Ymlaen o'r Gorffennol: nodi 60 mlwyddiant Protest Pont Trefechan

04/02/2023 - 10:00

10am, dydd Sadwrn, 4 Chwefror 2023

Pont Trefechan, Aberystwyth

I nodi 60 mlwyddiant Protest Pont Trefechan, ac i gloi blwyddyn dathlu'r Gymdeithas, byddwn yn cynnal taith gerdded o amgylch Aberystwyth gan ymweld â rhai lleoliadau arwyddocaol yn hanes y Gymdeithas gydag anerchiad byr ym mhob lleoliad gan rai fu’n allweddol i'n gwaith dros y blynyddoedd, a rhai o brotestwyr gwreiddiol Pont Trefechan yn eu plith.

Yna am 1 o'r gloch bydd cyflwyniad byr yn Festri Capel Seion, Stryd y Popty. Croeso cynnes i bawb - yn enwedig y protestwyr gwreiddiol. Os na fyddwch yn gallu gwneud yr holl daith, bydd modd mynd i Festri'r Capel o 10.00.