Joseff Oscar Gnagbo dw i. Dw i’n dod o Arfordir Ivori yn wreiddiol.Newyddiadurwr yw fy nghefndir. Dw i’n bedwar deg pump oed ac mae dau o blant gyda fi. Des i i'r DU i wneud cais am loches a ches i fy symud o Croydon i Gaerdydd ddiwedd Chwefror y llynedd.
Do'n i ddim yn gwybod llawer am Gymru ar wahân i ei baner hardd ac unigryw. Pan sylweddolais bod gan Gymru iaith ei hun, penderfynais i ddysgu Cymraeg ar unwaith. Achos yn fy marn i, mae hi'n normal pan ‘dych chi'n byw mewn gwlad i siarad iaithy wlad honno.Ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach, es i Oasis i holi am gyfleoedd iddysgu Cymraeg a cwrddais i â Matt Spry, (Dysgwr Y Flwyddyn 2018). Roedd e'n dechrau cwrs blasu ar gyfer yr iaith Gymraeg. Dechreuais i’r cwrs gyda Matt wythnos yn ddiweddarach. Ar wahân i'r dosbarthiadau, ymwelais i â mannau pwysig fel y Senedd, Sain Ffagan a’r castell.
Yn ystod yr un cyfnod, cymerais ran mewn llawer o sesiynau anffurfiol (cyfarfodydd Cymraeg, masau eglwysi Cymreig) a digwyddiadau y nhyrwyddo'r Gymraeg megis Tafwyl a'r Eisteddfod, ble cymerais i ran mewn panel ym mhabell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ers hynny dw i wedi cael cyfle i weithio gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Hefyd, ces i gyfle gwych i fynychu cwrs haf Prifysgol Caerdydd. Astudiais i lefelau mynediad a sylfaen a nawr dwi'n gwneud lefel canolradd un waith yr wythnos. Dw i'n mynd i'r llyfrgell i fenthyg llyfrau i ddarllen ac ymarfer siarad adref.
Dw i'n teimlo'n integredig iawn yng Nghymru yn gyffredinol ac yn y gymuned Gymraeg yn arbennig. Diolch i’r iaith Gymraeg, dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd yn ystod cyfarfodydd, o gyfryngau ac oddi ar ystryd. Mae hyn hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i mi ffeindio swydd. Dw i'n hapus i weithio gyda Chymdeithas yr Iaith weithiau i baratoi gweithgareddau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Dw i'n annog pobl sy'n byw yng Nghymru i ddysgu Cymraeg. Dw i'n siarad ieithoedd eraill sef Ffrangeg (iaith gyntaf), Eidaleg, Almaeneg, Arabeg, Rwsieg, Saesneg, Swahili ac yn gallu dweud nid Cymraeg yw'r iaith anoddaf.
Yn ychwanegol, dw i'n ffeindio bod y gymuned Gymraeg yn rhoi croeso cynnes ac yn gefnogol i ddysgwyr Cymraeg. Mae bron pob un siaradwr Cymraeg dw i wedi cwrdd â nhw yn barod i helpu fi wella fy Nghymraeg trwy siarad â fi a dangos i fi ble dw i'n gallu ffeindio adnodd i ddysgu Cymraeg. Dwi'n gobeithio dod yn berffaith rhugl yn y Gymraeg yn fuan a gwybod mwy am ddiwylliant a hanes Cymru.
Joseff Gnagbo