Llywodraeth yn methu targedau addysg miliwn yn dangos ‘angen dybryd am Ddeddf Addysg Gymraeg radical’

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am “Ddeddf Addysg Gymraeg radical” yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod wedi methu eu targedau addysg allweddol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr. 

 

Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw yn Rhaglen Waith y Llywodraeth ar gyfer polisi’r Gymraeg yn dangos bod Gweinidogion wedi methu eu targedau eu hunain ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyflogi rhagor o weithwyr addysg Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf.  
 
Mae'r Rhaglen Waith yn gosod targed o gynyddu cyfran y plant blwyddyn un sy'n dysgu drwy'r Gymraeg o 23% i 26% dros y pum mlynedd nesaf. Ond fe fethwyd targed blaenorol i asesu 24% o blant blwyddyn dau drwy'r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf. Gwelwyd cynnydd o ychydig dan 1 pwynt canran rhwng 2015/16 i a 2020/21, oedd yn îs na’r cynnydd y byddai wedi ei angen i gyrraedd y targed o 24%.  

 

Mae’r Rhaglen Waith, a gyhoeddwyd heddiw, yn amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar feysydd yn cynnwys addysg Gymraeg a chartrefi, ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, nid yw’r Rhaglen “yn ddigonol os ydym am gyrraedd, a mynd y tu hwnt, i’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones:

 

"Mae’n destun pryder bod y Llywodraeth wedi methu eu targed pitw o asesu 24% o blant Blwyddyn 2 drwy'r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf; os yw’r Llywodraeth o ddifri ynghylch ehangu addysg Gymraeg, yna mae angen iddyn nhw newid gêr — a gwneud hyn fel mater o frys. Mae’r methiant hwn yn dangos yr angen dybryd am Ddeddf Addysg Gymraeg radical.

“Rydyn ni'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i weithredu drwy gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg, ond mae angen iddi fod yn Ddeddf fydd yn cyflwyno addysg Gymraeg i bawb, nid y lleiafrif ffodus yn unig. Ac mae angen iddi gynnwys targedau statudol a buddsoddiad sylweddol i ehangu'r gweithlu addysg Gymraeg. Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i sefydlu nod hirdymor yn y ddeddfwriaeth i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, gwneud y Gymraeg yn gyfrwng iaith normadol ein holl system addysg ac am osod targed o 77.5% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2040. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i’r Llywodraeth osod targedau statudol ar lefel lleol a chenedlaethol o ran darpariaeth addysg Gymraeg a recriwtio a hyfforddi’r gweithlu. 

"Rydyn ni wedi amlinellu ein cynigion ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i Bawb ac agenda ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn ein dogfen ‘Mwy na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’. Dyma fyddai wir yn sicrhau bod pawb yn y wlad yn gallu dysgu, defnyddio a mwynhau'r Gymraeg mewn modd ystyrlon yn eu bywydau bob dydd."