Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Donaldson, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal ar y cyfle i ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Mae cyfle cyflawni hyn trwy weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies (“Un Iaith i Bawb”), a gomisiynwyd gan y llywodraeth ei hun, y dylid terfynu cysyniad dilornus “Cymraeg Ail Iaith” a sefydlu yn ei le gontinwwm dysgu “Cymraeg” i bawb. Byddai pob disgybl yn derbyn peth o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg fel y daw i fedru defnyddio’r Gymraeg yn ymarferol. Cydnabyddwn y bydd angen amser sylweddol i weithredu datblygiad o’r fath, a galwn ar y llywodraeth felly i sefydlu’r egwyddor yn awr a sefydlu gweithgor proffesiynol i fonitro cynnydd blynyddol tuag at y nod. Ni ddylai unrhyw ddisgybl fod tan anfantais ddiwylliannol nac economaidd o’i amddifadu o’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg.
David Crystal, Athro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language
Yr Athro Christine James, Prifysgol Abertawe
Toni Schiavone, cyn was sifil, adran addysg Llywodraeth Cymru
Sel Williams, Ysgol dysgu gydol oes, Prifysgol Bangor
Bryn Tomos, Adran addysg, prifysgol Bangor
Gethin Lewis, cyn Brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol N.U.T. Cymru