Cadwn ein Hysgolion a'n Cymunedau Cymraeg!

Cadwyn ein Hysgolion a'r Cymunedau Cymraeg!

Mae Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar gynigion i gau pedair ysgol, mae'r pedair ysgol a'u cymuned eisiau cadw'r ysgol.
Gallwn ni eu cefnogi trwy gyflwyno gwrthwynebiad i'r ymgynghoriadau. Mae templed cyffredinol a sylwadau perthnasol i bob ysgol gyda ni isod, ond defnyddiwch eich geiriau eich hun gymaint ag y gallwch chi.

Cyflwynwch eich ymateb i at adolygu.ysgolion@ceredigion.gov.uk. Gallwch chi gwblhau y ffurflen ar ddiwedd pob dogfen ymgynghori (dolenni isod) neu ddanfon eich sylwadau eich hun.

Bydd angen ymateb i bob ymgynghoriad yn unigol.

Pwyntiau cyffredinol ar gyfer pob ymgynghoriad:

  • Mae adran 1.8 Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018), "Rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig" yn glir bod pob opsiwn ymarferol arall wedi’u hystyried yn gydwybodol gan y cynigydd cyn paratoi cynnig oi gau yr ysgol.
  • "Mae’n bwysig sicrhau bod pob opsiwn rhesymol arall a nodwyd yn cael ei ystyried cyn i’r cynigydd benderfynu mynd ati i ymgynghori ar gau’r ysgol."
  • Yn yr achos yma fe wnaeth swyddogion y cyngor siarad â llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol ddwywaith, llunio cynnig i gau yr ysgol a gofyn wedyn i’r gymuned am syniadau eraill.
  • Wrth adolygu sefyllfa ysgolion y sir rhaid i'r cyngor drin yr ysgolion a'u cymunedau â pharch trwy drafod yn agored gyda nhw a'u cynnwys nhw yn y broses adolygu a chynllunio at y dyfodol o’r dechrau.
  • Dydy trosglwyddo disgyblion o un ysgol Gymraeg i un arall ddim yn golygu na fydd effaith ar y Gymraeg. Mae degau o ysgolion wedi eu cau yn ystod y ddwy ddegawd ddiwetha mae angen cynnal asesiad o'r effaith ar y cymunedau hynny.
  • Dydy cynghorau sir ddim yn buddsoddiad llawer i adnoddau mewn cymunedau gwledig gan nad oes cymaint o adnoddau ganddyn. Addysg yw'r prif wariant, os nad yr unig wariant, felly mae ond yn deg bod gwariant ar addysg ac ysgolion gwledig yn uwch.
  • Er y byddai disgyblion yn dal i fod yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol trwy'r ysgol amgen, ni fyddent yn rhan o weithgareddau eu cymuned eu hunain.

Ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad am Ysgol Craig yr Wylfa (Borth)

* Yr ymgynghoriad - https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/cynllunior-ddarpariaeth-addysg/
* Ymateb Cymdeithas yr Iaith - https://docs.google.com/document/d/1_RFDRJnUjBYHI0pa-zOQ77ni7zM35pbIrYdO-UZlQYo/edit?tab=t.0
* Dyddiad cau yr ymgynghoriad  - 03/12/2024

  • Yr ysgol yw canolbwynt y Gymraeg a phrif gyswllt nifer o drigolion y gymuned â’r Gymraeg. Mae digwyddiadau cymunedol yn cael eu trefnu ar y cyd â’r ysgol, heb gyfraniad yr ysgol byddai nifer o ddigwyddiadau yn Saesneg yn unig.
  • Does dim sicrwydd y bydd plant yn parhau mewn addysg Gymraeg os yw Ysgol Craig yr Wylfa yn cau. Byddai’n fwy cyfleus i nifer o rieni fynd â’u plant i ysgol yn Aberystwyth. Does dim sicrwydd y bydd honno’n ysgol Gymraeg.
  • Heb ysgol bydd teuluoedd yn llai tebygol o symud yno. Mae'r Borth ymysg yr ardaloedd â’r nifer uchaf o ail dai a thai gwyliau yng Ngheredigion felly gallai droi yn gymuned i ymddeol iddi neu yn bentref gwyliau, heb weithgareddau Cymraeg byddai llai o ymdeimlad o gymuned, a fyddai'n arwain at ddirywiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
  • Mae Ysgol Craig yr Wylfa mewn "ffederasiwn anffurfiol" gydag Ysgol Tal-y-bont yn barod, ond mae angen tair neu ragor o ysgolion mewn ffederasiwn er mwyn creu arbediad ariannol sylweddol felly mae angen i'r cyngor ystyried ffederasiwn rhwng tair neu ragor o ysgolion y dalgylch a dechrau trafodaethau gydag ysgolion am hynny.

Ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad am Ysgol Llangwyryfon
* Yr ymgynghoriad - https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/cynllunior-ddarpariaeth-addysg/
* Ymateb Cymdeithas yr Iaith - https://docs.google.com/document/d/1IA6qiiryyqQk0euz2HHtCWiRV4UC9Q6Y2Pw6C5QgGwE/edit?tab=t.0
* Dyddiad cau yr ymgynghoriad - 03/12/2024

  • Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021 roedd 45% o boblogaeth Ceredigion gyfan wedi nodi eu bod yn siarad Cymraeg tra bod 52% o boblogaeth ward Llanrhystud yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg. Byddai hyn yn newid os byddai'r ysgol yn cael ei chau.
  • Heb ysgol bydd teuluoedd yn llai tebygol o symud i Langwyryfon a'r cyffiniau, a fyddai yn tanseilio dyfodol y Clwb Ffermwyr Ifanc a grwpiau tebyg, a digwyddiadau a chymdeithasau eraill y gymuned - sydd yn digwydd yn bennaf trwy’r Gymraeg gan na fydd pobl ifanc i'w cynnal yn y dyfodol.
  • Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi bod ffederasiwn rhwng Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Llanilar wedi ei ystyried wrth lunio'r cynnig i gau. Mae'r cyngor yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn ac mae ffederasiwn rhwng yr ysgol honno ac Ysgol Llanilar wedi ei ystyried yn yr ymgynghoriad hynny ond nid yw'r un ymgynghoriad yn trin ffederasiwn rhwng y dair ysgol. Ni ellir ystyried creu dwy ffederasiwn ag un ysgol heb ystyried y cyfan gyda’i gilydd.
  • Gallai plant golli cyfle i fynd i glwb brecwast cyn amser ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol os nad yw rhieni yn gallu trefnu gadael eu plant yn yr ysgol yn gynnar a'u casglu yn hwyr.
  • Byddai plant yn colli cyfleoedd i gymdeithasu, mae hynny'n digwydd yn Gymraeg, sydd yn pwysleisio nad iaith addysg yn unig yw'r Gymraeg - sydd yn arbennig o bwysig.

Mae mwy gan y gymuned, yma: https://llangwyryfon.net/cy/send-a-message/#tab-954

Ar gyfer yr ymgynghoriad ar Ysgol Syr John Rhys
* Yr ymgynghoriad - https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/cynllunior-ddarpariaeth-addysg/
* Ymateb Cymdeithas yr Iaith - https://docs.google.com/document/d/1pMWseDIwFcZbKSQFPK-uEeeq3Z0TmGYWCNuKrwWkniA/edit?tab=t.0
* Dyddiad cau yr ymgynghoriad - 03/12/2024

  • Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021 roedd 45% o boblogaeth Ceredigion gyfan wedi nodi eu bod yn siarad Cymraeg tra bod 49% o boblogaeth ward Melindwr yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg. Mae hynny wedi aros yn gyson dros y deng mlynedd ers y Cyfrifiad blaenorol.
  • Byddai cau yr ysgol yn cael effaith andwyol ar hynny.
  • Yr ysgol yw’r prif leoliad ar gyfer digwyddiadau'r gymuned -  o gyfarfodydd i ymarferion côr wythnosol a digwyddiadau cymunedol fel ffeiriau haf a Nadolig.
  • Byddai colli'r ysgol yn golygu nad oes lleoliad gan nifer o grwpiau a digwyddiadau felly byddai'r gymuned yn dirywio
  • Mae'r ymgynghoriad yn dweud sawl gwaith bod posibilrwydd o greu Hwb Cymunedol ar safle’r ysgol gyfredol, mae gan Ponterwyd hwb cymunedol eisoes, yr ysgol yw hi. Mae'r cyngor yn cynnig tynnu'r hwb hynny fel ag y mae o'r gymuned, ac yn disgwyl i'r gymuned ail-sefydlu un arall ar yr union leoliad heb gefnogaeth.

Ar gyfer ymgynhgoriad Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn
* Yr ymgynghoriad - https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/cynllunior-ddarpariaeth-addysg/
* Ymateb Cymdeithas yr Iaith - i ddilyn
* Dyddiad cau yr ymgynghoriad - 16/12/2024

  • Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi bod ffederasiwn rhwng Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn ac Ysgol Llanilar wedi ei ystyried wrth lunio'r cynnig i gau. Mae'r cyngor yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Llangwyryfon hefyd, ac mae ffederasiwn rhwng yr ysgol honno ac Ysgol Llanilar wedi ei ystyried yn yr ymgynghoriad hynny ond nid yw'r un ymgynghoriad yn trin ffederasiwn rhwng y dair ysgol. Ni ellir ystyried creu dwy ffederasiwn ag un ysgol heb ystyried y cyfan gyda’i gilydd.
  • Does dim disgybl yn teithio mwy na phedair milltir i ddod i'r ysgol, a dros hanner y plant yn teithio llai na milltir i'r ysgol. Mae'n amlwg bod yr ysgol yn un wirioneddol gymunedol.
  • Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021 roedd 57% o boblogaeth ward Ystwyth yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg. Mae hynny wedi aros yn gyson dros y deng mlynedd ers y Cyfrifiad blaenorol pan wnaeth 58% o'r boblogaeth nodi eu bod yn siarad Cymraeg.
  • Mae'r ysgol yn rhan bwysig o gynnal y ganran hynny.
  • Mae Cymdeithas Llanfihangel y Creuddyn a'r gymuned yn defnyddio'r ysgol ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol. Does dim neuadd nac adnodd arall yn y pentref heblaw tafarn y Farmers, felly yr ysgol yw canolbwynt digwyddiadau cymunedol, sy'n digwydd trwy'r Gymraeg ac sy'n allweddol i gymhathu pobl sy'n symud i'r ardal.
  • Gan mai'r Eglwys sydd biau'r adeilad does dim sicrwydd y bydd ar gael i'r gymuned, fyddai'n golygu y gallai'r gweithgarwch yma gael ei golli.
  • Gallai plant golli cyfle i fynd i glwb brecwast cyn amser ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol os nad yw rhieni yn gallu trefnu gadael eu plant yn yr ysgol yn gynnar a'u casglu yn hwyr.
  • Byddai plant yn colli cyfleoedd i gymdeithasu, mae hynny'n digwydd yn Gymraeg, sydd yn allweddol wrth bwysleisio nad iaith addysg yn unig yw'r Gymraeg.