Mae ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn wynebu prinder digynsail o dai gwirioneddol fforddiadwy. Mae'r boblogaeth leol yn cael ei hallgau fwyfwy rhag gallu sicrhau cartref addas i'w rentu neu brynu oherwydd anfantais economaidd. Dengys ymchwil diweddar Cyngor Gwynedd fod 65.5% o boblogaeth y sir ar gyfartaledd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r ganran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o ail gartrefi.
Mae’r anghydraddoldeb hwn yn gorfodi llawer o deuluoedd o’u cymunedau, gan effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau hanfodol, dyfodol ysgolion gwledig a’r gweithlu sydd ar gael i fusnesau lleol. Mae’r argyfwng tai gwledig cudd yn achosi difrod gwirioneddol i unigolion, teuluoedd a’r economi leol, ac yn bygwth cynaliadwyedd ein cymunedau Cymraeg.
Rydyn ni wedi hen gydnabod bygythiad athroniaeth neo-ryddfrydol marchnadoedd rhydd a dadreoleiddio i gynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau lleol. Enghraifft amlwg o’r dogma hwn oedd cyflwyno’r Hawl i Brynu ym 1980 a arweiniodd at werthu dros 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent yng Nghymru cyn ei ddiddymu yn 2019. Mae gostyngiad mor aruthrol yn nifer y tai cymdeithasol wedi cyfrannu’n sylweddol at broblemau tai presennol ledled Cymru.
Amlygodd pandemig Covid-19 nodweddion gwaethaf marchnad dai heb ei rheoleiddio – cystadleuaeth ffyrnig am dai wrth i bobl gyfoethog ffoi o’r dinasoedd, tai mewn pentrefi glan môr yn cael eu gwerthu dros nos, galw cynyddol am ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr fel AirBnB; a landlordiaid preifat barus, er enghraifft Stad Bodorgan ar Ynys Môn, yn troi eu tenantiaid allan er mwyn gosod y tai fel llety gwyliau mwy proffidiol.
Mae cymunedau gwledig ac arfordirol ledled y DU wedi bod yn mynnu gweithredu brys:
-
Yng Nghernyw, sefydlwyd grŵp ymgyrchu Homes for Cornwall gan wraig leol sy'n rhedeg gwesty, ar ôl iddi glywed am anawsterau ei staff i sicrhau tŷ fforddiadwy. Mynychodd mwy na 400 o bobl - yn Gynghorwyr, cynllunwyr, arweinwyr busnes a grwpiau cymunedol - ddigwyddiad lansio ym mis Mai y llynedd.
-
Yn Brighton, pleidleisiodd Cyngor y Ddinas llynedd i wahardd adeiladu ail gartrefi a llety gwyliau newydd.
-
Pleidleisiodd 95% o drigolion tref Whitby yn Swydd Efrog mewn refferendwm lleol i atal pobl rhag prynu eiddo newydd fel ail gartrefi.
Ym mis Gorffennaf 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn hir-ddisgwyliedig o fesurau newydd:
-
Pwerau cynllunio i awdurdodau lleol greu dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer ail dai a llety gwyliau, a’u galluogi i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, fyddai’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn angenrheidiol er mwyn symud cartre parhaol i un o’r dosbarthiadau defnydd hynny
-
Cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr
-
Grymoedd i awdurdodau lleol wneud cais am gyfraddau treth trafodiadau tir uwch.
-
Cyhoeddi Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg sy’n cynnig cefnogaeth i gymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â chrynodiad uchel o ail gartrefi, gan adeiladu ar wersi o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor a gyhoeddwyd ddiwedd 2021.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r datblygiadau polisi hyn ac yn annog Awdurdodau Cynllunio Lleol i ddefnyddio’r holl rymoedd yma yn llawn.
Er hynny, dim ond rhan o'r broblem yw ail dai a llety gwyliau, ac mae ymateb y llywodraeth i broblem tai wedi ei gyfyngu i'r symptomau. Mae’r mesurau sydd wedi eu cyflwyno yn ymwneud ag ail dai a llety gwyliau.
Rydyn ni’n galw am gyflwyno Deddf Eiddo flaengar fyddai’n cynnig dull system gyfan o ymdrin â pholisi tai a chynllunio, yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai anghenion tai ddod cyn elw ac y dylid cydnabod cartrefi fel asedau cymunedol hanfodol yn hytrach na chyfleoedd buddsoddi. Byddai’r egwyddor hon yr un mor berthnasol i bob rhan o Gymru p’un ai a ydynt yn gymunedau Cymraeg eu hiaith, Saesneg eu hiaith neu yn amlddiwylliannol.
Mae rhai o’r mesurau mewn cynigion polisi a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith yr hydref diwethaf yn cynnwys:
-
Hawl i Gartre’n Lleol: dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i weithredu ar gais am gymorth i brynu neu rentu tŷ fforddiadwy o fewn pellter ac amser rhesymol;
-
Cynllunio ar gyfer Anghenion Lleol: dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynhyrchu Asesiad Cymunedol ar y cyd â chynghorau cymuned unigol ac adlewyrchu eu canlyniadau yn y Strategaeth Dai Leol a'r Cynllun Datblygu Lleol;
-
Grymuso Cymunedau: cyflwyno ‘Hawl Gymunedol i Brynu’ i alluogi cymunedau i brynu neu brydlesu tir ac eiddo oddi wrth dirfeddianwyr preifat a chyhoeddus at ddibenion cymunedol megis tai a arweinir gan y gymuned;
-
Blaenoriaethu Pobl Leol: dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi moratoriwm ar werthiannau marchnad agored mewn ardaloedd lle mae angen lleol am dai heb ei ddiwallu;
-
Rheoli’r Sector Rhentu: diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi’r hawl i denantiaid landlordiaid preifat dderbyn Contractau Diogel;
-
Cartrefi Cynaliadwy: diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gynnwys dyletswydd ar dirfeddianwyr preifat, datblygwyr tai a darparwyr tai cymunedol i ymgymryd â datblygu cynaliadwy a gweithio tuag at y nodau llesiant;
-
Buddsoddi mewn Cymunedau: dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymunedol i alluogi cymunedau i arfer eu Hawl i Brynu asedau cymunedol allweddol.
Cyhoeddodd y Llywodraeth bapur gwyrdd ar "dai digonol" yn ddiweddar, mae disgwyl i hwn fod yn sail i’r Papur Gwyn ar Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg sydd wedi ei addo yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Does dim sôn yn hwnnw am reoleiddio’r farchnad felly byddwn ni’n pwyso am gynnwys cynigion ar gyfer Deddf Eiddo flaengar yn y Papur Gwyn, ynghyd ag ymrwymiad i ddeddfu yn ystod tymor y Senedd bresennol.
Bu miloedd yn rhan o'r ymgyrch ddiweddar am Ddeddf Eiddo gyflawn trwy ddod i ralïau ac ymateb i ymgynghoriadau, ond mae amser yn brin i ddatrys y broblem - i'n cymunedau ac i'r Llywodraeth. Dwy flynedd sydd ar ôl o gyfnod y Senedd bresennol ac mae proses ddeddfu yn cymryd amser.
Mae'n amlwg bod angen cynyddu'r pwysau felly mae’r Gymdeithas yn galw ar bobl o bob rhan o Gymru i ymuno â chyfnod o weithredu uniongyrchol fydd yn arwain at rali dorfol ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol.