Wrth i bandemig Covid-19 ledaenu ar draws y wlad, mae’r sector iechyd a gofal dan bwysau anferthol na welwyd eu tebyg erioed o’r blaen. Wrth geisio ymdopi â gofalu am gleifion sy’n ddifrifol wael ac mor ofnus ac unig yn sgil eu hynysu oddi wrth eu hanwyliaid, cawn ein hysbrydoli’n ddyddiol gan hanesion dyngarol unigolion sy’n gweithio’n ddiflino ar y rheng flaen. Ond ar yr un pryd amlygir heriau ieithyddol wrth i siaradwyr Cymraeg sy’n fregus wynebu trafferthion oherwydd diffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.
Byddai rhai yn dadlau nad yw iaith yn flaenoriaeth dan y fath amgylchiadau heriol; ond y gwir amdani yw na fu erioed adeg mor bwysig i siaradwyr Cymraeg gael derbyn gwasanaethau yn eu mamiaith. Mae gafael llaw yn gallu mynegi cyfrolau; ond mae derbyn gair yn eich mamiaith yn ysgogi teimladau cyfarwydd o berthyn sy’n lapio’n dyn amdanoch ac yn eich cynnal ar adegau tywyll. Ac yn fwy na hynny, fel y dengys y dystiolaeth ryngwladol, mae ymateb i anghenion iaith cleifion yn diogelu a chyfoethogi ansawdd y gofal. Felly, er cymaint yr aberth enfawr gan unigolion ar y rheng flaen, mae gwir angen diogelu gwasanaethau Cymraeg yn ystod y pandemig.
Dyma’n sicr sydd wrth wraidd Safonau’r Gymraeg a osodwyd ar y sector iechyd y llynedd. Ond er eu bod yn gwarchod hawliau defnyddwyr i dderbyn gohebiaeth trwy’r Gymraeg a hyd yn oed ambell i alwad ffôn a gwasanaeth derbynfa, mae’r safonau’n methu’n llwyr o ran diogelu’r Gymraeg yn ystod y cyffyrddiad wyneb yn wyneb hwnnw rhwng y claf a’r gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae gwir angen gosod canllawiau penodol er mwyn gwarchod y Gymraeg o fewn y sefyllfaoedd newydd sydd wedi ymddangos yn sgil y pandemig, yn enwedig yng nghyd-destun gofal diwedd oes, gofal dementia a gofal unigolion bregus.
Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod brwydro dros yr iaith yn rhan o frwydr ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol, a dyma sydd wrth wraidd ein hymgyrch i hawlio gwasanaethau Cymraeg yn y sector iechyd a gofal. Ac ystyried yr argyfwng sydd ohoni, ni fu erioed gyfnod mor allweddol ar gyfer tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg ar draws y sector, ac atgoffa darparwyr fod angen gweithredu y tu hwnt i Safonau’r Gymraeg er mwyn cynnal gwasanaethau effeithiol o’r safon uchaf.
Gwerfyl Robetrts
Cadeirydd Is-grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith