Mabwysiadwyd 2006 (diweddarwyd 2011, 2012, 2013, 2016, 2019, 2020)
(nodir: gellir lawrlwytho dogfen PDF ar waelod y dudalen hon)
1. Enw:
Enw’r Gymdeithas fydd “Cymdeithas yr Iaith” (weithiau “Cymdeithas yr Iaith Gymraeg”, neu “y Gymdeithas” yn fyr).
2. Amcanion neu Nod:
Nod Cymdeithas yr Iaith yw:
a. sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i holl bobl Cymru a bod ganddynt yr hawl i fyw eu bywydau yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg; mae hyn yn cynnwys:
1. yr hawl i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
2. yr hawl i ddysgu Cymraeg
3. yr hawl i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob sector
4. yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
5. yr hawl i ofal drwy gyfrwng y Gymraeg
b. gwarchod a hybu cymunedau Cymraeg a chymunedau Cymru drwy sicrhau bod modd i bobl leol fyw a gweithio yn eu cymunedau a sicrhau dyfodol hyfyw i’r cymunedau hyn
c. sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chydnabod fel priod iaith Cymru a'i bod yn dod yn brif gyfrwng i bobl fyw eu bywydau.
3. Dulliau
a. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrraedd at yr amcanion hyn trwy weithgareddau di-drais, wrth i aelodau'r Gymdeithas gyfarfod yn ddemocrataidd.
b. Gall y gweithgareddau yma gynnwys cydweithio gyda sefydliadau a mudiadau di-drais eraill sy'n gweithio dros heddwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol lle bynnag y bônt.
c. Ni fydd Cymdeithas yr Iaith yn gwahaniaethu ar sail hil, cenedligrwydd, oedran, anabledd, crefydd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd na chyfeiriadedd rhywiol.
4. Aelodaeth
Gall unrhyw un fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith sydd:
a. wedi llenwi ffurflen ymaelodi a drwy hynny datgan ei fwriad i ymuno â’r Gymdeithas
b. wedi talu'r tâl aelodaeth, fel y'i pennir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith
c. yn fodlon hyrwyddo amcanion Cymdeithas yr Iaith
ch. yn cytuno i ufuddhau i gyfansoddiad Cymdeithas yr Iaith.
5. Disgyblaeth
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod y bydd safbwyntiau ei haelodau'n amrywio'n fawr a bod angen parchu a gwrando ar farn aelodau eraill, ond mae’r Gymdeithas yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw aelod nad yw'n cyflawni'r amodau aelodaeth. Bydd penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud gan y Senedd. Mae hawl gan y Senedd i ddirprwyo'r broses ymchwilio a llunio argymhellion i swyddog neu grŵp o swyddogion eraill.
Mewn sefyllfa eithriadol er mwyn diogelu iechyd neu les aelodau’r Gymdeithas, rhwng cyfarfodydd Senedd, mae hawl, drwy gytundeb unfrydol y Cadeirydd, y Swyddog Aelodaeth a’r Is-gadeirydd Gweinyddol atal aelodaeth rhywun am gyfnod dros dro hyd at gyfarfod nesaf y Senedd. Nid oes hawl gan yr aelodau hyn ail-ddefnyddio’r pŵer eithriadol hwn mwy nag unwaith o fewn cyfnod o 6 mis, ond mae modd i’r Senedd benodi tri swyddog arall i fedru arddel y pŵer yn eu lle.
Bydd y rhesymau dros weithredu trefniadau disgyblu fel a ganlyn:
a. gweithredoedd neu ddatganiadau sy'n groes i amcanion y Gymdeithas
b. aelodaeth o fudiad sy'n mynd yn groes i amcanion y Gymdeithas
c. ymddygiad yng nghyfarfodydd neu ddigwyddiadau’r Gymdeithas sy'n fygythiol neu sy'n aflonyddu ar eraill
ch. bod gan aelodau’r Senedd reswm neu dystiolaeth eithriadol o gryf sy’n peri iddynt gredu bod risg wirioneddol bod aelod yn debygol, mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau’r Gymdeithas, o ymddwyn yn fygythiol, aflonyddu ar eraill, neu beryglu diogelwch aelodau eraill.
Bydd y cosbau isod ar gael i'r Senedd yn unol â thelerau'r Rheolau hyn:
i. ceryddu
ii. gwahardd o ddigwyddiadau a/neu gyfarfodydd y mudiad
iii atal aelodaeth am gyfnod
iv. diarddel o'r mudiad.
Bydd gan unigolyn a waharddwyd rhag bod yn aelod o'r Gymdeithas o ganlyniad i bennu cosb ddisgyblaethol yn unol â'r rheolau hyn hawl i wneud cais i ymaelodi â'r Gymdeithas o'r newydd ddim cynt na dwy flynedd ar ôl pennu'r gosb.
Er mwyn sicrhau diogelwch pob aelod o'r Gymdeithas, mae hawl gan gadeiryddion rhanbarthau, celloedd a grwpiau ymgyrchu'r mudiad gymryd penderfyniadau gweinyddol mewn ymateb i ymddygiad aelodau sy’n peri pryder iddynt, gan gynnwys peidio â'u gwahodd i gyfarfodydd. Fodd bynnag, nid oes hawl ganddynt newid statws aelodaeth unigolyn. Dylai unrhyw gamau felly gael eu cymryd wedi i'r cadeirydd rhanbarth, cell neu grŵp gyfathrebu ac ymgynghori gyda swyddogion perthnasol y Senedd.
Bydd gan y Senedd Bolisi Urddas a Pharch i roi arweiniad i bob rhan o'r Gymdeithas o ran ymddygiad aelodau, cefnogwyr a mynychwyr digwyddiadau’r Gymdeithas ynghyd â phrosesau disgyblu yn unol â’r cyfansoddiad hwn. Bydd y polisi yn cynnwys manylion unrhyw brosesau apelio.
6. Y Senedd
a. Senedd Cymdeithas yr Iaith fydd yn rheoli'r Gymdeithas rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol o'i haelodau oddi fewn i ganllawiau polisi a osodir gan Gyfarfodydd Cyffredinol.
b. Bydd y Senedd yn cwrdd ddeg gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys yr aelodau a nodir yn is-adran (e). Dim ond yr aelodau hyn fydd â hawl i bleidleisio, er bod hawl gan unrhyw aelod i fynd i gyfarfod o'r Senedd.
c. Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith.
ch. Aelodau’r Gymdeithas fydd yn gyfrifol am ethol aelodau i wasanaethu ar y Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae gan bob aelod o’r Gymdeithas hawl i enwebu unrhyw aelod arall ar gyfer unrhyw swydd drwy lenwi’r ffurflen enwebiadau a fydd yn cael ei hanfon at sylw’r holl aelodau yn y cyfnod yn arwain at y Cyfarfod Cyffredinol.
d. Mae gan bob aelod o’r Gymdeithas hawl i bleidleisio dros unrhyw aelod arall sydd wedi derbyn enwebiad ar gyfer unrhyw swydd, trwy bleidlais gudd yn y Cyfarfod Cyffredinol, gyda phleidleisiau o bell ar gael ar gais i aelodau na allant fod yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol.
dd. Bydd y swyddogion etholedig yn cael eu henwi yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol. Gall unrhyw swyddi gwag gael eu llenwi trwy bleidlais yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol.
e. Gan y Cyfarfod Cyffredinol y mae'r hawl i ychwanegu, dileu neu newid natur unrhyw swydd ar y Senedd. Os oes sefyllfa yn codi lle mae’n rhaid creu swydd newydd ar y Senedd rhwng dau Gyfarfod Cyffredinol, mae hawl gan Senedd y Gymdeithas i wneud hynny, ond rhaid cadarnhau unrhyw benderfyniad o’r fath yn y Cyfarfod Cyffredinol dilynol. Caniateir i'r Senedd gyfethol hyd at dri aelod heb bortffolio bob blwyddyn.
