Gair o'r Gadair - eich cyfle i arwain y Gymdeithas

Hoffech chi gyfrannu at waith Cymdeithas yr Iaith, neu newid y ffordd ry’n ni’n gweithio? Os felly, llenwch y ffurflen hwn - mae manylion yr holl swyddi sydd ar gael ar ein Senedd yno 
hefyd. Chi, aelodau’r Gymdeithas, fydd yn dewis pwy sy’n derbyn y swyddi hyn yn ein cyfarfod cyffredinol ym Mhwllheli ar Hydref 4ydd. Ewch amdani!
 
Diolch yn fawr i bawb a wnaeth ein hymgyrch weithredol yn bosib dros y misoedd diwethaf, wrth weithredu, cefnogi, a braenaru’r tir. Rydym yn galw ar Lywodraeth Carwyn Jones i weithredu 6 pheth ar frys dros y Gymraeg, ac er bod y Prif Weinidog wedi methu hyd yma, mae ambell lygedyn o obaith, ac mae aelodau’r Gymdeithas i’w diolch am hynny.
 
Calonogol oedd clywed Carwyn Jones - mwy neu lai - yn derbyn yr egwyddor y dylid dileu’r cysyniad o “Gymraeg ail iaith” mewn ysgolion, a sefydlu elfen o addysg Gymraeg i bawb. Ond mae bwlch sylweddol rhwng geiriau’r Prif Weinidog a diffyg gweithredu ei Lywodraeth. Does dim bwriad ar hyn o bryd i ddefnyddio cam cyntaf adolygiad cwricwlwm Donaldson - sy’n canolbwyntio ar rifedd a llythrennedd (i bob pwrpas, llythrennedd Saesneg) - i weithredu argymhellion adroddiad Sioned Davies fyddai’n gam tuag at addysg Gymraeg i bawb. Mae angen unioni hynny ar frys.
 
Mae Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn ystyried ffyrdd ymarferol o roi ystyriaeth i’r Gymraeg yn y system gynllunio. Dyna’n union sydd ym Mil Cynllunio amgen y Gymdeithas wrth gwrs - yn wahanol i bolisïau Carwyn Jones, fyddai ein Bil ni yn seilio cynllunio ar anghenion ein cymunedau, ac yn golygu y byddai modd derbyn neu wrthod caniatâd cynllunio ar sail eu heffaith ar y Gymraeg. Rhaid i ni dal ati i bwyso er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cynnwys yr egwyddorion hyn yn y Bil Cynllunio.
 
Ond yn dilyn penderfyniad afresymol ac annheg y Llywodraeth i dorri cyllid Cymraeg i Oedolion ar fyr rybudd, rhaid cwestiynu didwylledd Carwyn Jones. Er gwaetha’r holl sbin, mae’n debyg nad ydy’r Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth i Lywodraeth sy’n gwneud toriadau diangen mewn maes mor bwysig tra bo gwariant ar hyrwyddo’r Gymraeg yn llai na 0.15% o’r gyllideb.
 
Mae’n amlwg na allwn ddibynnu ar Lywodraeth Cymru i ddangos yr arweiniad na’r strategaeth gynhwysfawr sydd eu hangen ar ein hiaith. Yn hytrach nag anobeithio, dylen ni dal i bwyso, nid yn unig ar y Llywodraeth, ond hefyd ar gynghorau sir ymhob rhan o Gymru. Mae llawer mwy gallent wneud er lles y Gymraeg, o fewn y drefn amherffaith sydd ohoni, mewn meysydd allweddol fel addysg, cynllunio a datblygu economaidd. Dwi’n gobeithio y bydd ein “parti” gyda Chyngor Sir Gâr dydd Gwener yn ein sbarduno i gadw llygad barcud ar holl awdurdodau lleol Cymru - gan sicrhau eu bod yn gweithredu er mwyn i ni gael byw yn Gymraeg.
 
I’r Gad!
 
Robin Farrar