
Rydyn ni'n croesawu gweledigaeth Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg o ‘Gymru lle y gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg’ ond yn dweud bod rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio pwerau rheoleiddio, ymestyn Safonau’r Gymraeg a chryfhau hawliau iaith os am wireddu’r nod.
Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg ymgynghori ar Gynllun Strategol ddiwedd llynedd. Yn eu hymtaeb fe wnaeth Cymdeithas ei feirniadu am nad oedd y gair "hawl" yn ymddangos unwaith a bod y Cynllun yn annog y cyhoedd i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau Cymraeg heb gydnabod mai’r cyd-destun sydd yn rheoli dewis iaith pobl a bod angen i gyrff a sefydliadau ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol.
Wrth ymateb i'r Cynllun Strategol dywedodd Sian Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n croesawu cynnwys amcan newydd yn y Cynllun sy'n dweud yn glir y bydd y Comisiynydd yn eiriolwr ar ran pobl Cymru, a'r weledigaeth o Gymru lle gall pobl fyw eu bywydau trwy'r Gymraeg, ond mae angen i’r Comisiynydd roi arweiniad clir ar hawliau pobl Cymru a gorfodi’r dyletswyddsydd ar gyrff i gynnig ac ehangu gwasanaethau yn Gymraeg.Os ystyriwn bod Strategaeth y Llywodraeth ‘Mwy na Geiriau’ yn dweud y dylai’r Byrddau Iechyd weithredu cynnig rhagweithiol i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg ond gwyddom nad yw hynny yn digwydd fel arfer"
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn awyddus i weld y Comisiynydd yn derbyn cefnogaeth ac adnoddau digonol gan y Llywodraeth i ymestyn ei gwaith at feysydd tai a chynllunio ac arwain ar adeiladu seilwaith newydd i’r Gymraeg fedru ffynnu fel iaith gymunedol.
Ychwanegodd Sian Howys:
"Does dim sôn am y Gymraeg fel iaith gymunedol yn y Cynllun Strategol, yn ein cymunedau mae’r Gymraeg yn bodoli o ddydd i ddydd ond mae ein cymunedau Cymraeg yn fregus iawn ac mae heriau anferth o ran sicrhau tai a gwaith i bobl yn y cymunedau hynny. Mae rôl allweddol gan y Comisiynydd i ddatblygu ei gwaith yn ymateb i Gynlluniau Datblygu Lleol awdurdodau lleol, i geisiadau cynllunio unigol o bwys, yn craffu ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Chynlluniau Cyflawni Addysg Gymraeg lefel ysgol arfaethedig y Bil Addysg. Mae angen unedau arbenigol i wneud y gwaith hynny. Does gan y Comisiynydd ddim yr adnoddau i wneud ar hyn o bryd, ond mae lle gan y Comisiynydd i bwyso am hynny."
Mae ein hymateb ni i ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg i'w Chynllun Strategol Drafft i'w weld trwy bwyso yma.