Mae 2017 yn flwyddyn fawr i'r cyfryngau Cymraeg a Chymreig. Bydd Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad o S4C a byddwn yn dathlu pen-blwydd Radio Cymru yn 40 mlwydd oed.
Sefydlwyd Radio Cymru yn ystod ymgyrchoedd darlledu'r Gymdeithas – roedd nifer o aelodau wedi ymgyrchu'n ddiflino er mwyn creu, nid yn unig sianel deledu Gymraeg, ond hefyd cyfundrefn darlledu annibynnol i'r wlad.
Llyfryn polisi y Gymdeithas 'Darlledu yng Nghymru' a gyhoeddwyd ym 1970 a alwodd am sefydlu tonfeddi radio Cymraeg a sianel deledu Cymraeg – ac mi gymrodd dros ddegawd i gyflawni'r ddau nod. Mae'n werth nodi y bu sefydlu sianel deledu Cymreig a gorsaf radio Gymreig, cyfrwng Saesneg ymysg rhai o'n galwadau fel mudiad yn ogystal, o’r cychwyn.
Ar ddechrau'r ymgyrch, sefydlu Corfforaeth Darlledu Annibynnol i Gymru oedd y prif bwyslais, ac, ar yr adeg honno, pwyso ar y BBC a'i gyngor yng Nghymru oedd canolbwynt y gwaith ymgyrchu. Yn ddiweddarach, rhoddwyd mwy o bwyslais ar sefydlu sianel deledu Gymraeg, gan fod pedwaredd sianel eisoes ar yr agenda ac felly’r cyfle yno – ymgyrch a arweiniodd at sefydlu S4C. Bu’r Gymdeithas yn galw ar ei haelodau a'i chefnogwyr i beidio â thalu eu trwyddedau teledu a rhoi'r arian i gronfa sefydlu radio annibynnol Gymraeg.
Ond eto, 40 mlynedd yn ddiweddarach, un sianel deledu ac un gorsaf radio yn y Gymraeg yn unig sydd gennym. Mae'n amser felly i ni ofyn pam fod S4C, ynghyd â'r cyfryngau eraill yng Nghymru, gan gynnwys BBC Cymru, wedi methu â datblygu gwasanaethau Cymraeg a Chymreig yn y ffordd y byddai rhywun wedi disgwyl.
Dylsen ni hefyd dalu sylw i sefyllfa argyfyngus bresennol ein cyfryngau. Mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus; mae'r BBC wedi penderfynu dod â'r arbrawf Radio Cymru Mwy i ben; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr, oherwydd fod y darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.
Bydd 'Radio Cymru Mwy' yn dod i ben o fewn ychydig o ddyddiau - efallai bod gwersi ehangach i'w dysgu o brofiad yr orsaf radio dros dro hon. Ymgais oedd yr orsaf hon i ddarparu dewis arall i wrandawyr ar-lein ac ar radio digidol yn Gymraeg rhwng 7 a 12 bob dydd yn ystod yr wythnos. Dechreuodd ym mis Medi eleni a daw yr orsaf i ben ar 3ydd Ionawr. I mi, dyw e ddim yn profi nad oes lle i ail sianel deledu ac ail orsaf radio Gymraeg, ond, yn hytrach, mae'n profi nad yw'r BBC fel sefydliad Prydeinig yn mynd i flaenoriaethu hyrwyddo'r Gymraeg a thaflu calon ac enaid i sicrhau llwyddiant hynny. 'Bwrdd Bradychu Cymru' oedd un o brif sloganau'r Gymdeithas ynglŷn â'r BBC yn y 70au, ac mae mor amlwg ag erioed bod yn rhaid gofyn cwestiynau sylfaenol am y gorfforaeth. Gallem ddweud yn sicr nad trwy gorfforaeth y BBC y mae ehangu ein gwasanaethau yn y Gymraeg.
Ymhellach, parhau mae'r ansicrwydd ynghylch beth fydd cyllideb S4C ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda thrafodaethau'n parhau tri mis yn unig cyn ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. A hynny er gwaethaf ymrwymiad ym maniffesto 2015 y Ceidwadwyr i "ddiogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C". Yn ddiamau, allwn ni ddim parhau â chyfundrefn sy'n golygu trafodaethau blynyddol gan Weinidogion yn Llundain am dynged ein hunig sianel deledu Gymraeg.
A allwn ni wir ddisgwyl tegwch i'r Gymraeg ac i Gymru drwy'r BBC Llundain-ganolog a chyda swyddogion a gwleidyddion o Loegr yn penderfynu ar ein cyfundrefn darlledu?
Yng ngwlad y Basg, mae ganddyn nhw sawl sianel deledu a gorsaf radio yn y Fasgeg, wedi eu darparu gan eu darlledwr cynhenid, EITB. Wrth reswm, mae'r ffaith bod darlledu wedi ei ddatganoli i ranbarth hunanlywodraethol Gwlad y Basg yn ffactor pwysig. A dyna sydd wir ei angen yma yng Nghymru hefyd. Mae'n dod yn gliriach nag erioed felly y bydd yn rhaid ar newidiadau strwythurol, er mwyn sicrhau ein bod yn cael mwy nag un sianel deledu Gymraeg a mwy nag un orsaf radio Gymraeg, a hynny'n barhaol.
