10 peth y gallet ti ei wneud

Dyma 10 peth y gallet ti ei wneud a all gwneud gwahaniaeth enfawr i ddyfodol y Gymraeg yn y byd cyfryngol.

  1. Mynychu ralïau a phrotestiadau yn erbyn cwmnïau/sefydliadau sydd wedi tanbrisio neu sydd yn tanseilio’r Gymraeg.
  2. Boicotio gwrando ar radio lleol nad yw’n rhoi tegwch i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg.
  3. Ymuno â’r Grŵp Dyfodol Digidol er mwyn rhannu dy syniadau a bod yn rhan o’r chwyldro.
  4. Llythyru dy Aelod o'r Senedd ac Aelod Seneddol lleol gan ofyn iddynt bwyso am ddatganoli darlledu i Gymru a chefnogi’r Gymraeg ar bob cyfle.
  5. Anfona lythyr at dy bapur lleol i godi sŵn ynghylch yr annhegwch mae’r Gymraeg yn ei chael yn ein papurau, ein gorsafoedd radio lleol, ac ar y we.
  6. Cymra ran ar raglenni megis Taro’r Post, Radio Wales Phone-In neu unrhyw raglen radio/teledu a choda dy lais o blaid y Gymraeg.
  7. Llofnoda ddeisebau ar amryw wefannau sydd yn dyrchafu statws a gosodiad y Gymraeg o fewn ein cymdeithas.
  8. Pryna lyfrau Cymraeg a chylchgronau Cymraeg – cyfranna iddynt. Dim ond trwy sicrhau diwylliant a llenyddiaeth fyw bydd y Gymraeg yn goroesi; bydda’n rhan o’r cyffro.
  9. Trafoda gyda dy ffrindiau/teulu a lledaenwch ein neges: mae cyfrifoldeb arnom ni gyd i fod yn rhan o’r chwyldro, yn ein dwylo ni y mae dyfodol y Gymraeg.
  10. Ymaeloda â Chymdeithas yr Iaith a hawlia dy farn. Cymdeithas o bobl yw Cymdeithas yr Iaith – pobl sydd yn becso am y Gymraeg ac sydd am weld dyfodol iddi.