Addysg Gymraeg lleol yn Rhondda Cynon Taf - Protest i gadw Ysgol Pont Sion Norton

Roedd rhieni a phlant wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf heddiw mewn ymgais i atal cau ysgol Gymraeg yn ardal Pontypridd.

 

Mae’r ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer ad drefnu addysg gynradd yn ardal Pontypridd. Maen nhw’n pryderu na fydd addysg Gymraeg yn opsiwn lleol i lawer o reini i ogledd dref Pontypridd o ganlyniad i gynnig i gau Ysgol Pont Sion Norton.

Ymysg y siaradwyr yn y gwrthdystiad oedd y cerddor Martin Geraint, y cynghorydd lleol Heledd Fychan ynghyd â phlant a rhieni lleol. Yn siarad cyn y brotest, dywedodd Owen Howell, swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith:

 

“Mae’n siom enfawr bod y cyngor yn cynnig cau Ysgol Pont Siôn Norton a lleoli’r ysgol newydd cyn belled o’r gymuned. Mae’r ysgol yn ganolbwynt i'r gymuned ac yn cynnig addysg Gymraeg lleol i'r gymuned honno a chymunedau cyfagos lle mae galw mawr am addysg Gymraeg. Tra bod modd croesawu buddsoddiad hir ddisgwyliedig mewn addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal, ni ddylai hyn fod ar draul addysg leol. Galwn ar y cyngor i fynd ati i sicrhau bod yr ysgol yn derbyn y cyfleusterau newydd sydd angen arni, o fewn yr ardal leol, wrth barhau gyda'r cynlluniau ar gyfer ysgol newydd arall ar safle presennol Heol y Celyn.”