Mae hyd yn oed rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol yn derbyn nad oes modd cyfiawnhau sefyllfa lle mae penderfyniadau am ein hunig sianel deledu Gymraeg yn nwylo gweision sifil a gwleidyddion sydd prin wedi clywed am Gymru heb sôn am y Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn cwrdd ag Aelodau Seneddol i drafod S4C, ond bydd mwy gyda ni i ddweud cyn bo hir am ein polisïau darlledu wrth i ni baratoi ar gyfer yr adolygiadau a thrafodaethau pellach i ddod. Mae ein haelodau wedi bod yn gweithio er mwyn paratoi polisïau manwl ac mi fydd y gwaith hwn yn parhau yn y flwyddyn newydd. Yn greiddiol i’r polisïau hyn mae:
Yn gyntaf, bod rhaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd er mwyn creu cyfundrefn sy'n wirioneddol lesol i'r Gymraeg.
Yn ail, bod angen ehangu cylch gwaith a chynyddu cyllideb S4C er mwyn iddo lwyddo a hynny ar ragor o blatfformau.
Yn drydydd, ac yn fwy penodol, mae'n rhaid newid Awdurdod S4C o fod yn gorff un sianel i fod yn 'Gorfforaeth Ddarlledu i Gymru' sydd gyda'r grym i reoleiddio sawl maes, gan gynnwys radio masnachol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru. Byddai hynny'n golygu bod modd gosod cwotâu ar y darparwyr preifat hyn i ddarparu fan leiaf hanner eu hallbwn yn Gymraeg, lle prin iawn yw'r ddarpariaeth ar hyn o bryd. Dylid ystyried a ddylai fod gan S4C yr hawl, y capasiti a'r adnoddau i gynhyrchu'r cynnwys ei hunan i lenwi'r bwlch. Yn sicr, dyma un ffordd o sicrhau mai'r Gymraeg yw'r cyfrwng normal ar ein cyfryngau newidiol.
Wrth reswm, y nod yn y pendraw yw sicrhau mai Cymraeg yw prif iaith y cyfryngau yn eu holl amrywiaeth. Dim ond drwy ddatganoli darlledu ac ail-ystyried cylchoedd gwaith a swyddogaethau ein hasiantaethau presennol y gallwn ni lwyddo. Nid oes angen i mi ail-adrodd y dadleuon eraill am y diffyg democratiaeth dybryd yn ein cyfryngau Cymreig a Chymraeg, mae hynny'n amlwg i ni yn ddyddiol.
Felly, pam ydyn ni'n ceisio datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu nawr? Gwyddwn fod nifer o wleidyddion wedi bod ac yn parhau i wthio am ddatganoli darlledu drwy Fesur Cymru yn San Steffan. Mae’r ddadl dros ddatganoli'r maes yn un gref iawn. Darganfu pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, bod 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Felly, mae'r cyhoedd gyda ni. Er gwaethaf cefnogaeth y cyhoedd, argymhellodd y Comisiwn ddatganoli S4C yn unig i Gymru; roedd nifer o sefydliadau eraill yn gofyn iddynt fynd yn bellach.
Ond dyw'r ddadl ddim drosodd, mewn cyfarfod gyda ni ac yn ei sylwadau cyhoeddus, mae'r Gweinidog Swyddfa Cymru Guto Bebb AS wedi dweud y bydd yr adolygiad o S4C yn trafod datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd. A bydd yr adolygiad yn dechrau'r flwyddyn nesaf.
Felly, mae'r cyfle yma, ond bydd angen dangos i San Steffan ein bod o ddifrif, dyna pam rydym yn gofyn i chi weithredu.
Os ydych chi gyda ni, rydym yn gofyn i chi wneud ymrwymiad cyhoeddus i beidio â thalu eich trwydded deledu os nad yw'r Llywodraeth yn cytuno i ddatganoli darlledu i Gymru fel canlyniad i'r adolygiad flwyddyn nesaf.
Ewch yma i roi gwybod i ni:
Yn ogystal, neu yn hytrach, gallwch chi, mewn 30 eiliad, anfon e-bost at y Llywodraeth a'ch Aelod Seneddol lleol drwy fynd i http://cymdeithas.cymru/s4c
Rydym hefyd yn gofyn i bawb ddod i gyfarfodydd cyhoeddus a gynhelir yn Aberystwyth, Bangor, Caernarfon, Caerdydd a Llundain yn y flwyddyn newydd i leisio barn am ddatganoli darlledu ac adolygiad S4C.
Gyda'ch cefnogaeth gallwn ni lwyddo i ddatganoli penderfyniad dros ddarlledu i Gymru, ac, o ganlyniad, gweddnewid presenoldeb y Gymraeg a Chymru ar draws y cyfryngau.
Blwyddyn Newydd Dda
Heledd Gwyndaf
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Cyfarfodydd Cyhoeddus
ABERYSTWYTH - 2yp, dydd Sadwrn, 7fed Ionawr 2017 - Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH (aelodau'r Gymdeithas yn unig)
BANGOR – 2yp, dydd Sadwrn, 21ain Ionawr 2017 – Pontio, Prifysgol Bangor
Mae croeso i bawb, cofrestrwch yn rhad ac am ddim ar gyfer y digwyddiad Hacio'r Iaith yma: https://tocyn.cymru/cy/event/2d429cdb-8401-4bc5-9c00-ba4b84c8709f
CAERDYDD - 7pm, nos Lun, 30ain Ionawr 2017 - Chapter, Caerdydd (agored i bawb)
CAERNARFON - 7pm, nos Iau, 2il Chwefror 2017 - Y Galeri, Caernarfon (agored i bawb)
LLUNDAIN - 11yb, dydd Mawrth, 7fed Chwefror - Senedd San Steffan, Llundain (aelodau'r Gymdeithas yn unig). Er mwyn cadw lle, e-bostiwch post@cymdeithas.cymru