f. Os bydd un o’r swyddi a etholwyd gan y Cyfarfod Cyffredinol yn dod yn wag yn ystod y flwyddyn, mae gan y Senedd hawl i ethol unrhyw aelod o’r Gymdeithas i wasanaethu hyd y Cyfarfod Cyffredinol nesaf. Mae deiliaid y swyddi canlynol fel y’u hetholwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn aelodau llawn o’r Senedd:
-
-
Cadeirydd Cenedlaethol, a fydd yn gyfrifol am reoli'r Gymdeithas wedyn rhwng cyfarfodydd y Senedd
-
Is-gadeirydd Ymgyrchoedd, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Grwpiau Ymgyrchu'n weithredol
-
Is-gadeirydd Cyfathrebu, a fydd yn gyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas
-
Is-gadeirydd Gweinyddol, a fydd yn gyfrifol am ein gweinyddiaeth
-
Swyddog Aelodaeth, a fydd yn gyfrifol am ein hymgyrchoedd aelodaeth a’n system aelodaeth
-
Swyddog y We, a fydd yn gyfrifol am ein presenoldeb ar-lein
-
Swyddog Adloniant, a fydd yn gyfrifol am gydlynu gwaith pwyllgorau adloniant yn genedlaethol
-
Swyddog Dysgwyr, a fydd yn gyfrifol am drefnu darpariaeth i bobl ddysgu’r iaith
-
Trysorydd, a fydd yn gyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas
-
Swyddog Codi Arian
-
Swyddog Mentrau Masnachol
-
Golygydd y Tafod
-
Swyddog Dylunio
-
Swyddog Rhyngwladol
-
Cadeirydd y Grŵp Hawl i’r Gymraeg
-
Is-gadeirydd y Grŵp Hawl i’r Gymraeg
-
Cadeirydd yr Is-grŵp Iechyd, sy’n is-grŵp o’r Grŵp Hawl
-
Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy
-
Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy
-
Cadeirydd y Grŵp Addysg
-
Is-gadeirydd y Grŵp Addysg
-
Cadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol
-
Is-gadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol.
-
ff. Os na all Cadeirydd neu Is-gadeirydd unrhyw grŵp ymgyrchu fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Senedd, dylai’r grŵp ddewis cynrychiolydd arall i’w gynrychioli ac i bleidleisio ar ei ran.
g. Bydd Cadeirydd pob rhanbarth, wedi’u hethol gan eu rhanbarthau, hefyd yn aelodau llawn o’r Senedd gyda’r un hawl i bleidleisio. Os na all Cadeirydd y rhanbarth fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Senedd, dylai’r rhanbarth ddewis cynrychiolydd arall i’w gynrychioli ac i bleidleisio ar ei ran.
ng. Bydd holl swyddogion cyflogedig y Gymdeithas yn aelodau llawn o’r Senedd yn ddiofyn. Y Senedd fydd yn penodi Swyddogion Cyflogedig.
7. Rhanbarthau
a. O safbwynt y Gymdeithas, mae Cymru wedi ei rannu yn chwe rhanbarth sef Gwynedd-Môn, Clwyd, Ceredigion, Caerfyrddin-Penfro, Powys a Morgannwg-Gwent.
b. Gall celloedd neu unigolion sefydlu 'Cyfarfod Rhanbarth' gyda chydsyniad y Senedd. Un pwyllgor swyddogol fydd yng ngofal unrhyw ranbarth. Gwaith y rhanbarth yw cydlynu gwaith y celloedd o fewn y rhanbarth a bod yn ddolen gyswllt rhwng y Senedd a'r celloedd. Yn ddelfrydol dylai fod Swyddog Maes cyflogedig yn gwasanaethu'r rhanbarth (neu grŵp o ranbarthau) ar ran y Gymdeithas. Bydd Cadeirydd y rhanbarth, a etholir yn ystod cyfarfod cyffredinol y rhanbarth, neu ei gynrychiolydd yn aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith. Neilltuir tair Senedd bob blwyddyn i drafod materion rhanbarthol
c. Y Senedd hefyd fydd yn rheoleiddio ffiniau a chyfansoddiad rhanbarthau.
8. Celloedd (Ysgol/Coleg/ardal)
a. Gwasanaethir Cymdeithas yr Iaith ar lefel leol/gymunedol gan gelloedd. Mae gan y gell hawl i ethol ei swyddogion ei hun a hawl i weithredu yn unol ag egwyddorion a pholisïau Cymdeithas yr Iaith.
b. Mae gan Senedd Cymdeithas yr Iaith hawl i ddiarddel unrhyw gell o'r mudiad (ac wedi ymgynghoriad â'r swyddogion rhanbarth perthnasol) os tybir bod y gell wedi canymddwyn, dwyn anfri ar y Gymdeithas neu weithredu'n groes i egwyddorion y Gymdeithas. Dylid rhoi rhybudd swyddogol i gell cyn ei diarddel.
c. Bydd pob cell yn anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod rhanbarth.
9. Y Cyfarfod Cyffredinol
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith unwaith y flwyddyn fel arfer ym mis Hydref. Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol arbennig yn ychwanegol at y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol os yw 'r Senedd, dau ranbarth, pum cell, neu ddeugain aelod cyffredin yn gwneud cais am hyn.
Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol
a. Bydd gan bob aelod o Gymdeithas yr Iaith hawl i fynd i Gyfarfodydd Cyffredinol. Caniateir i'r wasg a sylwebyddion fod yn bresennol oni bai fod mwyafrif syml o'r aelodau yn penderfynu'n groes i hynny.
b. Gweithredir Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol ar ddisgresiwn y Cadeirydd er mwyn hwyluso trafodaeth. Gyda mwyafrif syml o'r cyfarfod gellir gollwng y Rheolau Sefydlog.
c. Dim ond aelodau o Gymdeithas yr Iaith (h.y. y rhai sy'n dal cerdyn pleidleisio) all bleidleisio yn y cyfarfod.
ch. (i) Rhaid i gynigion fod yn llaw un o aelodau'r Pwyllgor Llywio cyn y cyfarfod ar ddyddiad ac amser i'w penodi gan y Senedd.
(ii) Derbynnir cynigion brys rhwng dyddiad olaf derbyn cynigion ac amser arbennig yn ystod y cyfarfod i'w benderfynu gan y Pwyllgor Llywio.
d. Ni all un aelod siarad fwy nag unwaith ar unrhyw gynnig neu welliant heb ganiatâd y cyfarfod oni fydd yn siarad ar bwynt o drefn, gwybodaeth neu eglurhad, ond bydd gan gynigydd y cynnig gwreiddiol neu welliant hawl i ateb y drafodaeth.
dd. (i) Ni fydd y Pwyllgor Llywio yn derbyn cynnig heb enw cynigydd ac eilydd.
(ii) Os na fydd y cynigydd a'r eilydd a enwir yn y cynnig yn bresennol, ni thrafodir y cynnig na gwelliant heb ganiatâd y Cyfarfod Cyffedinol.
(iii) Ni ellir tynnu cynnig na gwelliant yn ôl heb ganiatâd y cyfarfod.
(iv) Ar ôl y cynnig a'r eilio bydd y Cadeirydd yn datgan bod y cynnig gerbron y Cyfarfod, a dylai unrhyw aelod sy'n dymuno siarad geisio tynnu sylw'r Cadeirydd.
(v) Ar unrhyw adeg yn ystod y drafodaeth gellir cynnig gwelliant ysgrifenedig (os ydyw yn llaw un o'r ysgrifenyddion o flaen y cyfarfod ar ddyddiad ac amser i'w benodi gan y Senedd), a chaniateir gwelliant ar welliant os cyflwynir ef i'r Cadeirydd yn ysgrifenedig dri chynnig ymlaen llaw.
(vi) Gall y cynigydd dderbyn unrhyw welliant os dymuna, a'r cynnig fydd yn sefyll fydd y cynnig wedi'i wella.
(vii) Ni chymerir gwelliant ar y cynnig gwreiddiol fel araith yn erbyn y cynnig gwreiddiol.
(viii) Os nad yw cynigydd y cynnig gwreiddiol yn derbyn gwelliant, bydd y cyfarfod yn mynd ymlaen i drafod y gwelliant.
(ix) Bydd hawl gan y cynigydd drosglwyddo'r hawl i grynhoi i gynigydd y gwelliant os dymuna.
e. (i) Tra bydd aelod arall yn siarad, gall aelod siarad â'r gadair ar bwynt o wybodaeth a godir yn unig i ofyn cwestiwn neu i gywiro'r gadair. Yn y naill achos a'r llall bydd gan y siaradwr neu'r Cadeirydd y dewis o ymdrin â'r pwynt neu beidio. Ni ellir codi pwyntiau o wybodaeth yn ystod araith grynhoi.
(ii) Os nad oes aelod yn siarad, gall aelod siarad â'r gadair:
• ar bwynt o drefn, a gyfeirir i'r gadair ac a fydd yn ymdrin yn unig â threfn y cyfarfod
• ar bwynt o eglurhad, a gyfeirir i'r gadair ac a fydd yn ymdrin yn unig ag egluro sylwadau a wnaed yn gynharach gan y gadair neu gan siaradwr arall. Ni fydd yn bwynt o wybodaeth.
f. Yn ystod trafodaeth ar gynnig neu welliant gellir cynnig y cynigion trefn canlynol i ohirio neu gwtogi ar drafodaeth. Ni ellir cynnig yr un cynnig trefn fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod o ddeng munud.
(i) Gadael cynnig ar y bwrdd, a olyga, os yw'n cael ei basio, ohirio trafodaeth ar y cynnig blaenorol hyd y Cyfarfod Cyffredinol nesaf (os dymuna'r cynigydd a'r eilydd ei ail gynnig).
(ii) Cyfeirio'r cynnig yn ôl, a olyga, os yw'n cael ei basio, gyfeirio'r cynnig yn ôl i'r Senedd.
ff. Bydd pob pleidlais drwy ddangos cardiau pleidleisio. Ni chaniateir i neb bleidleisio dros eraill.
g. Pleidlais fwrw'n unig fydd gan y Cadeirydd.
ng. (i) Gall y Cadeirydd o'i (d)dewis ei hun:
• gyfyngu ar amser unrhyw ran o'r agenda
• gyfyngu ar amser unrhyw drafodaeth ar gwestiwn neilltuol.
(ii) Bydd penderfyniad y Cadeirydd ar unrhyw bwynt o drefn yn derfynol os nad yw mwyafrif llwyr o'r aelodau sy'n bresennol yn pleidleisio dros gynnig yn herio penderfyniad y Cadeirydd ar unrhyw fater.
(iii) Bydd penderfyniad o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd fel cadeirydd angen mwyafrif syml cyn dod i rym. Yna bydd Cadeirydd arall yn cadeirio am weddill y cyfarfod.
(iv) Yn yr achos uchod, bydd y Cadeirydd yn trosglwyddo'r gadair i gadeirydd arall yn ystod y drafodaeth ar y cynnig. Gellir cynnig hyn ar unrhyw bryd yn ystod y cyfarfod.
(v) Os dymuna y Cadeirydd siarad ar unrhyw bwnc ar wahân i'w ddyletswydd fel cadeirydd, yna rhaid iddi/iddo adael y gadair. Cymerir ei (l)le gan gadeirydd arall am weddill y drafodaeth ar y pwnc.
h. Golyga mwyafrif llwyr bod dau draean o'r aelodau sy'n bresennol yn pleidleisio dros y cynnig. Ar gyfer y pwrpas yma anwybyddir rhanedau.
i. Penderfynir ar amselen y Cyfarfod Cyffredinol ac ar drefn y cynigion a materion trefnyddol eraill gan y Pwyllgor Llywio a gyfansoddir fel a ganlyn: Y Cadeirydd, Is-Gadeiryddion, Swyddogion Cyflogedig.
j. Disgwylir i Gadeiryddion Grwpiau Ymgyrchu gyflwyno adroddiadau blynyddol am eu gwaith.
10. Cyfrif Banc
Y Trysorydd sydd yn gyfrifol am gyfrif banc y Gymdeithas. Bydd cerdyn banc ynghlwm â'r cyfrif banc ar gyfer defnydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Rhoddir awdurdod i'r Ysgrifennydd Cyffredinol ddefnyddio'r cerdyn i dalu am nwyddau neu wasanaethau angenrheidiol hyd at swm a bennir gan y Senedd.
11. Newid y Cyfansoddiad
Ni cheir newid y Cyfansoddiad hwn ond trwy bleidlais yr aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol.
12. Dehongliad
Os digwydd bod unrhyw gwestiwn yn codi ynglŷn â dehongliad y Cyfansoddiad, bydd cadeirydd y cyfarfod (neu rhwng cyfarfodydd, Cadeirydd y Gymdeithas) yn dyfarnu ar y mater a bydd ei d/ddyfarniad yn derfynol oni bai bod cynnig yn cael ei basio yn gofyn i'r person symud o'r Gadair. Adroddir am unrhyw ddyfarniad o'r fath i'r Senedd, a fydd yn argymell gweithredu i ddileu unrhyw amwysedd.
Atodiad | Maint |
---|---|
Cyfansoddiad CYI 2020.pdf | 65.34 KB |