CATEGORIAU IAITH NEWYDD I YSGOLION

CATEGORIAU IAITH NEWYDD I YSGOLION – Rhaid ymateb cyn 26.3.21

Mae Llywodraeth yn ymgynghori ar gategoriau ysgolion. Mae'r ymgynghoriad i'w weld yma: https://llyw.cymru/categoreiddio-ysgolion-yn-ol-y-ddarpariaeth-cyfrwng-cymraeg

Mae ymateb rhanbarth Caerfyrddin-Penfro y Gymdeithas i'w weld isod, gallwch chi ei ddefnyhddio fel templad i ymateb. Anfonwch eich ymateb at UnedIaithGymraegWelshLanguageUnit@llyw.cymru

Gofynnwn i chwi ystyried ymateb ar frys i’r argymhellion hyn i newid categoriau iaith ysgolion. Mewn ymgais i resymoli, yr argymhelliad yw creu 3 chategori yn unig yr un ar gyfer sectorau cynradd ac uwchradd. Mae’r categoriau mor eang fel bod troi'r cloc yn ôl genhedlaeth a phopeth yn dibynnu ar fympwy  a pherygl esgusodion am "cant get the staff" etc  Golygir rhoi terfyn ar ysgolion Cymraeg swyddogol fel yr ydym yn eu nabod nhw. Gall Ysgol Uwchradd sydd ar hyn o bryd yn Gategori 1 neu 2a (sy'n golygu fod POB disgybl yn derbyn 80%-90% o'r cwricwlwm yn Gymraeg) gael ei  raddol newid i addysgu ond rhyw hanner y cwricwlwm yn Gymraeg heb unrhyw benderfyniad ymwybodol  o ran categori gan fod categori "Ysgol Gymraeg" mor  eang. A gall rhai disgyblion fynd trwy ysgol yr ail gategori "Cymraeg/Saesneg" fwy neu lai yn dewis Saesneg yn unig. Byddai hyn yn gwneud strategaeth sirol o symud ysgolion ar hyd continwwm tuag at addysg Gymraeg yn eitha diystyr. O ran "Canlyniadau", y disgwyliad felly yw y bydd ysgolion Categori 2 & 3 (mwyafrif mawr) yn fethiant llwyr o ran arfogi disgyblion gyda'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg - dim ond mewn rhai "cyd-destunau".

DOGFEN YMGYNGHOROL

* Adran 1 -"CYD-DESTUN" - Dywedir mai’r  nod yw "galluogi rhieni neu ofalwyr  i allu gwneud penderfyniadau mwy hyderus a gwybodus wrth ddewis llwybr addysg i'w plant". Os dyna'r nod, dylid dweud yn onest wrth rieni mai dim ond trwy ddilyn rhan sylweddol o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg y daw disgyblion i allu cyfathrebu a gweithio yn y ddwy iaith ac y bydd pob cyd-destun arall yn eu methu yn hyn o beth.

* Adran 3 - AMCANION - Cymeradwyo amcan o "hwyluso cynnydd ysgolion ar hyd eu taith ieithyddol" a "hwyluso'r broses o symud ysgol o un categori i'r llall", ond mae'r categoriau mor eang fel na bydd fawr dim ystyr i "gynnydd" o'r fath
* 3.1 - Trefnu ysgolion yn ôl "eu huchelgais o ran medrau dwyieithog eu dysgwyr". Nod rhyfedd iawn yw cydnabyddiaeth ymhlyg na bydd uchelgais gan lawer o ysgolion.
* 3.3 - Bydd cael mwy nag un categori tu fewn i'r un ysgol  yn drysu rhieni o ran yr ysgol ac yn effeithio ar ei holl naws a chyfathrach cymdeithasol.
* 3.7 - Cymeradwywn y nod na bydd unrhyw newid yn golygu "llai o ddarpariaeth Gymraeg" ond gan fod ystod mor eang tu fewn i gategori, gall fod syrthio nôl yn y dyfodol.

CANLLAWIAU DRAFFT
Dylid rhifo categoriau'n codi i Rhif 1 o ran eu defnydd o'r Gymraeg, nid mewn trefn disgyn, er mwyn pwysleisio cynnydd. Mae'r categoriau mor llydan fel nad oes unrhyw sicrwydd o gynnydd, a bydd hyn yn dinistrio strategaethau sirol o ran symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith. Os oes rhaid cael 3 chategori'n unig, dylent (a) gyfeirio at ysgolion cyfan, nid at ffrydiau tu fewn i ysgolion (b) dylai fod isgategoriau cydnabyddiedig gyda meini prawf tu fewn i'r categoriau (c) dylai fod ymgynghoriad cyhoeddus wrth symud category,  ond symud i fyny is-gategori trwy benderfyniad Awdurdod Addysg a Llywodraethwyr

SECTOR CYNRADD
* Categori 1 drafft (yr hyn ddylai fod yn Gategori 3) - Dywedir mai'r canlyniad fydd "peth ddealltwriaeth o'r Gymraeg ganddynt". Mewn geiriau eraill, ysgolion sy'n methu (o safbwynt sgiliau Cymraeg) yw'r holl nod ! Dylid symud ar frys i symud pob ysgol gynradd at Gategori 2

* Categori 2 drafft - Camarwain rhieni fydd awgrymu fod y disgrifiad hwn o ysgol yn golygu dwyieithrwydd. Categori 2 ddylai fod ysgol gynradd lle bo'r Cyfnod Sylfaen oll trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod defnydd o'r ddwy iaith yn gyfrwng addysgu o 8 oed i fyny, naill ai ym mhob dosbarth neu mewn dwy ffrwd.

