Peidiwch â chefnu ar Gymuned Abersoch

AT AELODAU CABINET CYNGOR GWYNEDD

Annwyl Gyfeillion

Ysgrifennaf atoch ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith i ofyn i chwi wrthod, yn eich cyfarfod yr wythnos nesaf (Medi 28), yr argymhelliad i weithredu'r Rhybudd Statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31.12.21, ac yn hytrach i ohirio'r penderfyniad tan Pasg 2022 er mwyn galluogi trafodaethau brys ac ystyrlon o nifer o'r opsiynau amgen a godwyd. Rhaid i mi dynnu eich sylw yn ffurfiol at y ffaith fod rhannau o'r adroddiadau swyddogol a fyddant yn sail i'ch trafodaeth a'ch penderfyniad yn cynnwys gwybopdaeth gamarweiniol. Cyfeiriaf at Adran 6.13 o'ch adroddiad ar ystyriaeth o Opsiynau Amgen.

Gwerthfawrogwn i chwi gynnal cyfarfod, er anffurfiol ei natur, gyda chynrychiolwyr o Ysgolion Llanbedrog a Sarn Bach fis Rhagfyr diwethaf i drafod modelau poetnsial ar ffederasiynau neu ysgol aml-safle. Ond anghywir yw awgrymu fod angen cytundeb neu awydd gan bob ysgol cyn y gellir symud ymlaen tuag at ffederasiwn. Tuedd dealladwy mwyafrif ysgolion yw ffafrio statws quo (o ran trefniadaeth ysgolion) hyd nes y daw yn anghynaliadwy. Er mwyn sefyllfa fel hyn y diwygiwyd y Rheoliadau ar Ffedereiddio yn 2014 i roi swyddogaeth arweiniol i Awdurdod Lleol wrth hyrwyddo sefydlu ffederasiwn. Nid yw hyn yn golygu y dylid bob amser sefydlu ffederasiwn, ond camarweiniol iawn fu awgrymu nad oedd modd trafod y mater ymhellach gan nad oedd ysgolion eraill wedi mynegi diddordeb.

Camarweiniol hefyd yw datgan fel ffaith mai'r ffurf gorau ar ffederasiwn yw cael un pennaeth dros yr ysgolion, ac y byddai hyn yn golygu diswyddiadau. Mae'r Rheoliadau ar Ffedereiddio yn gosod "un pennaeth" neu "arweinyddiaeth ar y cyd" rhwng penaethiaid fel dewisiadau cyfartal yn ôl yr amgylchiadau. Crybwyllir hefyd y posibiliad o gychwyn gydag arweinyddiaeth ar y cyd a symud tuag at un pennaeth, os addas, wrth fod penaethiaid yn symud ymlaen.

Dywedir hefyd yn yr adroddiad fod "Ffederasiwn Enlli" (sef ffederasiwn uchelgeisiol rhwng yr Ysgol Uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo) wedi cael ei hystyred. Mae wedi cael ei enwi fel opsiwn amgen a godwyd, ond ni bu unrhyw werthusiad o'r model hwn sy'n codi ystyriaethau cwbl wahanol i ffederasiwn rhwng 2 neu 3 ysgol gymharol fach. Mae'n groes i ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion i beidio â rhoi ystyriaeth i opsiynau amgen a godir yn ystod y broses ymgynghorol. Efallai fod swyddogion yn gweld yr ymarferiad yn fater o geisio cael gwared ag un ysgol broblematig ond os codir opsiwn uchelgeisiol i greu uned addysgol gref trwy'r ardal, dylid ei ystyried.

Camarweiniol hefyd yw gwrthod ysgol aml-safle (model hollol wahanol i ffederasiwn) oherwydd "nad oes tystiolaeth amlwg y byddai'n arwain at gynnydd mewn niferoedd". Ond nid dyna nod model ysgol aml-safle yn y cyd-destun hwn. Yn hytrach, o weld ysgolion cyfagos gydag un dros ei chapasiti a'r llall o dan ei chapasiti, mae achos prima facie hunan-amlwg dros chwilio'n fanwl posibiliad o resymoli'r defnydd o'r adnoddau ar draws y 2 safle presennol cyn bod gwariant sylweddol ar adnoddau ychwanegol ar un safle. Nid yw'n ddigonol i ddatgan mai materion ar whân yw'r rhain, gan mai'r Awdurdod wedyn fyddai'n dewis eu trin ar wahân.

Camarweiniol hefyd yw gwrthod model "Ysgol Traeth" neu "Ysgol Adnabod Bro" i Ysgol Abersoch "gan na byddai hyn yn gwrthbwyso heriau allweddol" o niferoedd isel etc. Nid yn y cyd-destun hwnnw y cynigwyd y modelau hyn, ond yn hytrach yng nghyd-destun ffederasiwn neu ysgol aml-safle. Mewn cyd-destunau felly, bydd ai ysgol neu safle Abersoch o werth addysgol mawr i'r ffederasiwn neu ysgol gyfan o ran ychwanegu at safln a lled y profiad addysgol.

Petai'r Awdurdod yn ymfodloni ar ailadrodd bron air am air ei union safbwynt eto, heb fod unrhyw ymgynghoriad na gwrthwynebiad yn gwneud unrhyw wahaniaeth yn y byd, ni ellid llai na chasglu na roddwyd dyledus sylw i'r opsiynau amgen. Gofynnwn eto felly i chwi ohirio penderfyniad tan y Pasg er mwyn chwilio'r opsiynau amgen hyn yn drwyadl.

Gorffennaf trwy eich annog hefyd yn ehangach i beidio â chefnu ar gymuned Abersoch fel rhan werthfawr o Gymru, a gadael y gymuned gyfan ar drugaredd y farchnad agored. Yr ysgol yw ei gobaith at y dyfodol fel sefydliad cwbl Gymraeg ac yn seiliedig ar blant, ac yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir. Cydnabuwyd fod eich Asesiadau'n casglu y caiff cau'r ysgol effaith negyddol ar y Gymraeg a'r gymuned. Anghymwynas mawr ag ymgyrchwyr dewr y pentre yw cyfeirio niwlog at liniaru hyn trwy fod rhyw fath o ystyriaeth o gymuned Abersoch hefyd gan yr ysgol amgen. Mae hefyd un frawddeg ddychrynllyd yn yr adroddiad. Wrth esbonio sut y cyfrifwyd yr arbedion ariannol o gau'r ysgol, dywedir "Nid yw’r ffigyrau yn cymryd unrhyw gostau cynnal a chadw ar safle Ysgol Abersoch nac Ysgol Sarn Bach i ystyriaeth. Pe byddwn wedi ystyried y costau hyn mi fyddai’n golygu mwy o arbedion gan na fyddai unrhyw gostau cynnal a chadw i Ysgol Abersoch i’r dyfodol."

Ni allai hyn fod yn wir heblaw am fod bwriad i werthu adeilad yr ysgol, sy'n golygu na allai Cylch Meithrin na Cylch Ti a Fi barhau yno chwaith ac yn debyg o gael eu symud allan o'r pentre hefyd. Gofynnwn yn daer i chwi beidio â chymryd penderfyniad mor ddifrifol â hyn o ran colli cymuned gyfan, ac i roi cyfle i o leiaf drafod o ddifri'r opsiynau amgen.

Yn gywir

Ffred Ffransis, ar ran Grwp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith