymraeg - yn wir, mae bron pob sir yng Nghymru mewn sefyllfa debyg. Er bod llawer o arian wedi’i fuddsoddi mewn gwasanaethau i blant bach fel Dechrau'n Deg, ni fu twf mewn gwasanaethau gofal cyfrwng Cymraeg i'r plant hynny mewn sawl ardal o Gymru.  

Byddai Deddf yn gallu unioni hyn drwy sefydlu hawl i addysg cyn-ysgol yn Gymraeg a gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i’w darparu, ynghyd â mesurau i gynllunio’r gweithlu.

Ysgolion newydd

Hanes agor ysgolion newydd cyfrwng Cymraeg mewn nifer o siroedd ydy brwydrau hir gan rieni a chymunedau lleol, gan fod addysg cyfrwng Saesneg yn parhau i gael ei gweld fel y norm. Mae hyn yn arbennig o wir mewn siroedd sy’n gweld eu poblogaeth yn tyfu, lle mae angen agor ysgolion newydd, ond y rhagdybiaeth fel arfer yw taw ysgol cyfrwng Saesneg fydd unrhyw ysgol newydd ac mae cynghorau yn glynu at syniadau sydd wedi dyddio o ‘fesur y galw’. 

Yng Nghaerdydd er enghraifft, er gwaethaf galw enfawr yn y ddinas am lefydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r ffaith fod gan Gaerdydd, fel dinas fwyaf Cymru, gyfraniad enfawr i wneud os ydyn ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, nid oes gan y Cyngor strategaeth i ehangu addysg Gymraeg i’r lefel sydd ei angen. Brwydr hir oedd hi gan y gymuned leol i agor Ysgol Gynradd Hamadryad yn ne’r ddinas, ac yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cyngor fyddai ysgol gynradd newydd fel rhan o ddatblygiad Plasdwr yng ngorllewin y ddinas yn un ddwyieithog, yn hytrach nag ysgol benodedig Gymraeg. Ceir darlun debyg mewn siroedd poblog a dinasoedd eraill, megis Pen-y-Bont a Chasnewydd. 

Byddai Deddf yn unioni hyn drwy osod targedau statudol ar awdurdodau lleol i gynyddu’r canran o blant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir, gyda chymhellion ariannol cryf a system i fonitro cynnydd yn erbyn y targedau hynny. 

Cymreigio Ysgolion Presennol

Mewn nifer o ardaloedd, ac ardaloedd gwledig yn enwedig, y brif ffordd i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yw cynyddu canran yr addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion presennol. 

Ond nid yw’r system bresennol yn cynorthwyo nac yn annog symud ysgolion i fyny’r llwybr o ddarparu mwy a mwy o addysg drwy’r Gymraeg. 

Yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Powys, mae llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi ceisio newid categori iaith yr ysgol o fod yn ysgol ddwyieithog gyda dwy ffrwd i fod yn ysgol benodedig Gymraeg, wrth i’r ffrwd Saesneg grebachu’n naturiol. Fodd bynnag, mae gofynion statudol wedi cyfrannu at rwystro hyn rhag digwydd.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi arwain Cymru yn ei ymdrechion i symud ysgolion unigol i fyny o ran eu categori cyfrwng iaith. Fodd bynnag, nid yw’r gyfundrefn genedlaethol wedi eu cynorthwyo yn hynny o beth. Roedd achos Ysgol Llangennech yn amlygu’r rhwystrau sy’n gallu wynebu cynghorau wrth gyflawni rhaglen ddemocrataidd oedd yn seiliedig ar gefnogaeth eang poblogaeth y sir dros normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. 

Byddai Deddf Addysg Gymraeg yn newid y broses ymgynghori fel ei bod yn hwyluso ac yn annog cynyddu canran yr addysg Gymraeg mewn ysgolion unigol ymhob sir. 

Dilyniant

Mewn sawl sir, mae diffyg trosglwyddiad disgbylion o addysg gynradd Gymraeg i ysgolion uwchradd Cymraeg yn golygu bod cannoedd o blant yn colli eu gafael  ar y Gymraeg. 

Yng Ngwynedd, 98.9% yw’r ganran a asesir yn y Gymraeg fel Iaith Gyntaf ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, ond dim ond 83.7% sy’n cael eu hasesu felly ym Mlwyddyn 9 - cwymp o 15%. Gwelir cwymp tebyg yn siroedd eraill y Gorllewin, gyda chwymp o 14% yn Sir Gaerfyrddin ac 11% ar lefel genedlaethol. Mewn sawl achos, mae hyn oherwydd ysgolion  uwchradd sydd ddim yn darparu addysg Gymraeg gyflawn. 

 

Mae oddeutu 1,234 o ddisgyblion Gwynedd ac Ynys Môn yn mynychu Ysgol Friars, sy’n ysgol ddwyieithog er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r disgyblion sy’n mynychu’r ysgol wedi astudio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Yn 2017, adroddir gan Estyn mai dim ond 16% o’r disgyblion sy’n rhugl eu Cymraeg.

 

Yn Sir Gaerfyddin, mae pob ysgol gynradd sy’n bwydo Ysgol Gyfun Emlyn, heblaw am un, yn ysgolion Cymraeg eu cyfrwng, ac mae’r ffrwd Saesneg olaf yn y dalgylch yn y broses o ddiflannu. Serch hynny, Saesneg yw prif gyfrwng addysg Ysgol Emlyn. 

Byddai Deddf Addysg Gymraeg yn gosod cyfrifoldeb a thargedau ar Awdurdodau Lleol i gynyddu’n gyson y canrannau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ac yn gwneud arholiadau yn Gymraeg, fel rhan o’r nod statudol o wneud y Gymraeg yn norm fel cyfrwng addysg ein gwlad. Byddai cynghorau unigol yn llunio’r dull gorau o gyrraedd y nod i gydweddu ag amgylchiadau lleol.

Canolfannau Trochi

Mae canolfannau trochi yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr o ddysgu’r Gymraeg fel bod plant sy’n dod o’r tu allan i Gymru neu o’r tu allan i’r sir yn medru mynychu addysg cyfrwng Cymraeg, a bod plant sydd ar hyn o bryd mewn addysg cyfrwng Saesneg yn gallu trosglwyddo i addysg Gymraeg. Serch hynny, nid oes canolfan ym mhob sir ac nid ydynt yn cyflawni’r un swyddogaeth ym mhob rhan o Gymru.  

Rydym wedi gweld cynlluniau eleni i gwtogi canolfannau trochi yn Abertawe a Gwynedd, gydag ymgyrch gref yn lleol yng Ngwynedd i atal israddio’r ddarpariaeth. 

Byddai Deddf Addysg Gymraeg yn diogelu ac yn ehangu canolfannau trochi ym mhob sir, gan ei gwneud yn ddyletswydd statudol i bob awdurdod lleol eu darparu, gan symud dros amser i system debyg i’r un yng Ngwynedd. 

Cynllunio’r Gweithlu

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cwymp yn nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon, gan gynnwys y nifer sy’n hyfforddi i addysgu drwy’r Gymraeg. Rhwng 2013/14 a 2017/18, roedd cwymp yn nifer y myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg a ddechreuodd ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon o 320 i 210, sef cwymp o 34.3%.

Mae’r Llywodraeth ei hun wedi rhybuddio, ar sail y patrymau presennol, nad ydyn nhw’n sicr y bydd modd iddyn nhw gyrraedd eu targedau ar gyfer 2021 i gynyddu y nifer o athrawon ysgolion uwchradd sy’n addysgu drwy’r Gymraeg. Yn ogystal, rydym wedi gweld Prifysgol Bangor yn cwtogi ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. 

Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen system sydd wedi ei chynllunio’n bwrpasol ar gyfer sicrhau bod canran gynyddol uwch o’r gweithlu addysg yn addysgu drwy’r Gymraeg. 

Byddai Deddf yn gwella’r sefyllfa drwy osod targedau ar ddarparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ac eraill sy’n hyfforddi’r gweithlu addysg. Yn ogystal, byddai modd rhoi cyfrifoldeb a phwerau i’r Coleg Cymraeg gynllunio’r maes yn bwrpasol. 

Trafnidiaeth

Mae sawl sir wedi neu wrthi’n ystyried codi tâl neu gynyddu’r tâl ar gyfer teithio i’r ysgol. Ar hyn o bryd, mae dyletswydd statudol ar gynghorau i ddarparu trafnidiaeth am ddim i’r ysgol leol addas agosaf os yw disgybl yn byw dair milltir neu fwy o’r ysgol, ond does dim dyletswydd statudol ar gynghorau i ddarparu trafnidiaeth am ddim i’r ysgol neu chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg agosaf. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, bod rhai awdurdodau lleol, yn sgil heriau adolygiadau barnwrol, wedi adolygu eu polisïau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'u bod, bellach, yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau statudol o ran ystyried dewisiadau ieithyddol a ffydd wrth benderfynu ar yr ysgol 'agosaf'. Mae sawl un o’r polisïau hyn sy’n camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg yn anuniongyrchol drwy godi tâl ar deithio i addysg ôl-16 gan fod addysg o’r fath yn Gymraeg yn tueddu i fod yn bellach i ffwrdd i’r disgybl mewn llawer o siroedd. 

Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn niwlog o ran yr ymrwymiad i’r Gymraeg gan osod dyletswydd i “hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg” ar gynghorau a’r Llywodraeth. 

Yng Nghastell Nedd-Port Talbot, mae’r cyngor yn ymgynghori ar gynlluniau i godi pris teithio o £100 i £390 y flwyddyn ar gyfer myrfyrwyr ôl-16. Ond, mae'r cwmni bysiau sy'n gwasanaethu Coleg Castell-nedd Port Talbot ar y llaw arall yn medru cynnig pris gostyngol i deithio, sef £95 y flwyddyn - sy’n gwbl anghyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg.  Mae'r cynigion felly yn creu cymhelliant ariannol i ddisgyblion a rhieni ddewis addysg ôl-16 nad yw’n addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae nifer o siroedd eraill wedi cwtogi neu wedi ystyried cwtogi mewn ffyrdd tebyg. Er enghraifft, mae pryder am ddyfodol addysg Gymraeg i bobl ifanc dros 16 oed yn Sir y Fflint ar ôl i gabinet y cyngor bleidleisio i beidio darparu cludiant am ddim ar eu cyfer o fis Medi 2020 ymlaen. Bydd disgyblion sy'n cael cinio ysgol am ddim yn parhau i gael bws am ddim, ond fe allai'r gweddill orfod talu rhwng £150 a £450 y flwyddyn.

Byddai Deddf Addysg Gymraeg yn unioni’r sefyllfa drwy osod dyletswydd statudol ar gynghorau i ddarparu trafnidiaeth am ddim i ysgol a chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg.

Addysg ôl-16

Yn hanesyddol, mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl 16 mlwydd oed yn llawer is nag addysg statudol - maes sy’n cwmpasu addysg hynod o ddylanwadol yn ein cymunedau gan gynnwys prentisiaethau, cyrsiau colegau addysg bellach a phrifysgolion. 

Yn 2016/17, dim ond 5.2% o fyfyrwyr mewn colegau addysg bellach a gafodd eu haddysgu’n ddwyieithog neu’n Gymraeg, a dim ond 0.3% o brentisiaethau oedd yn cynnwys o leiaf un gweithgaredd cyfrwng Cymraeg.  

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gorff anstatudol, sydd â chyfrifoldebau i wella’r sefyllfa, ond mae angen mynd ymhellach.  

Byddai Deddf Addysg Gymraeg yn gallu sefydlu’r hawl statudol i addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ynghyd â chrisialu cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol dros y meysydd hyn a sicrhau eu bod yn cael eu cyllido’n deg.   

Dysgu fel Oedolyn 

Nid oes hawl i ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cael grant blynyddol i drefnu gwersi, ond mae’n rhaid talu am y rhan fwyaf o wersi. Mae hynny’n camwahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol o bobl, megis y rhai sy’n methu fforddio talu am wersi.

Er bod cyrff sy’n ddarostynedig i Safonau’r Gymraeg yn gorfod darparu gwersi Cymraeg, nid yw’r hawliau hynny’n ymestyn i’r rhan fwyaf o’r sector breifat nac ychwaith y sector addysg. 

Byddai Deddf Addysg Gymraeg yn mynd i’r afael â’r sefyllfa drwy sefydlu’r hawl i ddysgu Cymraeg fel oedolyn yn ogystal â’r hawl i weithwyr addysg ddysgu’r Gymraeg yn rhugl yn y gwaith.  

Ysgolion Gwledig

Mae rhaglenni o gau ysgolion gwledig Cymraeg wedi gallu tanseilio’r canrannau sy’n cael addysg Gymraeg. 

O ganlyniad i gwtogi cyllidebau awdurdodau lleol o ran darparu addysg gymunedol, symudodd y pwyslais at ddarparu cyrsiau lle byddai’r niferoedd mwyaf yn cofrestru - bron yn ddieithriad felly mewn ardaloedd trefol. Mae niferoedd absoliwt y bobl ddi-Gymraeg, yn llawer llai mewn ardaloedd gwledig, ond mae eu Cymreigio yn cael effaith sylweddol o ran cynnal y Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu cymdeithasol.

Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor yn ei Chod Trefniadaeth Ysgolion. Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r cod newydd yn 2018, mae achosion yn Ynys Môn ac Abertawe wedi amlygu gwendidau yn y ddeddfwriaeth nad yw’n darparu ar gyfer proses apelio os nad yw cyngor wedi cadw at ofynion y cod. 

Byddai Deddf yn unioni hyn drwy ail-ymweld â’r ddeddfwriaeth a sefydlu proses apelio gliriach er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cadw at ofynion y cod. 

 

Beth galla i ei wneud i sicrhau Deddf Addysg Gymraeg i Bawb?

Oes enghreifftiau gyda chi o sut mae angen gwella’r system addysg Gymraeg?

Bydd eich tystiolaeth chi yn ein helpu i wneud yr achos yn glir dros yr angen am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb! 

Rhowch wybod inni pam mae Deddf Addysg Gymraeg yn bwysig i chi drwy:

cymdeithas.cymru/achosdeddfaddysg 

Ymaeloda â’r Gymdeithas i helpu ni i ennill yr ymgyrch hon, a nifer o rai eraill! 

cymdeithas.cymru/ymaelodi