Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – y ffordd ymlaen

Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei hymateb i “Ddrafft Bil Cynllunio” Llywodraeth Cymru. Nid yw’r drafft yma yn cyfeirio o gwbl at y Gymraeg. Os na newidir y drafft yma ni fydd modd gwrthod na chaniatau datblygiad oherwydd yr effaith ar y Gymraeg. Yn sgîl cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion, Aelodau Cynulliad o bob plaid, swyddogion cynllunio a chynghorwyr rydym wedi penderfynu bod angen dangos i’n gwleidyddion beth sydd yn bosib. Felly ym mis Mawrth cyhoeddodd y Gymdeithas “Bil Eiddo a Chynllunio er Budd Cymunedau (Cymru).”

Dogfen ddrafft yw hon ac rydym wrthi'n cynnal cyfarfodydd ymgynghorol led-led Cymru i gael ‘barn y bobl’ ar yr hyn rydym yn argymell. Ochr yn ochr gyda’r gwaith “cyfansoddiadol” yma mae’r ymgyrchu yn parhau o ganlyniad i fethiant llwyr Llywodraeth Cymru i ymateb yn ystyrlon i’r dirywiad yn y nifer o gymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith. Beth yw pwrpas cynnal cynadleddau a chyhoeddi adroddiadau oni weithredir ar yr argymhellion?

Heb os nac onibai rydym wedi rhoi digon o gyfle i’r Llywodraeth i ddangos eu bod o ddifri. Fodd bynnag, yr hyn a chawsom yw datganiadau tila yn ail-adrodd yr hyn sydd eisoes ar y gweill ac sydd yn hollol annigonol – ac yn arbennig felly ym maes cynllunio. Nid oes pwrpas i Nodyn Cynghorol Technegol (TAN) 20, sef y canllaw cynllunio ar y Gymraeg, os nad oes modd gweithredu ar yr argymhellion ac os nad oes grym statudol wrth gefn yr argymhellion.

Er mwyn atal y lleihad yn y nifer o gymunedau Cymraeg a symud at sicrhau mwy o gymunedau lle y gall pobl fyw yn Gymraeg rhaid cael trefn cynllunio sydd yn cydnabod y Gymraeg fel rhan annatod o’n hamgylchedd byw. Fel y nodir yn ein “Bil Eiddo a Chynllunio,” rhaid diwygio Adran 70 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i nodi rheidrwydd ar geisiadau cynllunio sy'n berthnasol i dir yng Nghymru gynnwys yr angen i ddiogelu statws swyddogol y Gymraeg a diogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol ym maes cynllunio ym mhob rhan o Gymru. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru dylai’r Gymraeg allu fod yn brif ystyriaeth mewn penderfyniadau cynllunio. Fel rhan o’r ymgyrch i ddiwygio’r drefn cynllunio yng Nghymru ac i hyrwyddo’r “Bil Eiddo a Chynllunio” byddwn yn galw ar bobl yn Nghymru i gefnogi’r 5 egwyddor creiddiol i’r Bil, sef:

1. Datgan mai pwrpas y system gynllunio yw rheoli tir mewn ffordd sy’n
gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg

2. Asesu anghenion lleol fel man cychwyn a sylfaen pendant i gynlluniau
datblygu, yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau
poblogaeth cenedlaethol

3. Sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu

4. Rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr ystyried y Gymraeg wrth dderbyn neu wrthod
cynlluniau, drwy wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol

5. Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, y mae cymunedau yn gallu apelio iddo

Mae'r galwadau hyn eisoes wedi derbyn cefnogaeth nifer o fudiadau ac unigolion blaenllaw megis Cyfeillion y Ddaear a'r Eisteddfod Genedlaethol. Gallai unigolion ddatgan eu cefnogaeth i'n galwadau drwy fynd i
http://cymdeithas.org/galwadcynllunio

Ymhellach rydym yn galw ar awdurdodau lleol yn mhob rhan o Gymru i gyhoeddi “Cynllun Gweithredu Cymraeg”, neu “Adroddiad Pwnc ar y Gymraeg”. Nid oes angen caniatad Llywodraeth Cymru i wneud hyn – mae gan yr awdurdodau lleol y grym eisoes i gynnal dadansoddiad o sefyllfa’r Gymraeg fel iaith cymunedol ac i argymell camau i ddiogelu ac i ddatblygu’r Gymraeg.

Calonogol iawn yw gweld yr hyn sydd wedi digwydd yn Sir Gâr gyda’r Cyngor yn mabwysiadu argymhellion y gweithgor ar y Gymraeg yn y sir. Dyma enghraifft o awdurdod sydd wedi dangos parodrwydd i gymryd canlyniadau’r cyfrifiad a’u cyfrifoldeb mewn perthynas â’r Gymraeg o ddifri. Ein gwaith nawr fel mudiad yw
sicrhau bod amserlen yn cael ei rhoi yn ei lle er mwyn gweithredu'r argymhellion. Yn anffodus nid yw’r hyn a argymhellir gan Gyngor Sir Gâr ym maes tai a chynllunio am lwyddo oherwydd nad oes grym statudol i’r Gymraeg ym maes cynllunio. Fel y dywedodd Prif Swyddog Cynllunio Cymru, Rosemary Thomas, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ychydig fisoedd yn ôl, nid oes hawl gwrthod datblygiad (neu yn wir caniatáu datblygiad) ar sail effaith ar y Gymraeg o fewn y drefn bresennol. Rhaid i hyn newid os yw’r Gymraeg i barhau fel iaith y gymuned. Rhaid cael Bil Cynllunio sydd yn berthnasol i Gymru ac i’r Gymraeg.Dyma frwydr S4C y byd cynllunio. Ni allwn ganiatau i’r sefyllfa bresennol barhau.

Toni Schiavone yw cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg