‘Y tro olaf’ dylai Llywodraeth San Steffan benderfynu ar gyllideb S4C

 

Gyda Llywodraeth San Steffan yn y broses o benderfynu ar setliad ariannol S4C ar gyfer y cyfnod 2022-27, mae mudiad iaith wedi dweud taw dyma’r ‘tro olaf’ dylai’r cyfrifoldeb fod yn eu dwylo nhw.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Weinidog Cyfryngau a Data y Deyrnas Gyfunol, John Whittingdale AS, yn galw am drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol teg i’r sianel. 

 

Dywed y llythyr:

“Ers 2010, mae cyllideb S4C wedi ei chwtogi o 36% mewn termau real, ac mae gan y sianel 40% yn llai o staff. Nid oes modd dadlau nad yw S4C wedi cyfrannu’n fwy na’r un darlledwr cyhoeddus arall at arbedion y pwrs cyhoeddus.” 

“S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd — mae gwerth y sianel felly’n llawer pwysicach na’r hyn y gall y farchnad ei wobrwyo. Chwaraea S4C rôl ieithyddol, ddiwylliannol ac addysgol hanfodol yng Nghymru, ac mae’r sianel hefyd yn gwbl allweddol o ran darparu newyddion Cymreig i bobl Cymru, arddangos straeon pobl gyffredin Cymru, a sgriwtineiddio ein gwleidyddion etholedig. Mae bodolaeth a llwyddiant parhaus y sianel felly’n hollbwysig nid yn unig i’r Gymraeg a diwylliant Cymru, ond hefyd i’n proses ddemocrataidd. Gan nad yw’r farchnad ynddo’i hun yn gallu cynnal cyfoeth diwylliannol S4C, mae angen cefnogaeth arian cyhoeddus ychwanegol ar S4C.”

Ai’r llythyr yn ei flaen i wneud yr achos dros drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru:
 
“Mae’r sefyllfa bresennol, ble mae’n rhaid i S4C ymbil ar DCMS am setliad ariannol teg bob pum mlynedd, ac egluro a chyfiawnhau ei bodolaeth wrth Lywodraeth sydd ddim i’w gweld yn deall cyd-destun ieithyddol a diwylliannol Cymru, yn gwbl annheg. 
. . . Credwn y dylid trosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol hirdymor teg i’r unig sianel deledu Gymraeg sy’n bodoli yn y byd.”
 
Dywedodd cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, Elfed Wyn Jones:

 

“Mae S4C yn haeddu llawer mwy na briwsion gan Lywodraeth San Steffan; mae’n haeddu cael setliad ariannol teg sy’n cydnabod ei chyfraniad ieithyddol a diwylliannol ac sy’n galluogi ei llwyddiant parhaus. Dyma'r tro olaf y dylai S4C orfod ymbil i DCMS am setliad ariannol teg pob 5 mlynedd.

“Yr unig ffordd y gallwn ni sicrhau setliad ariannol teg i S4C yn yr hirdymor yw drwy drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru. Mae consensws trawsbleidiol yn bodoli yng Nghymru o blaid datganoli S4C a materion darlledu i Gymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru ar y mater ym mis Mawrth. Nid yn unig hyn, ond mae 65% o bobl Cymru o blaid trosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru. Fe ddylai Llywodraeth San Steffan barchu dymuniadau pobl Cymru a chaniatáu i ni benderfynu setliad ariannol S4C, yn ogystal â pholisi darlledu yn ei gyfanrwrwydd, ein hunain.”

Darllenwch y llythyr isod:
AtodiadMaint
Llythyr Cymdeithas yr Iaith - DCMS (newydd2)-2.pdf69.52 KB