"Agenda’r Corff Cyfathrebu newydd i Gymru": Datganoli pwerau cyfathrebu a darlledu i Gymru - y Camau Nesaf

29/07/2024 - 16:00

Galeri, Caernarfon

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn sefydlu’r corff newydd er mwyn braenaru’r tir ar gyfer pwerau datganoledig yn y maes darlledu a chyfathrebu.
Bydd Cymdeithas yr Iaith felly yn ynnal trafodaeth ar sut y gallai’r corff newydd gyfrannu at gryfhau democratiaeth, diwylliant ac iaith Cymru.

Ymhilth y rhai fydd yn rhan o'r digwyddiad mae:

  • Yr Athro Tom O’Malley
  • Mirain Owen, Cymdeithas yr Iaith
  • Llion Iwan, Cwmni Da
  • Cefin Campbell AS

Bydd cyfle hefyd i bawb gyfrannu.

Mae mynediad am ddim ond gofynnwn i chi gofrestru trwy ffurflen isod.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru