Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau. Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai, a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobl leol.
Fel Cymdeithas, credwn fod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn holl-bwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg. Credwn y dylid ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchad dai adlewyrchu cyflogau lleol.
Galwn am Ddeddf Eiddo a fydd yn:
-
Sicrhau'r Hawl i Gartre'n Lleol
Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i weithredu ar gais pobl leol am gartref i'w brynu, ei rentu neu drwy gynllun hybrid - a hynny o fewn pellter ac amser rhesymol
-
Cynllunio ar gyfer Anghenion Lleol
Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i gyd-gynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd ym mhob ardal o'r sir gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal. Byddent yn sail i bolisïau tai, defnydd tir a pholisïau cyhoeddus fel trafnidiaeth ac addysg
-
Grymuso Cymunedau
Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol allweddol trwy sefydliadau a arweinir gan y gymuned. Gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i waredu neu brydlesu tir ac eiddo i fentrau cymdeithasol ym mherchnogaeth y gymuned
-
Blaenoriaethu Pobl Leol
Creu system tai ac eiddo sy'n diwallu anghenion lleol ac yn gwarchod cymunedau rhag effeithiau y farchnad rydd; gosod amodau ar berchnogaeth a gwerthiant sy'n rhoi hawliau cyntaf i bobl leol neu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i brynu neu rentu tai a phrynu tir ac eiddo yn unol â'r Asesiadau Cymunedol
-
Rheoli'r Sector Rhentu
Rheoli lefel rhenti, safonau tai ac amodau tenantiaeth i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat a'r sector tai cymdeithasol
-
Sicrhau Cartrefi Cynaliadwy
Sicrhau bod y stoc dai presennol a chartrefi newydd yn fforddiadwy, yn lleihau carbon ac yn gydnaws ag anghenion cymunedol – trwy lynu at egwyddor datblygu cynaliadwy
-
Buddsoddi mewn Cymunedau
Galluogi cymnedau i arfer eu hawliau i berchenogi tai, tir ac asedau cymunedol trwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol. Hwyluso benthyciadau llog isel gan fanc cymunedol, fel Banc Cambria, ar gyfer pobl leol a mentrau a arweinir gan y gymuned
Darllenwch ragor am ein cynigion yma.
Credwn hefyd fod angen ffurfioli’r drefn o asesu effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â jeff@cymdeithas.cymru