Am 9am bore yfory (Dydd Mawrth 15ed o Ragfyr), bydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn trafod deiseb a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith sy'n galw ar y Llywodraeth i roi i Awdurdodau Lleol rymoedd i reoli'r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristaidd. Rydym hefyd wedi penderfynu y byddwn yn trefnu y flwyddyn nesaf Rali Genedlaethol "Nid yw Cymru ar werth" ar hyd argae Tryweryn ger Y Bala lle boddwyd cymuned wledig Gymraeg Capel Celyn 55 mlynedd yn ôl.
Esboniodd Osian Jones, llefarydd ar ran ein hymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith:
"Llofnodwyd ein deiseb gan 5380 o bobl o fewn mis, ac yr ydym yn gofyn i'r Pwyllgor Deisebau yfory i argymell fod dadl frys yn siambr y Senedd ar y ddeiseb a'r argyfwng tai yn ein cymunedau Cymraeg. Ers cenhedlaeth rydyn ni wedi colli mwy a mwy o'n stoc tai ar y farchnad agored wrth fod unigolion cyfoethocach yn eu prynu fel tai haf, ail gartrefi a buddsoddiadau masnachol, ac mae argyfwng Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa. O ganlyniad i hyn, mae'n amhosibl i fwyafrif o drigolion mewn cymunedau fel Abersoch, Nefyn a nifer gynyddol o lefydd eraill ymgartrefu yn eu cymunedau eu hunain, ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar yr iaith Gymraeg.”
“Mae’n gwbl amlwg nad yw’r system economaidd yn gweithio er budd ein cymunedau nac ychwaith ein hiaith. Dylai Llywodraeth Cymru am unwaith flaenoriaethu cymunedau rydd, nid y farchnad rydd: mae’n deiseb ‘Nid yw Cymru ar werth’ yn gyfle euraidd i’r Llywodraeth wneud hyn.”
Wrth gyhoeddi y bydd y Gymdeithas yn cynnal rali "Nid yw Cymru ar werth" Ddydd Sadwrn 15ed Mai ar argae Tryweryn, dywedodd Ffred Ffransis:
"Yr hyn sy'n rhwystredig yw fod llawer o'r atebion i'r broblem wedi bod yn wybyddus ers degawdau, ond bod diffyg ewyllys i weithredu gan lywodraeth ar ôl llywodraeth. Cynhelir ein rali wythnos a hanner ar ôl yr etholiad, a disgwyliwn y bydd gweithredu dros ein cymunedau Cymraeg yn un o flaenoriaethau brys y llywodraeth nesaf. Derbyniwn y bydd angen Deddf Eiddo i ateb y broblem yn gyflawn, ac na fydd deddfwriaeth newydd yn bosibl cyn yr etholiad. Ond yr ydym wedi pwysleisio i'r Pwyllgor Deisebau fod camau brys y gall y Llywodraeth bresennol eu cymryd NAWR i alluogi Awdurdodau Lleol i ddechrau rheoli'r farchnad dai er mwyn cymunedau lleol, ond mae ymateb cychwynnol y Gweinidog Tai Julie James i’n galwadau yn gywbl annigonol."
Ymhlith enhgreifftiau o'r camau brys yr ydym yn disgwyl i'r Llywodraeth bresennol eu cymryd y mae:
* Amrywio graddfeydd Deddf Trafodiant Tir fel bod tai yn ddrutach i'w prynu fel ail gartrefi neu at ddefnydd masnachol
* Codi'r premiwm treth cyngor ar dai haf a chau'r bwlch i atal osgoi'r dreth
* Cyfarwyddo Awdurdodau Lleol i adnabod ardaloedd sydd dan bwysau mawr oherwydd y farchnad dai - gan dderbyn y bydd angen grymoedd pryniant gorfodol trwy ddeddfwriaeth yn yr ardaloedd hyn. Dylai fod yn rhan o broses creu'r Cynlluniau Datblygu Lleol newydd.
Cynhelir cyfarfod y Pwyllgor Deisebau am 09:00 yfory (Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr) yn fyw ar wefan y Senedd.