Addysg Gymraeg i Bawb – pam amddifadu 80% o blant o'n hiaith?

24/03/2018 - 12:30

Lleoliad: Pafiliwn Llangollen,
Llangollen LL20 8SW

Amser: 12:30pm, dydd Sadwrn, 24ain Mawrth 2018

Llŷr Gruffydd AC (Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Addysg), Elaine Edwards (Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC), Mirain Roberts (Cymdeithas yr Iaith) a'r Cynghorydd Mair Rowlands (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd)  

Bob blwyddyn, mae bron i 27,000, neu 80%, o bobl ifanc Cymru yn cael eu hamddifadu o'r gallu i gyfathrebu a gweithio yn Gymraeg oherwydd y system addysg Gymraeg ail iaith.   

Bum mlynedd ers i adroddiad annibynnol argymell dileu Cymraeg ail iaith, pam nad oes gweithredu ar addewid y Llywodraeth i'w ddisodli gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl? Dewch i drafod cyfraniad addysg at gyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys cyfraniad Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a mesurau i gynllunio'r gweithlu.   

Mae croeso i bawb ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith, mudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru, drwy fynd i: http://cymdeithas.cymru/ymaelodi  

Welsh-medium Education for All– why deprive 80% of kids of the language?

12:30pm, Saturday, 24th March

Llŷr Gruffydd AM (Shadow Education Minister), Elaine Edwards (General Secretary, UCAC), Mirain Roberts (Cymdeithas) and Cllr Mair Rowlands (Deputy Leader, Gwynedd Council)

Every year, almost 27,000, or 80%, of our young people are denied the ability to work and communicate in Welsh language because of the teaching of Welsh as a second language. Five years since an independent report recommended abolishing second language, why hasn't the government acted on its pledge to replace it with a single qualification for every pupil? Come to discuss education's contribution to reaching the national target of a million Welsh speakers, including the role of Welsh in Education Strategic Plans and measure to plan the workforce.

Everyone's welcome to join Cymdeithas yr Iaith, a group which campaigns peacefully for the Welsh language and all communities in Wales, by going to: http://cymdeithas.cymru/ymaelodi