Mewn llythyr at Gadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd (Janet Finch-Saunders) yn ymateb i ddeiseb gan Gymdeithas yr Iaith a lofnodwyd gan dros 5000 o bobl, mae'r Gweinidog Tai Julie James wedi addo gwneud datganiad i'r Senedd ym mis Ionawr am sut bydd y Llywodraeth yn gweithredu ynghylch y mater. Mae deiseb y Gymdeithas yn galw ar y Llywodraeth i roi grymoedd brys i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristaidd i sicrhau cartrefi i bobl leol. Trafodwyd y ddeiseb yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau heddiw (15 Rhagfyr) lle penderfynodd y Pwyllgor y bydd y Senedd gyfan yn trafod y ddeiseb yn y flwyddyn newydd os na fydd ymateb y Llywodraeth yn bodlonni galwadau’r ddeiseb.
Mewn ymateb, dywedodd Osian Jones ar ran y Gymdeithas:
"Rydym yn diolch i Leanne Wood a gynigiodd yn llwyddiannus yn y cyfarfod y dylai’r Pwyllgor ofyn i'r Gweinidog ystyried yn y datganiad y camau brys y dylid eu cymryd i wella'r sefyllfa. Ond mynegwn ein pryder fod y cyn-aelod UKIP Michelle Brown wedi awgrymu gadael y mater "ar y back-burner" tan i’r Gweinidog wneud ei datganiad. Mae'n argyfwng brys ar lawer o'n cymunedau Cymraeg, a mynnwn ddadl frys ar ddatganiad y Gweinidog y mis nesaf.”
Ychwanegodd:
"Byddwn hefyd yn cynnal Rali Genedlaethol "Nid yw Cymru ar werth" ar hyd argae Tryweryn ger y Bala ddydd Sadwrn y 15ed o Fai y flwyddyn nesaf er mwyn herio’r Llywodraeth nesaf i wneud dyfodol ein cymunedau Cymraeg yn un o'u blaenoriaethau, ac i flaenoriaethu cymunedau a phobl gyffredin ar hyd a lled ein gwlad yn hytrach na’r system gyfalafol sy’n achosi cymaint o’r problemau yma.”
Mae llythyr y Gweinidog Tai wedi'i atodi isod.
Atodiad | Maint |
---|---|
P-05-1056 201127 Llythyr Julie James mewn ymatyeb i'r ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.pdf | 224.4 KB |