Beirniadu cyhoeddiad di-sylwedd y Llywodraeth ar ail dai

Rydym wedi beirniadu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw (29 Ionawr) parthed yr argyfwng tai gan nad yw'r datganiad yn mynd yn ddigon pell.

 

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Julie James, y bydd y Llywodraeth yn cynnal rhagor o waith ymchwil ar y mater ac “yn ystyried potensial cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau.”

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:

“O’r diwedd mae’r Llywodraeth wedi gwneud datganiad mewn ymateb i'r ddeiseb a gyflwynon fis Tachwedd yn galw arnynt i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai. Yn anffodus, di-sylwedd ydy’r datganiad hwn sydd ddim yn cynnwys y camau gweithredu mawr, a brys, sydd eu hangen os ydy’r Llywodraeth o ddifri ynghylch taclo’r argyfwng tai. Mae’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn ymrwymo i unrhyw weithredoedd penodol yn destun pryder gan fod angen gweithredu nawr yn hytrach na chynnal rhagor o drafodaethau di-bendraw.

“Penderfynodd y Llywodraeth i gynyddu Treth Trafodiant Tir ar ail gartrefi nôl yn Rhagfyr yn dilyn ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill. Croesawon hyn ar y pryd, gan hefyd fynegi siomedigaeth mai dim ond cynnydd pitw o 1% y gwelon. Mae'r Llywodraeth wedi dangos trwy eu diffyg gweithredu ystyrlon nad ydyn nhw’n ymwybodol faint o argyfwng sydd - ac fe bwysleisir hyn gan y ffaith mai datganiad ysgrifenedig ydyw yn hytrach nag un llafar y gall Aelodau o’r Senedd ei sgriwtineiddio yn y Siambr.

“Diolch i bwysau gan bobl Cymru, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi addo y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i daclo’r argyfwng tai yn nhymor nesa’r Senedd os y bydd yn parhau yn ei swydd. Dim ond drwy gyflwyno Deddf Eiddo allwn ni wir daclo’r argyfwng bresennol a sicrhau fod y farchnad tai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth.  I’r perwyl hwn rydym wedi trefnu rali naw Diwrnod wedi’r etholiad ar safle argae Tryweryn er mwyn herio’r llywodraeth newydd, beth bynnag ei liw, i weithredu.”