05/11/2018 - 09:30
Achos Llys William Griffiths: Yr Ymgyrch dros Ddatganoli Darlledu i Gymru
Mae aelod o Gymdeithas yr Iaith, William Griffiths, yn mynd gerbron y llys am wrthod talu ei ffi drwydded deledu fel rhan o'r ymgyrch i ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru. Dewch i'r rali i'w gefnogi cyn ei achos llys:
9.30yb, dydd Llun, 5ed o Dachwedd
Llys Caernarfon, Ffordd Llanberis, Caernarfon LL55 2DF
Siaradwyr: Geraint Lovgreen ac Aled Powell
Medrwch chi ymuno â'r boicot o'r ffi drwydded deledu drwy fynd i: cymdeithas.cymru/datganolidarlledu neu gyfrannu at y gronfa ariannol i gefnogi'r ymgyrch drwy fynd i: cymdeithas.cymru/cyfrannu
Am ragor o wybodaeth: gogledd@cymdeithas.cymru / 01286 662908