Galw am ‘becyn radical o fesurau’ i daclo’r argyfwng tai

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, i gyflwyno “pecyn o gynigion” i daclo’r argyfwng tai ond yn pwylseisio y dylai’r pecyn hwnnw fod yn “radical a chynhwysfawr”.

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement y BBC ddoe (Dydd Sul, 6 Mehefin), dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “disgwyl y bydd gan y Cabinet bapur cyn diwedd mis yma yn tynnu’r holl syniadau ynghyd ac yn rhoi cynigion ymarferol i ni eu hystyried”, gan ychwanegu y bydd y Llywodraeth hefyd yn ymateb i argymhellion Dr. Simon Brooks o’i bapur yntau. 

Dywedodd ein Cadeirydd, Mabli Siriol:

“Mae'n galonogol clywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ail-adrodd ei ymrwymiad i gyflwyno pecyn o fesurau i daclo’r argyfwng tai: mae’r argyfwng presennol yn bygwth cymunedau ar hyd a lled Cymru a pharhad y Gymraeg yn genedlaethol, felly mae’n hanfodol fod y Llywodraeth yn gweithredu’n awr i’w daclo. Mae difrifioldeb a graddfa’r argyfwng yn golygu na fydd mesurau bychain yn ddigon i ddiogelu cymunedau Cymru. Rydyn ni’n galw am osod cap ar ganran yr ail gartrefi sydd mewn cymuned, rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gweigion ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd cymunedau; dyma’r math o fesurau radical a chynhwysfawr y bydd angen i’r Llywodraeth eu gweithredu fel rhan o’u pecyn os oes unrhyw obaith arnom i daclo’r argyfwng tai cenedlaethol.

“Mae’n amlwg felly na fydd mesurau bychain, lleol, yn ddigon i daclo’r argyfwng tai, gan eu bod yn anwybyddu’r cyd-destun economaidd ehangach a achosodd yr argyfwng cenedlaethol yn y lle cyntaf; mae hefyd yn wir fod yr holl argyfyngau tai lleol yn effeithio’i gilydd, sy’n golygu na allwn wirioneddol daclo’r argyfwng tai mewn unrhyw man leol heb ei daclo’n genedlaethol. Mae’r argyfwng hefyd yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol ac economaidd syflaenol, gyda phobl gyffredin ym mhob rhan o Gymru yn ei chael yn amhosib i brynu tŷ yn eu cymuned, tra bo’ pobl gyfoethog yn prynu ail a thrydydd tai, gan chwyddo prisiau tai a dinistrio bywyd cymunedol - bydd angen i becyn o fesurau’r Llywodraeth adlewyrchu’r ddimensiwn dosbarth cymdeithasol yma i’r argyfwng.”

Ychwanegodd:

“Mae angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai i sicrhau cartrefi lleol i bawb, ym mhob rhan o Gymru; wedi’r cyfan, mae’r hawl i gartref yn hawl gwbl syflaenol, ac ni ddylai’r hawl syflaenol hwn gael ei errydu gan farustra pobl gyfoethog a system economaidd sy’n blaenoriaethu cyfalafiaeth yn hytrach na’n cymunedau.”

Byddwn yn cynnal ein rali ‘Nid yw Cymru ar werth’ ar argae Tryweryn am 13:00, Dydd Sadwrn y 10fed o Orffennaf.