‘Argae dynol’ i atal chwalfa cymunedau Cymru

Am 1pm Sadwrn 10ed o Orffennaf, disgwylir cannoedd o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i ffurfio “argae dynol" ar draws argae Tryweryn ger Y Bala, yn arwydd o benderfyniad y Gymdeithas i atal chwalfa cymunedau Cymru yn sgîl yr argyfwng tai.

Bydd y cefnogwyr yn llofnodi galwad yn mynnu fod Llywodraeth Cymru'n "gweithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli'r farchnad dai a'r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i'w pobl”. Yn annerch y dorf yn y safle hanesyddol hwnnw y bydd: Dafydd Iwan, Delyth Jewell AS, Cian Ireland (ymgeisydd Llafur yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd yn etholiadau’r Senedd 2021) a Branwen Niclas (a garcharwyd am ddeuddeg mis 30 mlynedd yn ôl i eleni am ei rhan yn ymgyrch Deddf Eiddo y Gymdeithas). 

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith, Osian Jones:

 "Fedrwn ni ddim aros am ddegawdau eto i gael gweithredu pendant gan y Llywodraeth: mae’n cymunedau yn cael eu chwalu wrth i bobl ifanc gael eu gorfodi i symud gan fod cyfran mor fawr o'r tai yn cael eu prynu am brisiau chwyddedig gan bobl gyfoethocach, sy’n aml yn eu defnyddio fel tai gwyliau neu ail gartrefi; ni fydd lawer o ddyfodol i’r Gymraeg heb gymunedau cadarn. Yfory (Dydd Gwener, 21 Mai), byddwn yn cychwyn cyfri lawr 50 diwrnod at ddyddiad y rali, ac yn cyhoeddi bob dydd enwau pobl amlwg a fydd yn dod i'r rali i lofnodi'r galwad ar y Llywodraeth newydd. Mae Mark Drakeford eisoes wedi addo gweithredu i atal yr anghyfiawnder, a bydd yn Gymdeithas yn ymgyrchu i sicrhau mai cyfres o gamau radicalaidd i daclo'r sefyllfa a gymerir, yn hytrach na mesurau gwag. Tydy'n cymunedau ddim yn gallu aros ddim mwy.”

Cliciwch yma i weld tudalen y digwyddiad ar Facebook