Deddf Iaith Wannach? Dim Diolch

Mae’n gwbl glir mai gwanhau a lleihau rheoleiddio yw diben Bil y Gymraeg arfaethedig y Llywodraeth, dywedodd y Gweinidog Eluned Morgan ei bod "o’r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffon lle bo hynny'n bosib”. Nid yw Eluned Morgan wedi sylweddoli gwerth rheoleiddio fel arf cryfaf hyrwyddo. Nid yw Eluned Morgan wedi sylweddoli'r gwirionedd fod rhaid, i newid agweddau mae rhaid newid ymddygiad, i newid ymddygiad rhaid deddfu. Ac nid yw Eluned Morgan wedi gallu cydnabod y camau mawr ymlaen sydd wedi bod o ran y defnydd o Gymraeg mewn gweithleoedd mewn amser byr ers dyfodiad y Safonau, ac sydd eisoes yn ymdreiddio o'u herwydd i'r byd addysg, i gymunedau ac i gartrefi pobol Cymru.

Y peth trist ydy bod y tebygrwydd rhwng cynigion Eluned Morgan a hen gyfundrefn Deddf Iaith 1993 yn drawiadol: 

- Dileu Comisiynydd y Gymraeg, ac ail-sefydlu corff tebyg i Fwrdd yr Iaith (a elwir yn Gomisiwn) a fydd yn cyfuno rheoleiddio a hybu o fewn yr un corff;  

- Diddymu hawl yr achwynydd i gwyno’n syth at y Comisiynydd gan ei orfodi i gwyno wrth y corff - yn union yr un system a fodolodd o dan gyfundrefn Deddf I1993;  

- Atal ymchwilio i gwynion a defnyddio pwerau cosbi oni bai ei bod mater yn ‘ddifrifol’ 

- Ychwanegu haen ychwanegol o ddyletswyddau iaith, sef 'dyletswyddau cynllunio ieithyddol', ar ben y Safonau a chynlluniau iaith, heb bwerau gorfodi i sicrhau cydymffurfiaeth â nhw - tebyg i ymrwymiadau diystyr hen gynlluniau iaith; 

- Mabwysiadu polisi sy’n canolbwyntio ar hybu ar draul rheoleiddio  

Ym mis Ionawr eleni, fe heriodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y Gweinidog mewn cyfarfod bod hyn yn gyfystyr â symud y system yn ôl i Ddeddf Iaith 1993. Mynnodd nad oedd hi am droi’r cloc yn ôl, ond cyfaddefodd ar yr un pryd nad oedd hi’n gwybod dim am hanes yr hen gyfundrefn ac ni ddangosodd unrhyw awydd i ddysgu'r wers hanes honno. Am Weinidog sy’n poeni cymaint am ‘gost’ a ‘gwastraff’, mae’n rhyfedd ei bod hi o blaid symud y pwyslais oddi ar y dull mwyaf gost-effeithlon o wella defnydd a statws yr iaith, sef rheoleiddio.  

Mae’n rhaid cofio mai dim ond 2 flynedd sydd ers i’r Comisiynydd ddechrau rheoleiddio'r Safonau, ond eto mae'r Blaid Lafur nawr am ei ddiddymu. Pam fod y Llywodraeth am gadw Comisiynwyr Plant, Pobl Hŷn a Chenedlaethau'r Dyfodol, ond am ddiddymu'r unig eiriolwr uniongyrchol dros y Gymraeg?  

Mae'r cyrff eu hunain sydd yn dod o dan y Safonau yn cyfaddef y byddai diddymu’r Comisiynydd yn peryglu momentwm y blynyddoedd diwethaf. Mae tystiolaeth wrthrychol yn dangos bod 76% o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg cyrff cyhoeddus yn gwella dan y system newydd, a bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer 56% yn fwy o swyddi na'r flwyddyn gyn I'r Comisiynydd ddechrau rheoleiddio'r Safonau. 


Ond, er gwaethaf y gwelliannau hynny, yn lle ymestyn y Safonau a'r gyfundrefn lwyddiannus hon i ragor o sectorau dan reolaeth y Comisiynydd, maen nhw wedi datgan eu bwriad i beidio â gwneud hynny am hyd at deunaw mis oherwydd ei bod am newid y gyfundrefn.  

Byddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar osod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg. 

Fodd bynnag, dydyn nhw ddim eisiau gwrando er gwaethaf y gwrthwynebiad. Dim ond 15% o'r rhai a ymatebodd i'w hymgynghoriad oedd yn cefnogi'r cynnig annoeth yma, ac nid oedd son amdano ym maniffesto'r Blaid Lafur chwaith. Does dim mandad ganddyn nhw i wneud hyn.  

Mae’r Gymdeithas wedi cynnig ffyrdd ymlaen wrth drafod gyda Eluned Morgan a'r Blaid Lafur. Rydyn ni wedi cyflwyno papur i’r Llywodraeth yn amlinellu beth sy’n bosib dan y gyfundrefn bresennol a sut y gellir sefydlu corff ar wahan i hyrwyddo’r Gymraeg heb ddeddfu. Ers dros ddeng mlynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dadlau dros Gomisiynydd y Gymraeg, beth sydd angen nawr yw ei gadw a'i gryfhau fel corff rheoleiddio'n unig, gyda chorff ar wahan i arwain gwaith hyrwyddo.    

Wrth gwrs ein bod eisiau mwy o hyrwyddo, ond nid ar draul rheoleiddio hyderus a hawliau i siaradwyr Cymraeg. Mae'r rheoleiddio sydd eisoes wedi digwydd wedi cynnig cyfleon i bobol ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau, yn y gwaith ac mae tystiolaeth fod hyn eisoes yn ymdreiddio wedyn i weithgaredd cymunedol ac yn y cartref.  

Wrth gwrs, na ellir deddfu am bopeth ac nid ydym am eiliad yn dadlau hynny. Ond ble mae cyrff a busnesau mawr yn y cwestiwn, deddfu yw'r unig ffordd ac mi fyddai effeithiau hynny bellgyrhaeddol yn wir – yn ieithyddol, economaidd, addysgol a diwylliannol 

Ond y gwir plaen amdani yw bod y Llywodraeth yn defnyddio’r esgus bod angen mwy o hyrwyddo er mwyn lleihau rheoleiddio achos dyna sy’n plesio cyrff a busnesau mawrion. Maen nhw wedi gosod y dewis ffug llwyr rhwng 'cydbwysedd' rhwng rheoleiddio ac hyrwyddo. Dylai ddim un fod ar draul y llall. Maen nhw wedi gosod tafol yn rhan o'r ddadl lle na ddylai un fod. Gobeithio nad ydyn nhw'n llwyddo i dwyllo gormod o bobl. 

Heledd Gwyndaf, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith