Rhowch Fil y Gymraeg yn y Bin! Dechreuwch eto

 

'NA' i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg

Ym mis Awst 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, sy’n datgan ei fod yn seiliedig ar brofiad "naw mis ar ôl i'r Safonau cyntaf ddod i rym”, ac yn cynnig:

  • Dileu Comisiynydd y Gymraeg, ac ail-sefydlu corff tebyg i Fwrdd yr Iaith (a elwir yn Gomisiwn) a fydd yn cyfuno rheoleiddio a hybu o fewn yr un corff
  • Rhoi’r grym i Lywodraeth Cymru, yn lle Comisiynydd y Gymraeg, benderfynu pwy sy'n dod o dan ddyletswydd iaith, pa rai, dan ba amodau ac erbyn pryd
  • Llywodraeth Cymru, nid y Cynulliad, fyddai’n penodi prif swyddogion y cyrff rheoleiddio a hybu'r iaith
  • Dileu’r rhestri yn y Mesur presennol sy’n sicrhau bod hawl gan Gomisiynydd y Gymraeg i gychwyn y broses o osod dyletswyddau iaith ar rai gwmnïau preifat penodol megis cwmnïau telathrebu
  • Ychwanegu haen ychwanegol o ddyletswyddau iaith, 'dyletswyddau cynllunio ieithyddol', ar ben y Safonau a chynlluniau iaith, heb bwerau gorfodi i sicrhau cydymffurfiaeth â nhw
  • Diddymu hawl y cyhoedd i gwyno yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg
  • Cyfyngu ymchwiliadau i mewn i gwynion 'difrifol' yn unig, felly ni fydd modd defnyddio pwerau gorfodi yn y rhan helaeth o achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r Safonau

     

'Ie' i Ddeddf Iaith Gref newydd

Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu:

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi’r papur gwyn yn y bin a dechrau eto gan fod y Llywodraeth wedi gwrando ar gyrff a busnesau ar draul hawliau cefnogwyr y Gymraeg
  • Dylid estyn y Safonau i weddill y sector preifat drwy enwi sectorau ar wyneb y Mesur, gan ddechrau’n syth gydag archfarchnadoedd, banciau, manwerthwyr a chwmnïau sydd â throsiant uwch na ffigwr benodol, gydag amserlen a hawl i gynnwys rhagor o sectorau drwy is-ddeddfwriaeth.
  • Dylid cadw Comisiynydd y Gymraeg fel corff rheoleiddio ar wahan gan ei bod yn fodel a ddefnyddir yn rhyngwladol a bod Comisiynwyr Plant, Pobl Hŷn a Chenedlaethau’r Dyfodol. Byddai sefydlu Comisiwn yn lle Comisiynydd y Gymraeg yn gam mawr yn ôl ac yn gyfystyr ag ail-sefydlu Bwrdd yr Iaith – cyfundrefn a ddiddymwyd yn 2012 oherwydd ei methiannau.
  • Bod angen hawliau cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg ar wyneb y ddeddfwriaeth i gyd-fynd â’r Safonau, er eglurder i’r cyhoedd ac er mwyn llywio’r Safonau i sicrhau eu bod yn esblygu a gwella a llenwi’r mannau gwan ynddynt.

Am fanylion llawn ein safbwynt ar bapur gwyn y Llywodraeth, darllener ein hymateb i'r ymgynghoriad yma.