70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd: beth yw'r dyfodol?

23/06/2019 - 12:00

70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd: beth yw'r dyfodol?

12pm, dydd Sul, 23ain Mehefin

Pabell Byw yn y Ddinas, Tafwyl, Castell Caerdydd

Cadeirydd: Melangell Dolma

Siaradwyr: Dr Dylan Foster-Evans, Cynghorydd Rhys Taylor a Mabli Siriol o'r Gymdeithas

Eleni mae Caerdydd yn dathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yn y ddinas ers i Ysgol Bryn Taf agor ei drysau yn 1949. Yn sicr mae addysg Gymraeg wedi dod yn bell ers hynny, ond beth am y 70 mlynedd nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Cymraeg ail iaith yn diflannu yn y cwricwlwm newydd, gyda phob disgybl yn dilyn un continwwm iaith. Gwyddwn hefyd fod gan Gaerdydd, fel dinas fwyaf Cymru, gyfraniad mawr i'w wneud tuag at gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Ond gyda rhieni dal yn gorfod brwydro am lefydd mewn addysg Gymraeg, ysgolion yn prysur llenwi a thwf lleol yn bell o'r hyn sydd ei angen er mwyn cyrraedd y miliwn, beth fydd angen newid er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn ein prifddinas?