* Categori 3 drafft (yr hyn ddylai fod yn Gategori 1) - Dylai hyn gyfeirio at ysgol gyfan, nid at ffrwd lle bo o leiaf 80% o'r addysg i'r holl ddisgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg.

SECTOR UWCHRADD
Mae defnydd is-gategoriau'n bwysicach yn y sector uwchradd er mwyn sicrhau cynnydd. Cefnogwn gysyniad "pontio" ar gyfer y sector uwchradd fel bod modd i ddisgyblion dderbyn sylfaen yn y sector cynradd. Byddai strategaethau sirol a thargedau hyd ddiwedd y ddegawd yn ddefnyddiol. Dylai fod 3 is-gategori  - gyda meini prawf pendant - ym mhob categori i hwyluso cynnydd.  Byddai ymgynghoriad cyhoeddus o ran symud categori cyfan, ond penderfyniad Llywodraethwyr ac Adurdod Lleol fyddai symud i fyny is-gategori.

* Categori 1 drafft Uwchradd(yr hyn a ddylai fod yn gategori 3) - Yn ôl y "Canlyniadau", ysgolion sy'n methu (o safbwynt sgiliau Cymraeg) yw'r holl nod ! Gallai hwn yn hytrach fod yn gategori 3c (o'r gwaelodlin presennol) a dau isgategori arall 3b a 3a hyd at 30% o'r cwricwlwm yn Gymraeg.

* Categori 2 drafft - Cwbl gamarweiniol fydd galw'r ysgolion hyn yn rhai "Cymraeg-Saesneg". Yn ol y canllawiau hyn, rhaid i o leiaf 40% o ddisgyblion gymryd o leiaf rhyw 40% o'u pynciau'n Gymraeg. Ar ei lleiaf felly, galli ond 16% o addysg yr ysgol fod yn Gymraeg, ac 84% yn Saesneg, a gall mwyafrif y disgyblion ddilyn dim pynciau o gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna gamarwain rhieni o ran dwyieithrwydd. Yn hytrach, mae angen sicrhau eto gynnydd trwy isgategoriau. Byddai (2C) yn gynnydd ar y categori is, a (2A) yn sicrhau fod POB disgybl yn derbyn o leiaf hanner eu haddysg yn Gymraeg. Yng nghategori 2 hefyd y byddid yn gosod unrhyw ysgol dwy ffrwd.

* Categori 3 drafft (yr hyn ddylai fod yn Gategori 1) - Mae'r canllawiau hyn yn gwbl annerbyniol ar lawer cyfri. Yn gyntaf, ni ddylid defnyddio categori  ieithyddol  uchaf i gyfeirio at ffrwd Gymraeg yn unig mewn ysgol. O wneud hynny, gall fod llawer llai o addysg Gymraeg mewn ysgol categori uchaf nag mewn ambell ysgol ail gategori. Mae'r categori "uchaf" hwn hefyd yn ddirywiad ar gategoriau presennol (1) a (2a) lle mae 80%-90% o'r HOLL gwricwlwm i'r HOLL ddisgyblion yn Gymraeg. Yn ôl y canllawiau hyn, dim ond 70% o ddisgyblion fyddent yn gorfod cymryd o leiaf 5 pwnc (efallai 60% o'r cwricwlwm) yn Gymraeg. Felly gellid cael, yn ol mympwy prifathro neu lywodraethwyr neu benodiadau yn y dyfodol, dirywiad o 90% o'r addysg yn Gymraeg i lai na hanner yr addysg yn Gymraeg trwy'r ysgol. Mae hyn yn torri'r cymal 3.7 yn y ddogfen ymgynghorol  na  ddylai fod llai o ddarpariaeth Gymraeg o ganlyniad i'r newidiadau. Yn y categori uchaf hwn, byddai 60% o’r holl addysg i BOB disgybl trwy gyfrwng y Gymraeg fel sail i 1c, byddai 1b yn cyfateb i drefn bresennol o (2a) ac 1a yn cyfateb i gategori 1 presennol.

Dylai’r strategaeth a Chynlluniau Strategol sirol y Gymraeg mewn addysg egluro sut y byddid yn darparu adnoddau materol a dynol i symud ysgolion ar hyd y llwybr tuag at sicrhau – dros gyfnod rhesymol – yn meithrin ym mhob disgybl y sgil addysgol hanfodol o allu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg a Saesneg.

Ar ran Cymdeithas yr Iaith – Sir Gâr, Sir Benfro, Dyffryn Teifi